Preswylwyr yn cael allweddi i’r cyntaf o’n cartrefi ym mhentref Yr Orsedd yn Wrecsam
Yn ddiweddar rydym wedi trosglwyddo’r cyntaf o 35 o gartrefi newydd ym mhentref Yr Orsedd, Wrecsam, i breswylwyr newydd.
Mae TGC wedi prynu’r cartrefi teuluol yn natblygiad Trevalyn Place ar gyrion y pentref, i gyd o fewn pellter cerdded byr i ysgolion, ac amwynderau lleol eraill.
Mae chwe theulu wedi symud i’w cartrefi newydd a disgwylir i’r lleill symud i mewn dros y 18 mis nesaf.
Dywedodd Lauren Eaton-Jones, ein Cyfarwyddwr Cynorthwyol Datblygu:
“Rydym yn hynod o falch ein bod wedi gallu prynu’r cartrefi hyn ar gyfer teuluoedd lleol a’r cyfan wrth galon cymuned Yr Orsedd.
“Maen nhw wedi cael eu hadeiladu gan y datblygwr Castle Green ac wedi’u hadeiladu i’r manylebau uchaf, sy’n golygu y byddan nhw’n economaidd i’w rhedeg.”
Paiten oedd y preswylydd cyntaf i symud i mewn yr wythnos diwethaf.
Dywedodd hi wrthym:
“Mae hwn yn ddechrau newydd gwych i mi a fy nheulu bach.”
Ymhlith y trigolion eraill a gafodd eu goriadau roedd Huwey a Kara.
Dywedodd Huwey:
“Mae hwn yn rhywle braf i’n teulu dyfu i fyny ac mewn lle hyfryd.”
Mae wyth llain arall ar y safle i fod i gael eu gorffen a dod ar gael yn yr haf, gyda gweddill y lleiniau i fod i gael eu cwblhau erbyn haf 2026.
Mae’r eiddo wedi’u hadeiladu i EPC A ac yn cynnwys paneli solar, a fydd yn cadw costau rhedeg i’r lleiafswm.