Preswylwyr yn ymgymryd â rôl panel craffu

Mae Panel Craffu Preswylwyr newydd yn cefnogi cymdeithas tai yng Ngogledd Cymru gyda chyngor ac arweiniad allweddol, gan gyfrannu at y gwaith o lywodraethu a rheoli’r sefydliad.

 

Cafodd y panel o naw aelod, pob un ohonynt yn byw yng nghartrefi Tai Gogledd Cymru ar draws y rhanbarth ei penodi tua chwe mis yn ôl ac yn dilyn cyfnod o hyfforddiant, maent wedi cwblhau eu hadolygiad pwnc cyntaf oedd yn canolbwyntio ar weithdrefnau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a safonau gwasanaeth Tai Gogledd Cymru

Mae’r Panel yn cyfarfod yn rheolaidd â swyddogion ac i adolygu perfformiad a thrafod unrhyw faterion a meysydd i’w gwella. Ffurfiwyd y Panel gyda’r nod o gryfhau llinellau cyfathrebu rhwng Tai Gogledd Cymru a’i thenantiaid er mwyn cael gwybodaeth, adborth a barn hanfodol oddi wrth y rhai sydd wrth galon y gwasanaeth.

Dywedodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

“Fel ein cwsmeriaid a phrif ddefnyddwyr ein gwasanaethau, does neb yn gwybod mwy na’n tenantiaid am yr hyn y mae angen i ni ei wneud i wella.”

Cyflwynir gwybodaeth i’r Panel sy’n dadansoddi perfformiad gwasanaethau, ac ategir hynny gan adborth a gasglwyd oddi wrth denantiaid a defnyddwyr gwasanaeth eraill ar draws y portffolio tai. Diben hyn yw galluogi’r Panel Craffu y Preswylwyr i gynrychioli barn yr holl denantiaid, nid dim ond y rhai sydd ar y Panel.

Ychwanegodd Paul:

“Cyflwynwyd argymhellion y Panel ar ymddygiad gwrthgymdeithasol i’n Bwrdd ac ar ôl trafodaeth, oedd yn cynnwys rhai aelodau o’r Panel, cafodd pob argymhelliad ei dderbyn. Bydd hyn yn helpu rôl y Panel Craffu i sefydlu ei hun wrth i ni sefydlu patrwm gweithio ac agor llinellau newydd o gyfathrebu rhwng y tenantiaid a ni. Rwy’n credu y bydd y grŵp yma’n chwarae rhan bwysig iawn o fewn y sefydliad yn y dyfodol.”