Pen-blwydd Hapus i Monte Bre yn 30 oed!
Roedd y cynllun iechyd meddwl Monte Bre yn dathlu ei ben-blwydd yn 30 ym mis Medi eleni.
Lleolir yn Llandudno, mae Monte Bre yn darparu llety â chymorth i breswylwyr sy’n gwella, neu sydd â phroblem iechyd meddwl hirdymor.
Dathlodd y cynllun y garreg filltir hon drwy wahodd rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol y maent yn gweithio gyda hwy i gael gwybodaeth bellach am y cynllun a’r gwaith a wnânt. Dros ginio bwffe a chacen buont yn siarad gyda’r preswylwyr, y Gweithwyr Prosiect Judith Lewis a Joe Lambe a’r Rheolwr Kerry Jones, gan drafod rhai o’r prosiectau gwaith gwych maent yn eu cyflawni,
Pen-blwydd Hapus yn 30 Monte Bre – a dymuniadau gorau am lawer o flynyddoedd i ddod!!