Ymunwch â ni i ddathlu Wythnos Prentisiaethau 2023

Dethlir Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau rhwng 6 a 12 Chwefror 2023. Mae’r Wythnos yn dod â’r gymuned brentisiaethau gyfan ynghyd i ddathlu popeth sy’n anhygoel am brentisiaethau.

Mae Tai Gogledd Cymru wedi cynnig nifer o wahanol brentisiaid dros y blynyddoedd; plymwyr, trydanwyr, cynnal a chadw cyffredinol, tai a chynnal a chadw tiroedd.

Wrth baratoi ar gyfer yr wythnos hon, rydym wedi achub ar y cyfle i siarad â phrentisiaid y gorffennol a’r presennol i ofyn iddynt beth yw eu barn am brentisiaethau a pham eu bod yn dewis ei wneud gyda TGC. Byddwn yn rhyddhau’r rhain bob dydd ar ein Facebook a Twitter i ddechrau, ac yna’n eu hychwanegu yma.

Dysgwch fwy am brentisiaethau yng Nghymru yma https://www.llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth/dod-yn-brentis

Preswylwyr cyntaf yn symud i gartrefi ecogyfeillgar fforddiadwy mewn pentref ar Ynys Môn

Mae cymdeithas dai leol wedi trosglwyddo’r goriadau i breswylwyr newydd datblygiad o 16 o dai fforddiadwy, cynaliadwy ym mhentref deniadol Gaerwen.

Mae Tai Gogledd Cymru wedi gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Ynys Môn i gyflawni cynllun gwerth £2.9m Stad Maes Rhydd sydd wedi’i gynllunio er mwyn helpu i ddiwallu’r angen dybryd am dai fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig.

Mae’r datblygiad newydd yn cynnwys deg cartref dwy ystafell wely, dau gartref tair ystafell wely a phedwar fflat un ystafell wely sydd eu dirfawr angen.

Mae cynaliadwyedd wedi’i flaenoriaethu drwy gydol y datblygiad ac mae’r partneriaid wedi mabwysiadu dull ‘ffabrig yn gyntaf’ i greu cartrefi sydd wedi’u hinswleiddio’n dda a fydd yn cadw cynhesrwydd.

Gan nad yw Gaerwen wedi’i chysylltu â’r prif gyflenwad nwy, mae pympiau gwres ffynhonnell aer trydan carbon isel a phaneli solar Ffotofoltäig wedi’u gosod ar y to. Bydd preswylwyr sy’n symud i mewn i’w cartrefi newydd yn mwynhau biliau ynni is ac wedi cael hyfforddiant a chymorth ar sut i ddefnyddio eu pympiau.

Un o amcanion y datblygiad oedd galluogi pobl leol i fagu gwreiddiau yn yr ardal sy’n profi prinder tai fforddiadwy.

Mae wedi’i adeiladu ar safle eithriedig gwledig. Mae safleoedd o’r fath yn caniatáu i ddatblygiadau bach o dai fforddiadwy gael eu hadeiladu ar dir na fyddai’n cael ei ddefnyddio fel arfer ar gyfer eiddo preswyl.

Gan ei fod mor agos at ganol pentref Gaerwen, mae Stad Maes Rhydd yn cael ei wasanaethu’n dda gan amwynderau lleol ac mae’n agos at ffordd yr A55 sy’n cysylltu â Llangefni, Caergybi a Bangor. Gobeithir hefyd y gall preswywyr elwa o agosrwydd at gyfleoedd cyflogaeth lleol.

Dywedodd Lauren Eaton-Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Masnachol Tai Gogledd Cymru; “Mae’r cartrefi hyn wedi’u hadeiladu gyda chymunedau lleol mewn golwg. Roedd ymgysylltu â thrigolion lleol yn rhan allweddol o’r broses felly rydym yn hyderus y bydd y datblygiad newydd hwn yn mynd beth o’r ffordd i ddiwallu anghenion y pentref.

“Mae’n wefr gweld pobl yn symud i mewn i’w cartrefi newydd a gwybod y byddan nhw’n elwa yn yr hydref a’r gaeaf sydd i ddod o ynni mwy fforddiadwy a chartrefi sy’n cael eu hadeiladu gydag effeithlonrwydd ynni.

“Mae gwaith partneriaeth cryf hefyd wedi bod yn allweddol i lwyddiant y cynllun hwn ac mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Chyngor Ynys Môn i ddod â’r tai fforddiadwy hyn y mae mawr eu hangen i Gaerwen.”

Cefnogwyd cydweithwyr Tai Gogledd Cymru hefyd gan yr Hwylusydd Tai Gwledig i gynnwys pobl leol yn y broses a chadarnhau angen yn yr ardal.

Ychwanegodd deilydd portffolio Tai Cyngor Ynys Môn, y Cynghorydd Alun Mummery: “Rydym yn falch o allu gweithio mewn partneriaeth â Tai Gogledd Cymru i ddarparu mwy o gartrefi fforddiadwy newydd ar yr Ynys. Mae pobl ifanc a theuluoedd yn ei chael hi’n anodd iawn rhoi gwreiddiau yn eu cymunedau ac adeiladu bywyd yma. Mae cynlluniau bach, ynni-effeithlon a fforddiadwy fel Stad Maes Rhydd yn hanfodol i gynaliadwyedd a dyfodol ein pentrefi.”

“Mae’n bleser gweld preswylwyr yn symud i mewn i’w cartrefi newydd ac rydym yn gobeithio y byddan nhw’n ffynnu yn y gymuned newydd hon.”

Mae’r cartrefi wedi’u graddio yn ‘A’ o ran eu heffeithlonrwydd ynni, sy’n llawer uwch na gofynion Llywodraeth Cymru i gyrraedd y targed o sero net erbyn diwedd 2030. Yn ogystal, mae paratoadau wedi’u gwneud i ychwanegu pwynt gwefru trydan ar gyfer cerbydau yn y dyfodol.

Cyfarwyddwr gweithrediadau newydd ar gyfer Tai Gogledd Cymru

Mae Tai Gogledd Cymru wedi penodi Cyfarwyddwr Gweithrediadau newydd.

Yn ei rôl newydd, bydd Claire Shiland yn goruchwylio tîm amrywiol o tua 130 o weithwyr a chyfeiriad strategol tai cyffredinol, tai â chymorth, tai pobl hŷn, gwasanaethau cwsmeriaid, cynnal a chadw, gwasanaethau asedau, profiad y cwsmer a phrosiectau partneriaeth gymunedol.

Mae Claire yn ymuno â Tai Gogledd Cymru o Grŵp Cynefin. Dechreuodd weithio yn y maes tai yn 2002 ac mae ei phrofiad blaenorol arall yn cynnwys gweithio i Cartrefi Conwy ac Awdurdod Lleol Ynys Môn. Claire oedd yr Arolygydd Mynediad Uniongyrchol cyntaf yn Heddlu Gogledd Cymru cyn dychwelyd i tai.

Meddai: “Mae dod yn ôl i’r sector tai ar ôl tair blynedd gyda Heddlu Gogledd Cymru wedi bod yn brofiad gwych ac mae gweithio yng Ngrŵp Cynefin wedi cadarnhau i mi pam fy mod wrth fy modd yn gweithio yn y sector hwn.

“Roedd y diwylliant, yr uchelgais a’r agwedd ystwyth yn Tai Gogledd Cymru yn apelio’n fawr ataf ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ailgysylltu â’r nifer fawr o bobl yno rydw i eisoes wedi gweithio efo nhw ac wrth gwrs dod i adnabod gweddill teulu Tai Gogledd Cymru.”

Daeth y rôl yn wag yn dilyn ymadawiad Brett Sadler a adawodd Tai Gogledd Cymru i gymryd swydd Prif Weithredwr Cymdeithas Tai West Highlands yn yr Alban.

Dywedodd Prif Weithredwr Tai Gogledd Cymru, Helena Kirk: “Rydym yn falch iawn o groesawu Claire i’r tîm. Bydd ei phrofiad helaeth a’i dealltwriaeth o’r ardal a’r sector yn allweddol i sicrhau ein bod yn parhau i gael effaith gadarnhaol sylweddol yng ngogledd Cymru.

“Mae gennym nod clir i ddarparu’r gwasanaethau y mae ein cwsmeriaid eu heisiau, i safon sy’n cynyddu boddhad cwsmeriaid ac ar gost sy’n sicrhau gwerth am arian. Bydd penodiad Claire yn caniatáu i ni adeiladu ar y gwaith a wnaed eisoes tuag at gyflawni hyn.

“Mae denu ymgeisydd o safon mor uchel, gyda sgiliau yn y Gymraeg i gyd-fynd â dymuniadau ac anghenion ein tenantiaid, yn dangos sut mae ein buddsoddiad mewn pobl a gweithio ystwyth yn helpu i gadw a denu talent fel y gallwn wireddu targedau ein cynllun corfforaethol.”

Ydych chi wedi rhoi cynnig ar ein Chatbot Huw?

Ar gael 24/7 drwy ein gwefan, efallai y bydd gan Huw yr ateb yr ydych wedi bod yn chwilio amdano. Cliciwch ar yr eicon ar waelod ochr dde ein gwefan a theipiwch eich cwestiwn.

Dal heb gael yr ateb? Peidiwch ag poeni, yn ystod oriau agor y swyddfa gallwch ddefnyddio ein Sgwrs Fyw, sy’n cael ei gofalu gan aelod o’n tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid.

Oriau agor Gŵyl y Banc

Bydd Tai Gogledd Cymru ar gau ddydd Llun 2il Mai ’22, ac yn ail-agor ar ddydd Mawrth 3ydd Mai ’22.

Gyda chwestiwn sydd angen ateb iddo? Ceisiwch ofyn i’n Chatbot cyfeillgar Huw, sydd ar gael 24/7 trwy glicio ar y botwm ar waelod y dde ar ein gwefan:

Dim ond atgyweiriadau argyfwng yn cael ei wneud yn ystod y cyfnod hwn. Gall y rhain gael eu nodi drwy ffonio 01492 572727.

Mae digwyddiad gyrfa ar-lein yn rhoi cyfle i bobl wneud gwahaniaeth yn 2022 gyda gyrfa newydd

Mae pobl sydd am gael dechrau newydd a gyrfa newydd yn 2022 yn cael eu gwahodd i fynychu digwyddiad arbennig i ddarganfod sut y gallan nhw wneud gwahaniaeth yn ein cymunedau gyda swydd yn Tai Gogledd Cymru (TGC).  

Bydd TGC yn cynnal Digwyddiad Gyrfa ar-lein ddydd Mercher 2 Chwefror rhwng 1pm-2pm fel y gall pobl ddarganfod mwy am weithio yn y sector tai cymdeithasol a’r gyrfaoedd sydd ar gael yn TGC.  

Digwyddiad Gyrfa Ar-lein 

Pryd: Dydd Mercher, Chwefror 2, 1-2pm 

Lleoliad: Ar-lein 

Mwy o wybodaeth https://www.nwha.org.uk/cy/news-and-events/events/digwyddiad-gyrfa-ar-lein/. 

Yn ystod y digwyddiad bydd timau gwahanol yn rhoi cipolwg i chi ar yr hyn y maen nhw’n ei wneud a sut brofiad yw gweithio yn y sector tai ac yn TGC, yn ogystal â darganfod mwy am y swyddi gwag cyffrous sydd ar ddod. 

Mae’n amser cyffrous i ymuno â TGC, mae gennym gynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol ac rydym yn creu rolau newydd. Dewch i ymuno â ni a gwneud gwahaniaeth.  

Cofrestru 

Eisiau mynychu? Cofrestrwch eich diddordeb yn [email protected] 

Datgelu Adolygiad Blynyddol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Mae heddiw yn nodi diwrnod ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB). Bob blwyddyn fel rhan o’n CCB cynhyrchir dogfen Adolygiad Blynyddol. Mae’r ddogfen hon yn rhoi cyfle i ni edrych yn ôl ar y flwyddyn, ein cyflawniadau a’n heriau.

Cliciwch yma i ddarllen Adolygiad Blynyddol eleni, mae rhai o’r uchafbwyntiau’n cynnwys:

• Ein hymateb anhygoel i covid a chefnogi preswylwyr a staff
• Ein haddewid i wella iechyd meddwl yn y man gwaith
• Cartrefi a datblygiadau newydd sydd ar y gweill
• Ein gweledigaeth newydd ac amcanion ein Cynllun Corfforaethol
• A llawer mwy.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am unrhyw beth yn y Cynllun Corfforaethol hwn, cysylltwch â ni.

Lauren Eaton-Jones yn ymuno â TGC fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Masnachol

Mae Lauren Eaton-Jones wedi ymuno â Tai Gogledd Cymru ym Mehefin 2021 fel ein Cyfarwyddwr Cynorthwyol Masnachol.

Penodwyd Lauren ym mis Mai, ac mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad Datblygu. Mae ei chefndir mewn Cynllunio Tref, gan weithio mewn sawl swydd yng Nghyngor Sir y Fflint, gan ennill profiad gwerthfawr iawn ar draws ystod eang o ddatblygiadau. Yn fwy diweddar, mae Lauren wedi gweithio yn y sector preifat fel Ymgynghorydd Cynllunio i gwmni ymgynghori amlddisgyblaethol.

Daw penodiad Lauren wrth i Datblygu chwarae rhan bwysig yn ein Cynllun Corfforaethol newydd ac mae’n greiddiol i weledigaeth TCG ar gyfer y dyfodol.

Mae Lauren yn ymuno ag Uwch Dîm Arweinyddiaeth TGC, sy’n cynnwys Helena Kirk – Prif Weithredwr, Brett Sadler – Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Jayne Owen – Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau, Ruth Lanham-Wright – Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cartrefi, Allan Eveleigh – Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cymunedau, Lynne Williams – Pennaeth Pobl ac Emma Williams – Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyllid.

Gallwch ddarganfod mwy am Lauren, ac aelodau eraill o’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yma https://www.nwha.org.uk/cy/about-us/meet-the-management-team/

Hoffem estyn croeso cynnes i Lauren i deulu TGC, ac rydym yn edrych ymlaen yn arw i weithio gyda hi.

Cynllun Corfforaethol newydd yn dangos y ffordd i TGC

Wrth i ni obeithio gweld diwedd ar bandemig Covid, mae Tai Gogledd Cymru yn edrych ymlaen ac wedi datblygu’r Cynllun Corfforaethol hwn sy’n gosod y cyfeiriad i ni am y tair blynedd nesaf. 

 Mae’r Cynllun Corfforaethol newydd yn cynnwys ein bwriadau ar gyfer cwsmeriaid, ein pobl, ein cartrefi a’n cyllid. Darllenwch trwy’r Cynllun hwn a darganfod beth rydym yn bwriadu ei wneud a sut y byddwn yn cyflawni hyn. 

Darllenwch y Cynllun yma https://www.nwha.org.uk/cy/amdanom-ni/cynllun-busnes/

Oes gennych chi gwestiwn? 

Os oes gennych gwestiwn,  neu hoffech roi adborth ar y Cynllun Corfforaetholcysylltwch â ni. 

TGC wedi arwyddo ymrwymiad DymarSectorTai

Mae TGC yn falch iawn ein bod wedi llofnodi addewid #DymarSectorTai, ymgyrch wedi ei arwain gan Cartrefi Cymunedol Cymu.

Lansiodd Cartrefi Cymunedol Cymu, gyda cymorth cymdeithasau tai,yr ymgyrch ‘Dyma’r sector Tai’ i ddathlu hyn. Cafodd yr ymgyrch hon ei chreu i ddweud stori sut beth yw gweithio yn y sector a’r ystod swyddi sydd ar gael.

Dywedodd Helena Kirk, Prif Weithredwr TGC:

“Rydym wedi arwyddo’r ymrwymiad oherwydd ein bod yn credu bod gyrfa ym maes tai yn rhoi llawer o foddhad ac yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau llawer o bobl. Gyda’n gilydd rydym am roi llais i’r sector a hyrwyddo ehangder o swyddi sydd ar gael.”

Ewch i’r gwefan https://thisishousing.wales/cy/catref/ i glywed sut rai yw’r gyrfaoedd go iawn gan y bobl sy’n gweithio yn y sector tai, dysgu’r hyn rydych ei angen i gael yr yrfa a ddymunwch a’r ffyrdd gorau i wneud cais am swyddi mewn tai cymdeithasol, canfod beth mae cymdeithasau tai yn ei wneud a ble maent yn seiliedig.