Pe bawn i yn artist…

Yn dilyn rhaglen gelfyddydol uchelgeisiol, mae grŵp o denantiaid a defnyddwyr gwasanaethau tai â chefnogaeth Tai Gogledd Cymru yn arddangos eu doniau artistig mewn arddangosfa yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd.

Mae’r grŵp o Fangor wedi cwblhau cwrs deg wythnos oedd yn eu cyflwyno i amrywiaeth o ddisgyblaethau a thechnegau artistig. Roedd y prosiect yn rhaglen bartneriaeth rhwng Tai Gogledd Cymru a Gwasanaeth Amgueddfeydd a Chelfyddydau Cyngor Gwynedd.

Mae’r arddangosfa yn yr oriel yn dangos cynnydd y grŵp yn ystod y cwrs wrth iddynt ddatblygu’r gallu i fynegi eu hunain trwy wahanol gyfryngau.

Dywedodd Julie Eddowes Swyddog Allgymorth ac Ailsefydlu Tai Gogledd Cymru:

“Mae hwn wedi bod yn brosiect gwych, sydd nid yn unig wedi caniatáu i’r tenantiaid a’r defnyddwyr gwasanaeth ddatblygu eu sgiliau a darparu cyfrwng i’w mynegiant, ond mae hefyd wedi annog y grŵp i weithio fel tîm, a rhannu eu profiadau, eu barn a’u teimladau.”

“Mae’r gwaith y mae pob un ohonynt wedi’i gynhyrchu yn anhygoel ac yn dangos talent go iawn!”

Dan arweiniad yr artist cymunedol, Vivienne Rickman-Poole, dechreuodd y cwrs gyda thaith o amgylch yr Amgueddfa a’r Oriel a oedd yn ysbrydoliaeth i’r darpar artistiaid. Roedd yr ail wythnos yn canolbwyntio ar ymarferion bywyd llonydd, yn yr achos hwn, mecryll – a dechreuodd y grŵp fraslunio’r pysgod gan ddefnyddio lluniadu llinell, gan symud ymlaen i ddefnyddio lliwiau, a symud ymlaen ymhellach wedyn i ychwanegu collage. Ymysg y mathau eraill o dechnegau ac arddulliau a archwiliwyd yr oedd printio a phaentio dyfrlliw.

Ychwanegodd Julie:

“Mae gwaith y myfyrwyr wedi cael ei fowntio a’i arddangos er mwyn i’r cyhoedd allu ei weld ac mae hynny wedi creu ymdeimlad o falchder gwirioneddol ymysg ein defnyddwyr gwasanaeth. Dylai unrhyw un sydd â diddordeb ymweld â’r arddangosfa am ddim yn Oriel Gwynedd.”

Dywedodd Dafydd Lloyd, un o denantiaid Tai Gogledd Cymru a gymerodd ran yn y prosiect:

“Mae’r prosiect wedi bod yn un o’r profiadau mwyaf boddhaol a chreadigol yr wyf wedi ei gael erioed.”

Mae pedwar o’r defnyddwyr gwasanaeth yn parhau i gyfarfod â’i gilydd yn rheolaidd fel grŵp celf , ac mae Amgueddfa ac Oriel Gwynedd yn caniatáu i’r egin artistiaid ddefnyddio’r lleoliad am 10 wythnos arall ar sail talu ‘mewn nwyddau’.