Y Principality yn rhoi busnes yn y gymuned ar waith

Mae Cymdeithas Adeiladu’r Principality yn helpu defnyddwyr gwasanaeth yn hostel Pendinas i’r digartref ym Mangor i wisgo’n drwsiadus i greu argraff.

Mae cymdeithas adeiladu fwyaf Cymru wedi cyfrannu rhodd o nifer o wisgoedd, y gall y preswylwyr eu defnyddio pan fyddan nhw’n mynychu cyfweliadau am swydd.

Mae’r Gymdeithas Adeiladu hefyd yn helpu Pendinas drwy gyfrannu offer a phlanhigion i brosiect garddio’r hostel, y mae’r holl drigolion yn cymryd rhan ynddo.

Dywedodd Else Lyon, Rheolwr Cynllun ym Mhendinas:

“Mae’r prosiect garddio wedi dod yn bwysig iawn i bawb yma ym Mhendinas. Mae’r defnyddwyr gwasanaeth wedi gweddnewid yr ardd ac wedi treulio llawer o amser yn plannu a thrin ein llysiau a’n ffrwythau ein hunain, ac rydym wedyn yn gallu defnyddio’r cynnyrch yn ein ryseitiau yma a hyrwyddo coginio a bwyta’n iach.”

“Mae’r cymorth gan y Principality wedi dod ar amser gwych gan fod y gwanwyn yn y tir. Bydd hyn yn ein helpu i brynu mwy o blanwyr, compost a hadau a gallu paratoi mwy o fwydydd ar gyfer y tymor nesaf. “

Mae’r Principality a Pendinas yn rhan o fenter ‘Seeing is Believing’ Busnes yn y Gymuned sy’n cynnig amrediad o gefnogaeth i grwpiau ac elusennau cymunedol lleol.

Mae Pendinas, cynllun a reolir gan Tai Gogledd Cymru (ynghyd â hostel y Santes Fair sydd hefyd ym Mangor) wedi bod yn gweithio gyda nifer o fusnesau lleol sydd wedi dangos eu hymrwymiad a’u cefnogaeth trwy ystod o fentrau arloesol ac ymarferol.

Dywedodd Kelly Williams, rheolwr cangen Bangor o Gymdeithas Adeiladu’r Principality:

“Rydym yn falch o fod wrth galon ein cymunedau ac rydym yn awyddus i roi cymorth i’r gwasanaeth hanfodol yma i bobl ym Mangor. Rydym yn gobeithio y bydd yr offer garddio yn helpu preswylwyr i dyfu eu bwyd rhad a maethlon eu hunain, ac ar yr un pryd yn eu helpu i ddysgu mwy am goginio a bod yn fwy hunan-gynhaliol.”

“Gall cyfweliadau swydd fod yn wirioneddol anodd, yn enwedig heb y dillad iawn, felly rydym yn falch iawn o allu helpu drwy roi ein gwisgoedd ac rydym yn dymuno pob lwc i’r preswylwyr gyda’u cyfweliadau.”

Mae’r Principality wedi cefnogi amryw o achosion tebyg yn y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys tîm rygbi dan 10 Bangor a’r tîm pêl-rwyd mewn ysgol yn Yr Wyddgrug.