Sesiwn blasu dringo am ddim i denantiaid

A fyddech chi’n hoffi i 2017 fod yn flwyddyn o brofiadau newydd? Gallwn eich helpu i ddechrau arni!

Rydym yn cynnig cyfres o sesiynau blasu am ddim i’n tenantiaid ar gyfer gweithgareddau awyr agored. Y sesiwn gyntaf yw dringo ar y 3ydd o Chwefror 2017.

Bydd hyfforddwyr cymwys a phrofiadol wrth law i’ch helpu chi a byddwn yn darparu’r holl offer sydd ei angen arnoch a chludiant i gyrraedd yno. Mae’r sesiwn blasu yn agored i bob gallu, nid oes angen unrhyw brofiad. Bydd gweithgareddau yn cael eu teilwra i’ch gallu. Eich mwynhad fydd ein blaenoriaeth!

Profi rhywbeth newydd | Cael hwyl | Cyfarfod â phobl newydd | Sgiliau newydd | Ennill cymhwyster (dewisol)

Sut ydych chi’n cofrestru?

Ebostiwch [email protected] neu ffoniwch 01492 563232 a chofrestrwch rŵan! Ddim at eich dant? Peidiwch ag ofni, mae gennym sesiynau blasu eraill y gallwch gymryd rhan ynddynt, o gerdded bryniau i ganŵio. Anfonwch eich manylion atom ac mi wnawn ni gysylltu pan fyddwn wedi trefnu’r dyddiadau.