Rhybuddion tywydd ar gyfer Gogledd Cymru

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd tywydd melyn ar gyfer gwynt ar draws chwe sir Gogledd Cymru. Mae hyrddiadau rhwng 55-65mya yn debygol yn y rhan fwyaf o ardaloedd gyda phosibilrwydd y bydd gwyntoedd yn cyrraedd hyd at 80mya mewn ardaloedd arfordirol.

Cymerwch ofal wrth deithio a byddwch yn ymwybodol o unrhyw ddeunyddiau rhydd. Gwnewch yn siŵr bod unrhyw eitemau y gallai’r gwynt eu hansefydlogi yn ddiogel e.e. biniau, blychau ailgylchu, eitemau gardd ac ati

Os ydych chi’n darganfod unrhyw ddifrod argyfwng i’ch cartref, ffoniwch 01492 572727.