Partneriaeth yn creu cartrefi newydd ar Ynys Môn
Mae pump o denantiaid yn elwa o gartrefi newydd sbon i’w rhentu diolch i bartneriaeth gyda Chymdeithas Tai Gogledd Cymru, Llywodraeth Cymru a Cyngor Sir Ynys Môn.
Mae’r prosiect tai cymdeithasol Rhes Capel ar safle yng Nghaergybi wedi cael ei ariannu ar y cyd gan Gymdeithas Tai Gogledd Cymru a cronfa Rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog dros Gymunedau a Mynd i’r Afael â Thlodi:
“Rwy’n hapus bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi y dablygiad yma gyda chyllid o bron i £310,000. Mae’r cynllun wedi creu cartrefi o safon uchel i bobl lleol, a hefyd wedi defnyddio cwmniau a chyflenwyr lleol ac felly wedi cefnogi yr economi lleol”.
“Mae’r datblygiad yn esiampl ardderchog o gydweithio effeithiol rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ynys Môn, Cymdeithas Tai Gogledd Cymru, a’r sector adeiladu tai preifat lleol, sydd yn helpu i ddelifro ein gweledigaeth ar gyfer tai yng Nghymru. Rwy’n dymuno pob hapusrwydd i’r tenantiaid yn eu cartrefi newydd”.
Mae’r rhes o bum annedd newydd tri person, dwy ystafell wely, wedi cael ei adeiladu ar safle yr hen Eglwys Fethodistaidd Saesneg yn Ffordd Longford, ac fe’i lleolir yn agos at ysgolion lleol a chyfleusterau eraill. Mae’r cartrefi newydd wedi cael eu hadeiladu i fodloni safonau ansawdd dylunio tai Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:
“Mae Rhes Capel yn brosiect gwych a rydym yn falch o fod wedi gweithio’n agos gyda Chyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth Cymru. Mae adfywio Caergybi yn dod yn ei flaen ac mae’r prosiect hwn yn ddatblygiad gwych arall i Dai Gogledd Cymru ei reoli.”
Ychwanegodd deilydd portfolio Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Aled Morris Jones :
“Rydym yn falch o fod wedi chwarae rhan bwysig wrth wireddu’r datblygiad hwn, sy’n cyfrannu at ein hamcanion tai ac adfywio.”