Tîm cynnal a chadw: Byddwch yn amyneddgar gyda ni
27 Gorffennaf 2021
Ar hyn o bryd mae’r tîm cynnal a chadw yn gweithio ar nifer fawr o dasgau gwaith sydd wedi cronni.
Fodd bynnag, oherwydd ffactorau y tu hwnt i’n rheolaeth, rydym yn gweithio gyda nifer gyfyngedig o staff. Felly mae’r gwaith yn cymryd mwy o amser na’r arfer mewn rhai achosion.
Rydym yn blaenoriaethu gwaith ar sail risg a hyd yr amser yr adroddwyd amdanynt i ddechrau. Bydd Gwasanaethau Cwsmeriaid mewn cysylltiad i drefnu apwyntiad
Gofynnwn i chi fod yn amyneddgar gyda ni wrth i ni weithio trwy’r cyfnod prysur iawn hwn. Diolch am eich amynedd.