Sinema ddi-sain i breswylwyr Llys y coed

Mae preswylwyr cynllun tai gofal ychwanegol Llys y Coed yn Llanfairfechan wedi mwynhau prynhawn o sinema ddi-sain gyda dangosiad arbennig o un o ffilmiau clasurol Charlie Chaplin.

Codwyd sgrîn sinema fawr yn Llys y Coed ac roedd yno bianydd hefyd wrth law i chwarae alawon o’r 40au cyn dangos y ffilm, yn ystod yr egwyl ac ar y diwedd. Cafodd y gynulleidfa flasu teisennau a lluniaeth a chael cyfle i fynd yn ôl mewn amser wrth i’r awyrgylch a naws hen sinema arddull gael eu hail-greu.

Estynnwyd gwahoddiad hefyd i breswylwyr cynllun pobl hŷn Bryn Castellan sydd drws nesaf i Lys y Coed, gan roi cyfle i’r grŵp gyfarfod â ffrindiau newydd, rhannu straeon a rhoi eu barn ar amrywiaeth o faterion pwysig. Trefnwyd y digwyddiad gan Llais MAWR Conwy (prosiect cymunedol sy’n cael ei redeg mewn partneriaeth gan Wasanaethau Gwirfoddol Conwy, Tai Gogledd Cymru, Cartrefi Conwy a Chlwyd Alyn), ac roedd yn llwyddiant ysgubol. Cymerodd y preswylwyr ran hefyd mewn ymgynghoriad ar wasanaethau lleol.

Dywedodd Cheryl Haggas, Rheolwr Llys y Coed:

“Roedd hwn yn brynhawn braf iawn a phawb yn mwynhau eu hunain. Mi oedd sgwrsio a sôn am bethau ers talwm a thrafod cymaint oedd pethau wedi newid ers yr oes o’r blaen pan oedd y pictiwrs yn ddu a gwyn. Roedd y ffilm a’r awyrgylch yn destun trafod gwych sydd wedi dod ag atgofion arbennig yn ôl.”

Ychwanegodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:

“Rydym yn gweithio ar nifer o brosiectau gwahanol drwy brosiect Llais cymunedol sy’n canolbwyntio ar wahanol grwpiau o bobl rydym yn ymwneud â nhw. Mae’n bwysig dros ben bod ein tenantiaid a’n preswylwyr hŷn yn cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn mentrau sy’n berthnasol ac yn bwysig iddynt, ac rwy’n teimlo bod hyn yn enghraifft wych o roi’r syniad hwn ar waith mewn ffordd ymarferol.”