Rydym angen eich mewnbwn!

Rydym am roi tenantiaid wrth wraidd popeth a wnawn. Er mwyn gwneud hynny mae arnom angen cymaint o denantiaid â phosibl i gymryd rhan a dweud eu dweud am y ffordd y mae Tai Gogledd Cymru yn cael ei redeg.

Sut allwch chi roi eich mewnbwn?

Ymunwch â’n Panel Ymgynghorol Preswylwyr neu’r Grŵp Ymateb Cyntaf

Beth yw’r Panel Ymgynghorol Preswylwyr?

Grŵp o breswylwyr Tai Gogledd Cymru yw’r Panel Ymgynghorol Preswylwyr sy’n gyfrifol am adolygu a monitro ein gwasanaethau a’n perfformiad er mwyn sicrhau bod yr holl breswylwyr yn derbyn y safonau gwasanaeth gorau posibl.

Mae’r panel yn cyfarfod bob dau fis a darperir hyfforddiant a chefnogaeth lawn ynghyd â thalu am gostau teithio.

Mae bod yn aelod o’r Panel yn rhoi cyfle go iawn i chi leisio eich barn a dylanwadu ar sut y caiff Tai Gogledd Cymru ei redeg. Mae’r panel yn grŵp cyfeillgar a chroesawgar felly rydyn ni’n meddwl y byddwch chi’n cael hwyl!

Beth yw’r Grŵp Ymateb Cyntaf?

Cronfa ddata yw’r grŵp yma o denantiaid sydd â diddordeb mewn gweithredu fel ‘darllenwyr’ taflenni, ffurflenni, polisïau ac ati a darparu adborth,

Drwy fod yn aelod, byddwch chi’n gallu cymryd rhan mewn arolygon achlysurol, grwpiau ffocws, a chlywed am ffyrdd newydd o gymryd rhan wrth iddynt ddatblygu.

Wrth gymryd rhan, byddwch hefyd yn cael eich cynnwys mewn cystadleuaeth tynnu enwau a chyfle i ennill talebau siopau’r stryd fawr!

Pam cymryd rhan?

  • Cael cyfle i ddylanwad go iawn ar eich gwasanaethau tai a chwarae rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eich cartref a’r ardal rydych chi’n byw ynddi.
  • Gallwch ddysgu sgiliau newydd.
  • Gweld y syniadau a’r pryderon rydych wedi eu codi yn cael eu rhoi ar waith gan ddod â budd i amrywiaeth fawr o bobl.
  • Dod i ’nabod staff TGC a rhoi wyneb i’r enw.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Iwan Evans ar 01492 563232 neu [email protected]