Tai fforddiadwy newydd yn Wrecsam o ganlyniad i bartneriaeth newydd

Mae preswylwyr wedi cael eu croesawu i’w cartrefi newydd yr wythnos hon wrth i 12 o dai rhent fforddiadwy gael eu creu mewn datblygiad tai cymdeithasol gwerth £1.5 miliwn gan Tai Gogledd Cymru yn Wrecsam.

Gan weithio’n agos gyda Chyngor Sir Wrecsam, mae datblygiad newydd Clos Owen wedi cael ei adeiladu yn ardal Whitegate ar safle hen faes parcio yn y dref. Mae’r safle wedi cael ei weddnewid gan Tai Gogledd Cymru a’r contractwyr K&C Group, gan ddarparu 12 o gartrefi sydd eu dirfawr angen, sef 6 tŷ gyda 2 ystafell wely a 6 fflat gydag un ystafell wely.

Y datblygiad hwn yw un cyntaf Tai Gogledd Cymru yn Wrecsam, ac mae’n sicrhau bod y gymdeithas yn cyfiawnhau ei henw fel ‘Tai Gogledd Cymru’.

Meddai Phil Danson, Cyfarwyddwr Lleoedd, Tai Gogledd Cymru:

“Mae hon yn garreg filltir bwysig i Tai Gogledd Cymru, wrth i ni dyfu ac ehangu ymhellach. Drwy weithio mewn partneriaeth agos gyda Chyngor Wrecsam rydym wedi gwella’r rhagolygon tai i deuluoedd ifanc lleol a mynd i’r afael â mater ehangach prinder tai.”

Un o’r tenantiaid sydd wedi elwa o’r datblygiad newydd yw John Spruce. Mae John wedi symud i mewn i fflat sydd wedi cael ei addasu ar gyfer ei anghenion arbennig.

“Yn ddiweddar mi wnes i symud i mewn i un o’r fflatiau llawr gwaelod a addaswyd, ac rwy’n hapus iawn. Mae’n darparu ar gyfer fy holl anghenion yn dda iawn. Mae digon o ofod yma, cyfarpar da, ac mae popeth yno ar y lefel iawn i mi, gan gynnwys y gawod, popty, silffoedd, ac ati. Mi wnes i ofyn am gael eiddo i mi fy hun beth amser yn ôl ac mae’r cyngor yn ddiweddar wedi fy argymell i ar gyfer un o’r fflatiau newydd sbon yma felly rwy’n hapus dros ben.”

Dywedodd Aelod Arweiniol Cyngor Wrecsam dros Dai, y Cynghorydd Ian Roberts:

“Rwy’n falch iawn bod y cartrefi newydd yma wedi cael eu creu diolch i bartneriaeth lwyddiannus rhwng Tai Gogledd Cymru a Chyngor Wrecsam. Mae datblygu tai fforddiadwy yn chwarae rhan bwysig wrth fynd i’r afael â’r mater o brinder tai, ac rwy’n gobeithio y bydd y preswylwyr newydd yn falch iawn o’r eiddo yma.”

Dywedodd yr Aelod Lleol dros ardal Whitegate, y Cyng Brian Cameron, “Mae hwn yn ddatblygiad cadarnhaol iawn ar gyfer tai yn yr ardal. Rwy’n falch iawn fod dau o’r fflatiau un ystafell wely ar y llawr gwaelod wedi cael eu hadeiladu gydag addasiadau ar gyfer pobl hŷn ac anabl hefyd. Mae partneriaeth y Cyngor gyda Tai Gogledd Cymru wedi gweithio’n dda iawn yma ac rwy’n edrych ymlaen at adeiladu ar y berthynas yma.”

Mae datblygiad arall eisoes ar y gweill gan Tai Gogledd Cymru a Chyngor Wrecsam.