Tai newydd sbon i deuluoedd ar gyfer Gorllewin Y Rhyl
Mae gwaith wedi dechrau ar gynllun tai arloesol £1.4 miliwn sy’n anelu at ailadeiladu cymuned yn y Rhyl.
Mae datblygiad newydd Afallon wedi ei leoli yn Ffordd yr Abaty yng nghanol ardal orllewinol y dref ac yn edrych dros fan gwyrdd Gerddi Heulwen a agorodd y llynedd.
Y sbardun y tu ôl i’r cynllun yw Menter Tai Gydweithredol Gorllewin y Rhyl, sef menter tai rhent trefol cyntaf Cymru, a ffurfiwyd gan Tai Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Gorllewin y Rhyl.
Meddai Fiona Davies, Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth:
Mae hwn yn gyfle cyffrous i deuluoedd lleol i elwa o dai fforddiadwy newydd sbon o safon uchel. Nod y fenter gydweithredol yw ailadeiladu’r gymuned glos a fu unwaith yn ffynnu yng Ngorllewin y Rhyl.”
Mae tenantiaid yn dod yn aelodau o’r cwmni tai cydweithredol, sy’n rhoi hawl iddynt i gymryd rhan yn y ffordd y mae eu heiddo yn cael ei reoli a phenderfynu a dylanwadu ar gynlluniau a phrosiectau’r dyfodol yn yr ardal.
Croesawyd y datblygiad gan Barry Mellor, Maer y Rhyl a ddywedodd:
Mae’n wych. Dyma’r union beth yr ydym wedi bod yn galw amdano ers amser hir iawn, a bydd yn rhoi hwb sylweddol i’r ardal hon.
Mae meddwl bod yr Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol wedi gwneud hyn yn anghredadwy ac i gael Anwyl, cwmni lleol, yn gwneud y gwaith adeiladu mae’n ardderchog – beth rydym ei angen rŵan yw i gwmnïau eraill ymuno a rhoi help llaw.”
Bydd adeiladwyr nodedig Anwyl, sydd wedi eu lleoli yn y Rhyl, yn adeiladu saith o gartrefi teuluol tair ystafell wely newydd gyda gerddi preifat a lle parcio ac yn ailwampio hen adeiladau masnachol a fydd yn gartref i siop gymunedol a becws ar y llawr gwaelod gyda dau o fflatiau un ystafell wely a dau o fflatiau dwy ystafell wely uwchben.
Dywedodd Paul Diggory, Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru:
Mae Tai Gogledd Cymru yn falch o fod yn rhan o’r gwaith adfywio pwysig yma yng Ngorllewin y Rhyl.
Mae Afallon yn brosiect tai cymunedol deniadol sy’n darparu cartrefi go iawn i deuluoedd ac sydd wedi eu hadeiladu i ansawdd da a safon effeithlonrwydd ynni uchel hefyd.
Ei nod yw creu cymuned fywiog lle mae teuluoedd a busnesau yn dymuno setlo a ffynnu.”
Dywedodd Joan Butterfield, Cynghorydd Gorllewin y Rhyl ar Gyngor Sir Ddinbych, sydd hefyd yn aelod o’r Ymddiriedolaeth:
Mae’n gyfle gwirioneddol wych i’r bobl yma gychwyn adeiladu cymuned go iawn o’r diwrnod cyntaf.
Mae’r prosiect yn fenter gymdeithasol wirioneddol sy’n cynnwys y bobl sy’n byw yma ac yn rhoi cyfleoedd a sgiliau iddynt, ac rwy’n credu y bydd yn rhoi hwb i’r Rhyl yn gyffredinol.”
Dywedodd Nikki Jones, Cyfarwyddwr Menter Tai Gydweithredol Gorllewin y Rhyl:
Rydym yn awyddus i glywed gan deuluoedd lleol sydd am fod yn rhan o’r cwmni cydweithredol a gwneud cais i fyw yn y tai teulu newydd.
Os oes gan bobl sydd ar hyn o bryd yn byw neu’n gweithio yn y Rhyl neu ardaloedd cyfagos ddiddordeb mae yna amser o hyd i wneud cais i ddod yn denantiaid.”
I gael mwy o wybodaeth am sut i wneud cais ffoniwch 01745 339779 neu anfonwch e-bost at [email protected].