Pleidleisiwch dros Y Gorlan a gwnewch i’r ardd dyfu!

Mae Y Gorlan, Llety Lloches ym Mangor, wedi cael ei ddewis gan Tesco ar gyfer eu Cynllun Grant ‘Bags of Help’ drwy gydol misoedd Mawrth ac Ebrill 2019.

Bydd y prosiect gyda’r nifer uchaf o bleidleisiau ar draws eich rhanbarth yn derbyn £4,000, gyda’r prosiect yn yr ail safle yn derbyn £2,000, a’r prosiect yn y trydydd safle yn cael £1,000.

Os yn llwyddiannus, bydd yr arian yn helpu Y Gorlan i gwblhau Cam 2 eu gweddnewidiad o’r ardd! Cwblhawyd Cam 1 ym mis Tachwedd 2018, gyda gwaith fel plannu bylbiau ar gyfer y Gwanwyn, adeiladu sedd gariad i’r ardd a nifer o welyau wedi’u llenwi â phlanhigion ffrwythau a pherlysiau.

Cynhaliwyd y gwaith ailwampio mewn partneriaeth â Elfennau Gwyllt, menter gymdeithasol ddielw sy’n ymrwymedig i gael pobl yng ngogledd Cymru allan i’r awyr agored a chysylltu pobl â natur, gwella bywydau, cyfleoedd a dyheadau.

Eglurodd Rowena Maxwell, y Swyddog Tai Pobl Hŷn:

“Mae’r ardd yn edrych yn wych yn dilyn Cam 1, gyda’r cennin pedr, eirlysiau a blodau saffrwm eisoes yn  dechrau ymddangos. Ond rydym am wella’r gwaith caled a wnaed eisoes gan Wild Elements. Byddai’r arian yn ein helpu i wella hygyrchedd yr ardd a darparu man cysgodol i eistedd ac annog cyfleoedd ar gyfer cymdeithasu a gweithgareddau. Rydym hefyd yn gobeithio datblygu sawl ardal synhwyraidd o’r ardd wedi’u llenwi â phlanhigion persawrus a gweadog.”

Dywedodd Tom Cockbill, Cyfarwyddwr Elfennau Gwyllt,

“Mae’r tîm Elfennau Gwyllt yn edrych ymlaen at gam 2 gerddi Y Gorlan. Mi wnaeth y bobl a oedd yn dilyn cymwysterau yn ystod cam 1 fwynhau’r prosiect yn fawr, ac ar ddiwedd cam 1 mi ddywedodd un gŵr a oedd yn byw yn Y Gorlan bod y prosiect wedi rhoi ‘rhywbeth iddo fyw drosto’. Rydym wrth ein boddau efo ymateb fel hyn gan ei fod yn dweud wrthym ein bod wedi gwneud gwahaniaeth.”

“Bydd ymestyn y gerddi ymhellach yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau preswylwyr Y Gorlan, gan roi llecyn gwyrdd, hyfryd yng nghanol y dref iddynt dreulio eu hamser, yn garddio a chymdeithasu efo’i gilydd.”

“Mae gwirfoddolwyr Elfennau Gwyllt hefyd ar eu hennill o’r prosiect, gan ei fod yn eu galluogi i ennill sgiliau newydd, cynyddu hyder a hunan-barch a gwella eu cyflogadwyedd.”

Felly a fyddech cystal â helpu Y Gorlan a bwrw ei’ch pleidlais drwy gydol misoedd Mawrth ac Ebrill! I bleidleisio, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cymryd y tocyn a gewch gyda phob trafodyn a’i blannu yn y blychau arbennig ger y fynedfa.