Preswylwyr yn symud i ddatblygiad Nant Eirias

Yn ddiweddar mae Tai Gogledd Cymru wedi cwblhau datblygiad tai newydd sbon ym Mae Colwyn. Mae Nant Eirias yn cynnig deuddeg o gartrefi newydd sbon i’r ardal fel rhan o Raglen Adfywio Bywyd y Bae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Mae cyfanswm o 12 o fflatiau un a dwy ystafell wely wedi’u hadeiladu fel rhan o’r prosiect £2.4 miliwn – gan ddisodli’r eiddo adfeiliedig a oedd wedi meddiannu’r safle am gyhyd.

Dywedodd Brett Sadler, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Dros Dro:

“Rydym yn hynod falch o’r ffordd y mae’r datblygiad hwn wedi mynd rhagddo. Mae’r fflatiau mewn lleoliad allweddol ar y ffordd i ganol tref Bae Colwyn o Barc Eirias, o fewn pellter cerdded i’r dref.

“Nid yn unig maen nhw’n edrych yn dda, maen nhw hefyd yn hynod effeithlon o ran costau rhedeg ynni – ystyriaeth allweddol o gyllid y cynllun drwy Lywodraeth Cymru a Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid a Thai Cymdeithasol Cyngor Conwy.”

Mae’r datblygiad yn ganlyniad i waith partneriaeth agos; mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Llywodraeth Cymru wedi bod yn allweddol o ran cyllid a chefnogaeth.

Esboniodd Helena Kirk, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

“Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy am eu cefnogaeth o ran cyllid yn ogystal â’r amser a dreuliwyd gan swyddogion yn gweithio efo ni i ddod â’r prosiect i’r pwynt hwn. Mae cyllid Llywodraeth Cymru hefyd wedi bod yn allweddol. Heb yr arian hwn ni fyddai’r datblygiad wedi digwydd ”

Y datblygiad hwn fydd y cyntaf ar gyfer Tai Gogledd Cymru gan eu bod ar gael ar rent canolradd sy’n golygu eu bod wedi’u hanelu at bobl mewn gwaith, neu sy’n gallu talu’r rhent heb gymorth ariannol ond gyda’r taliadau rhent yn llai na’r rhent a godir am gartref tebyg yn yr ardal gan landlord preifat. Rheolwyd gosodiadau gan Tai Teg, Cofrestr Cartrefi Fforddiadwy Conwy.

Mae preswylwyr wedi derbyn eu goriadau ac wedi symud i mewn; gan dderbyn rhodd o hamper bychan wedi’i lenwi â hanfodion i’w helpu i setlo yn eu cartrefi newydd.