Rhestr fer i gadeirydd cymdeithas dai am waith ym maes cydraddoldeb

Wedi treulio gyrfa gyfan yn ymgyrchu dros gydraddoldeb ac amrywiaeth, Mae Tom Murtha cadeirydd Tai Gogledd Cymru wedi cyrraedd rhestr fer gwobrau amrywiaeth blynyddol cylchgrawn 24Housing.
 
Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal yn stadiwm Clwb Pêl-droed Aston Villa, Birmingham ar y 10fed o Fai.
Mae Tom wedi treulio ei holl yrfa – o’i gyfnod fel myfyriwr hyd nes ei ymddeoliad yn gweithio dros hawliau a chydraddoldeb grwpiau lleiafrifol o fewn y sector tai.
 
Mae ei lwyddiannau niferus yn cynnwys ei rôl ar Grŵp Cydraddoldeb y Ffederasiwn Tai Cenedlaethol a’i waith gyda Chomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar eu Comisiwn Tai. Cyn ymuno â Thai Gogledd Cymru roedd yn Brif Weithredwr gydag un o gymdeithasau tai mwyaf y DU ac roedd yn gyfrifol am benodi un o’r prif weithredwyr du cyntaf i gymdeithas dai.
 
Ar gyrraedd y rhestr fer a churo cystadleuaeth o bob cwr o’r DU, dywedodd Tom: “Mae hyn yn fraint, ac rwy’n ymwybodol iawn o fy ngwaith yn y sector bod nifer o enillwyr posib haeddiannol i’r wobr hon. Beth bynnag fydd y canlyniad ar y noson rwy’n falch o fod wedi cyrraedd y rhestr fer, ac rwy’n edrych ymlaen at gael dathlu llwyddiannau cydweithiwr ar draws y sector dai mewn maes sydd mor agos at fy nghalon.”
 
Dywedodd Helena Kirk, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru, “Hoffwn longyfarch Tom ar ei lwyddiant, rydym yn falch y bydd yn cynrychioli Tai Gogledd Cymru yn y digwyddiad pwysig hwn ym mis Mai. Rydym yn dymuno pob lwc iddo fo a phawb arall sydd ar y rhestr fer – maen nhw i gyd wedi dangos ymroddiad anhygoel i wella cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y sector. Wrth i ni edrych i’r dyfodol rydym yn awyddus i gydweithio gyda Tom yn ei rôl fel ein cadeirydd er mwyn iddo allu parhau gyda’i waith pwysig yn y maes hwn, ac yn benodol felly yng Nghymru.”
 
Mae Tom yn parhau i ymgyrchu ar y diffyg cynnydd yn y sector tai o ran amrywiaeth hil – ac mae’n awyddus i sefydlu ffordd newydd o weithio er mwyn mynd i’r afael ar y mater yng Nghymru.