Rydym eich angen i fod yn bencampwr llais y tenantiaid
Mae gennym gyfle cyffrous i ymuno â’n Panel Tenantiaid a Chymunedau! Gallech fod yn denant presennol i Tai Gogledd Cymru, neu’n aelod o’n Cymuned.
Budd
- Cael dylanwad go iawn ar y gwasanaethau rydym yn eu darparu i denantiaid
- Symud newid positif ymlaen
- Dysgu sgiliau trosglwyddadwy newydd
- Cyfarfod pobl newydd
“Mae wedi bod yn llawer o hwyl, ac yn ddiddorol iawn, i mi fod yn rhan o wneud penderfyniadau, a chael dylanwad dros lawer o bethau sy’n effeithio arnaf i’n uniongyrchol, yn y cartref lle rwy’n byw.
Peidiwch oedi i gymryd rhan, mae o werth chweil go iawn!”
Aelod sy’n denant – Carol
Byddwn yn eich cefnogi
Ddim yn siŵr a oes gennych chi’r sgiliau iawn? Peidiwch â phoeni, byddwn yn eich cefnogi! Byddwch yn derbyn hyfforddiant a mentora i’ch helpu i dyfu eich set sgiliau.
Ddim yn siŵr a yw hyn ar eich cyfer chi?
Os nad ydych yn siŵr bod hyn ar eich cyfer chi, ond yn dal i fod eisiau dweud eich dweud, mae gennym gyfleoedd eraill i chi leisio eich barn.
I wybod mwy
Os hoffech wybod mwy am y rôl, neu am arwyddo i ymuno, cysylltwch ag Iwan ar [email protected] neu 01492 563232.