Tai Gogledd Cymru yn ennill gwobr arian Cymdeithas Tai y Flwyddyn mewn seremoni wobrwyo genedlaethol

Enillodd Tai Gogledd Cymru Wobr Arian categori ‘Cymdeithas Tai Orau’r Flwyddyn’, yng Nghinio Gala WhatHouse? a gynhaliwyd yng Ngwesty Grosvenor House yn Park Lane ar ddydd Gwener yr 20fed o Dachwedd.

Digwyddiad Gwobrau ‘What House’ yw achlysur mwyaf ac enwocaf y diwydiant tai, gyda 1,750 o bobl yn mynychu eu 34eg seremoni wobrwyo blynyddol.

Roedd y wobr, a gyflwynwyd gan y digrifwr David Walliams, yn agored i bob cymdeithas tai, bach a mawr, ac roedd y beirniaid yn edrych ar bob agwedd ar berfformiad gan gynnwys dylunio ac adeiladu, gwerth am arian, rheoli a marchnata.

Eglurodd beirniaid ‘What House’ eu rhesymau dros ddewis Tai Gogledd Cymru:

Mae Tai Gogledd Cymru yn gymdeithas tai cymharol fach sy’n creu argraff fawr yn y cymunedau lle mae’n gweithio. Mae’n bopeth y dylai cymdeithas dai yn y gymuned fod.

 

Mae’n enghraifft dda o achos lle nad oes angen yr adnoddau mwyaf bob amser i gael effaith fawr os yw sefydliad yn meddu ffocws, yn arloesol ac yn ymrwymedig i’w diben.

 

Mae Tai Gogledd Cymru yn ychwanegu gwerth gwirioneddol i’w chymunedau a’i phartneriaid lleol ac mae’n llwyr deilyngu’r wobr arian.”

Mae Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru wrth ei fodd â’r lwyddiant:

O ystyried maint y cymdeithasau a enillodd y gwobrau aur ac efydd, roedd ein llwyddiant hyd yn oed yn fwy nodedig. Ond i fusnes o’n maint ni, rydym wedi cyflenwi amrywiaeth eang o brosiectau a helpu grŵp o bobl sy’n gynyddol amrywiol. Wrth i adnoddau cyhoeddus edwino mae Llywodraeth Cymru yn dibynnu ar gymdeithasau tai i gyflenwi mwy, ond gall hynny olygu mwy o risg ac yn aml mae ein hawdurdodau lleol partner yn gofyn i ni ymgymryd â phrosiectau anodd.

 

Mae gwobrau fel hyn yn adlewyrchu’r gwaith caled sy’n mynd i mewn i ddatblygu cartrefi newydd a darparu gwasanaethau o ansawdd uchel. Rydym yn ceisio mynd yr ail filltir i’n partneriaid a’r hyn sy’n braf am y wobr yma yw ei bod yn cydnabod cyfraniad pawb sy’n gweithio i ni. Mae ein pobl yn gwybod eu bod yma i ychwanegu gwerth.”

Methodd y gymdeithas tai, sy’n gweithredu ar draws gogledd Cymru, ag ennill y wobr Aur o drwch blewyn, a enillwyd gan L&Q, y landlord mwyaf yn Llundain.