Teuluoedd Cyntaf yn Symud I Gartrefi Ynni-Effeithlon yn Chwilog

Mae’n ddechrau gwych i 2025  i 6 theulu sydd wedi symud i’n cartrefi 3 llofft ym mhentref Chwilog, Pwllheli wythnos yma.

Mae eiddo Cae Bodlondeb wedi cael eu hadeiladu gan Beech Developments gydag inswleiddiad ychwanegol, ffenestri gwydr triphlyg, paneli solar a system pwmp gwres ffynhonnell aer a dŵr poeth.

Mae’r holl nodweddion hynny wedi’u cynnwys i leihau’r costau rhedeg i breswylwyr drwy leihau faint o ynni y byddant yn ei ddefnyddio.

Mae’r tai hefyd wedi’u gosod ag Awyru Mecanyddol gydag Adfer Gwres sy’n tynnu hen aer o’r adeilad ac yn rhoi aer ffres, wedi’i hidlo yn ei le!

Carol a’i gŵr Dion oedd y cyntaf i gael eu hallweddi.

Roeddent yn hapus iawn gyda’u cartref newydd a chawsant groeso cynnes nid yn unig gan dîm TGC ond gan y tŷ, gyda’r pwmp gwres ffynhonnell aer wedi’i droi ymlaen ac eisoes yn gwresogi’r eiddo yn barod iddynt gyrraedd.

Dywedodd Carol:

“Rwyf wedi bod yn edrych ymlaen at symud i mewn byth ers i ni ddarganfod ein bod yn cael y tŷ yr haf diwethaf. Yn bendant dyma ein cartref am byth.”

Dywedodd Kirstie Eckford, Rheolwr Prosiect Datblygu TGC:

“Mae wedi bod yn wych gweithio’n agos gyda Beech Development a gweld yr eiddo hwn yn datblygu. Mae mor bwysig gweld mwy o gartrefi fforddiadwy yn cael eu darparu yn y maes hwn. Mae’r dull adeiladu newydd hwn ynghyd â thechnolegau newydd wedi arwain at gartrefi o ansawdd uchel i deuluoedd lleol yr ydym yn wirioneddol falch ohonynt.”

Mae’r cofrestriadau newydd yn nodi dechrau 50fed blwyddyn Tai Gogledd Cymru.