Sesiwn Blasu Beiciau Trydan AM DDIM i tenantiaid
Mewn partneriaeth â Chyngor Conwy a Chwaraeon Conwy rydym yn cynnig cyfle i denantiaid Tai Gogledd Cymru roi cynnig ar E-feicio!
- Bydd hyfforddwr cymwys yn arwain y sesiwn, a darperir beiciau a helmedau.
- Bydd y sesiwn blasu yn addas ar gyfer pob gallu, a byddwn yn mynd ar hyd llwybrau gwastad a hawdd.
- Rydym yn bwriadu cychwyn y sesiynau ym mis Mehefin 2022.
- Mae asesiad risg llawn wedi’i gynnal a bydd mesurau pellhau cymdeithasol ar waith.
Yn anffodus, yn wahanol i’n gweithgareddau awyr agored a drefnwyd cyn Covid, ni fyddwn yn gallu darparu cludiant i’r sesiwn.
Os hoffech wybod mwy am y cyfle cyffrous hwn, cysylltwch ag Iwan ar [email protected] neu 01492 563232.