Prosiect tai fforddiadwy gwerth £2.4 miliwn yn cychwyn

Bydd deuddeg o dai fforddiadwy newydd ar gael i’w rhentu ym Mae Colwyn yn gynnar yn 2019 wrth i Tai Gogledd Cymru ddechrau gweithio ar y safle yn Ffordd Abergele. Mae’r prosiect yn rhan o Raglen Adfywio Bywyd y Bae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Bydd cyfanswm o 12 o fflatiau un a dwy ystafell wely yn cael eu hadeiladu fel rhan o’r prosiect gwerth £2.4 miliwn – gan gymryd lle yr eiddo gwag oedd ar y safle am gyfnod hir.

Yn ogystal â mynd rhywfaint o’r ffordd i gwrdd â’r angen lleol am dai fforddiadwy, mae’r prosiect yn anelu at sicrhau bod y cartrefi newydd yn effeithlon o ran costau rhedeg ynni – ystyriaeth allweddol o ariannu’r cynllun trwy Grant Tai Cymdeithasol Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru a Chyngor Conwy.

Mewn digwyddiad diweddar i nodi dechrau’r gwaith, dywedodd Phil Danson, Cyfarwyddwr Lleoedd gyda Tai Gogledd Cymru:

Rydym wrth ein boddau o allu dechrau ar y safle yn Ffordd Abergele a bod Tai Gogledd Cymru’n gallu arwain ar y prosiect hwn. Bydd yn hwb gwirioneddol i’r rhan hon o’r dref. Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy am eu cefnogaeth o ran cyllid yn ogystal â’r amser a dreuliwyd gan swyddogion yn gweithio gyda ni er mwyn dod â’r prosiect i’r pwynt hwn. Mae ariannu gan Lywodraeth Cymru hefyd wedi bod yn allweddol a gyda chydweithrediad y ddau bartner, rydym bellach yn gallu symud ymlaen gyda’r gwaith adeiladu newydd cyffrous hwn. Mae Grŵp K&G, AG Architects a Datrys wedi cael eu penodi i weithio ar y prosiect ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw.

Mae’r cynllun hwn mewn safle allweddol ac mewn lleoliad amlwg ar y ffordd i ganol tref Bae Colwyn o Barc Eirias. Mae o fewn pellter cerdded i’r dref – ac mae’r datlbygwr yn hyderus y bydd galw mawr am y cartrefi newydd. Mae’r cynllun hefyd yn bwysig gan y bydd yn darparu llawer o fudd i’r gymuned, gan gynnwys cyfleoedd lleol ar gyfer hyfforddiant a chyflogaeth.

Bydd y cartrefi ar gael ar rent canolig sy’n golygu eu bod wedi’u hanelu at bobl sy’n gweithio, neu sy’n gallu talu’r rhent heb gymorth ariannol ond bydd yn llai na’r rhent a godir am gartref tebyg yn yr ardal gan landlord preifat. Gelir cael mynediad at osodiadau canolig trwy Gofrestr Cartrefi Fforddiadwy Conwy a dylai unrhyw un sy’n awyddus i gofrestru eu diddordeb, fynd i www.taiteg.org.uk