Diweddariad CHC ar risgiau concrit aeredig awtoclaf wedi’i atgyfnerthu (RAAC).

Fel y soniwyd yn y newyddion ar draws y wlad cafodd risgiau newydd eu nodi am goncrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth (RAAC) – deunydd a ddefnyddiwyd i adeiladu ac addasu llawer o adeiladau, yn bennaf rhwng y 1950au a’r 1990au.

Tan yn ddiweddar, cafodd canllawiau cenedlaethol ar RAAC mewn adeiladau eu hystyried gan bob llywodraeth yn y Deyrnas Unedig fel bod yn ddull cadarn at ei reoli. Fodd bynnag, ar 31 Awst 2023 cyhoeddodd Llywodraeth y DU ganllawiau newydd ar RAAC mewn safleoedd addysg. Ers hynny cafodd Llywodraeth Cymru beth dystiolaeth gan Lywodraeth y DU sy’n dangos y gall fod angen newid ein dull rheoli iechyd a diogelwch ar RAAC.

Mewn ymateb i hyn, rydym ni yn Tai Gogledd Cymru wedi ystyried ein stoc o fewn y proffil oedran a ddarparwyd, wedi cynnal archwiliadau a phrofion ychwanegol, a bellach wedi cadarnhau nad oes unrhyw RAAC wedi’i nodi.

Ruth Lanham-Wright – Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cartrefi: “Rydym yn falch o roi gwybod i denantiaid am absenoldeb concrit aredig awtoclaf wedi’i atgyfnerthu (RAAC) yn ein heiddo, yn dilyn asesiad cynhwysfawr ac archwiliadau trylwyr a ysgogwyd gan y cyngor diweddar gan Gartrefi Cymunedol Cymru (CCC). Mae ein dull diwyd o archwilio ein stoc tai, ynghyd â phrofion manwl, wedi darparu tystiolaeth bendant nad yw ein heiddo yn cael eu heffeithio gan y pryderon a godwyd ynghylch RAAC”.

Os oes gan unrhyw breswylydd bryderon neu ymholiadau am eu cartref, yna cysylltwch â ni.

Diolch Janet!

Ymunodd Janet â Bwrdd TGC ym mis Gorffennaf 2015 ac mae wedi bod yn aelod gwerthfawr, gan gyfrannu at lwyddiant y Gymdeithas am yr 8 mlynedd diwethaf.

Ers ei phenodiad, mae Janet wedi chwarae rhan ganolog ar ein Paneli Preswylwyr amrywiol, gan gynnwys cymryd rôl yr Is-Gadeirydd ac yna’r Cadeirydd am nifer o flynyddoedd cyn rhoi’r gorau i’w swydd yn 2022. Yr wythnos diwethaf cymerodd ran yn ei chyfarfod Panel olaf. Bydd Janet yn rhoi’r gorau iddi yn ffurfiol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Medi.

Dymunwn ddiolch o galon i Janet am ei holl waith caled a’i hymroddiad i TGC, a dymunwn y gorau i chi i’r dyfodol.

Deddf Rhentu Cartrefi Cymru – Eich contract newydd

Rydym wedi bod yn brysur yn paratoi cytundebau newydd, a byddwn yn dechrau anfon nhw allan o 20 Mawrth 2023. Os nad ydych wedi derbyn eich un chi, peidiwch â phoeni, gan ein bod yn anfon y rhain mewn sypiau.

Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth gyda’ch contractau newydd, dim ond ei gadw mewn lle diogel.

Hoffech chi gael gwybod mwy am y Ddeddf Rhentu Cartrefi? Ymwelwch â’n tudalen bwrpasol yma https://www.nwha.org.uk/cy/eich-cartref/tenantiaid-mae-cyfraith-tai-yn-newid-rhentu-cartrefi/

e-Cymru ar gael rwan

Mae Tai Gogledd Cymru wedi bod yn gweithio â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig eraill a thenantiaid ledled Cymru i greu e-Cymru. Mae e-Cymru yn cynnig mynediad i ddigwyddiadau a chyfleoedd ymgysylltu a dysgu’n electronig a fedr helpu tenantiaid i fyw bywydau hapusach ac iachach.

Mae eCymru yn weithredol nawr, yn rhad ac am ddim i holl denantiaid Tai Gogledd dCymru (ac Landlordiaiad Cymdeithasol Cofrestredig eraill). Mae’n hawdd decharau ar e-Cymru! Ewch I’r wefan www.ecymru.co.uk a dilyn y cyfarwyddiadau i gofrestru. Unwaith y byddwch chi wedi cofrestru, cewch gyrchu llu o ddigwyddiadau, gweithgareddau a chyfleoedd dysgu ac ymgysylltu, felly peidiwch ag oedi, ymunwch heddiw i ddechrau eigh taith e-Cymru!

Mwy o wybodaeth yma

Cyfle ennil taleb siopio werth £50!

Yn ddiweddar, rydym wedi profi pa mor fforddiadwy yw’r rhenti a’r taliadau gwasanaeth rydym yn godi ac rydym yn hynod o falch o gyhoeddi bod pob un wedi pasio y meini prawf fforddiadwy.

Rydym wedi defnyddio dull a ddatblygiwyd gan y Joseph Rowntree Foundation i wneud y Gwaith hwn – dull hynod o boblogaidd sy’n dweud bod rhent yn fforddiadwy os nad yw yn fwy na 28% o incwm y tenant neu 33% o’r incwm os yw’r tenant hefyd yn talu am dal gwasanaeth (service charge).

Yn naturiol, nid oes ganddom wybodaeth am incwm pob un o’n tenantiaid, felly rydym wedi defnyddio y ‘real living wage’ i gyfrifo hyn gan ein bod yn credu bydd y mwyafrif o’n tenantiaid sy’n gweithio yn ennill hyn o ganlyniad i Lywodraeth Cymru geisio hybu cyflogwyr i dalu’r lefel hwn.

Rydym yn hynod o falch o gael rhannu’r newyddion yma gyda chi, ond rydym angen gwybod sut mae hyn yn ei deimlo i chi? Ydi hyn yn beth fyddech chi yn ei feddwl? Ydych chi yn cytuno efo hyn? Rydym yn awyddus iawn i gael eich barn ar hyn ac ar y gwasanaethau rydych yn eu derbyn gan Tai Gogledd Cymru trwy cwblhau yr arolwg isod. Bydd tenantiaid Tai Gogledd Cymru sy’n cwblhau’r arolwg yn cystadlu yn y raffl fawr!

Link i’r arolwg https://forms.office.com/r/P5sD3JxLM8

Os ydych am siarad â rhywun yn Tai Gogledd Cymru am yr arolwg hwn, cysylltwch ag Iwan Evans ar 01492 563232 neu [email protected]

Mae Ruth Lanham-Wright, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cartrefi, yn dathlu 20 mlynedd yn gweithio yn TGC ar 29 o Gorfennaf. Dechreuodd gasglu rhent ar gyfer Tai â Chymorth ac mae hefyd wedi gweithio i’r tîm Cyllid. Mae ganddi brofiad a gwybodaeth anhygoel o TGC a straeon gwych i’w hadrodd.

Felly hoffem anfon cyfarchion arbennig ati oddi wrth bawb ohonom yn TGC, gan ddiolch iddi am ei chyfraniad anhygoel bob dydd.

Manteisiwyd ar y cyfle i ofyn rhai cwestiynau i Ruth am ei 20 mlynedd gyda ni yma, oedd yn gyfle gwych iddi fyfyrio a meddwl yn ôl.

A allwch chi roi crynodeb gyrfa byr o’ch amser yn TGC

Dechreuais yn TGC yn casglu rhent ar gyfer y tîm Tai â Chymorth. Yn fuan wedyn dechreuais ymwneud â cheisiadau am arian grant ac anfonebu asiantaethau ac mi ddaeth hynny â mi i sylw’r Pennaeth Cyllid. Cysylltodd y Pennaeth â mi a gofyn a fyddwn yn gwneud cais am swydd Uwch Swyddog Cyllid. Roedd hyn yn dipyn o fedydd tân gan fod y tîm yn un anhapus ac mi wnaeth pawb adael ychydig cyn diwedd y flwyddyn ariannol. Roedd hyn yn fendith mewn gwirionedd wrth i mi recriwtio tîm gwych a oedd yn cynnwys John! Bûm yn rheolwr llinell ar y tîm cyllid am rai blynyddoedd ac yna, yn ystod yr ailstrwythuro, llwyddais i gael fy mhenodi i swydd Rheolwr y Timau Cyllid ac Incwm. Yn ogystal â’r swydd hon, cefais hefyd gynnig nawdd a chefnogaeth gan y sefydliad i gymhwyso fel Cyfrifydd. Enillais Gradd Dosbarth 1af mewn Cyfrifeg Gymhwysol ac rwy’n dal i weithio’n galed ar y papurau ôl-radd. Mae gennyf ddau arholiad ar ôl i gymhwyso’n llawn fel Cyfrifydd Siartredig Ardystiedig. Cefais gyfle i weithio ar lefel Uwch Arweinydd pan wnes i lenwi i fewn dros Emma adeg ei chyfnod mamolaeth.

Tra’n gweithio ym maes cyllid, cefais fy secondio nifer o weithiau i’r tîm cynnal a chadw i wneud gwaith datrys problemau (rhoi trefn ar y llanast!) gyda’r cyllidebau, costau gwasanaeth, systemau a phrosesau. Rhoddodd hyn y cyfle i mi wneud cais a llwyddo i gael swydd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Cartrefi. Yna cefais fy mhenodi i’r swydd hon yn barhaol ac rwy’n dal i fwynhau gweithio gyda’r Tîm Cartrefi.

Beth yw’r prif newidiadau rydych chi wedi eu gweld?

Rwyf wedi gweld llawer o newid dros y blynyddoedd, o dwf cyflym i dwf araf a llawer o newidiadau yn yr arweinyddiaeth. Mae arweinyddiaeth newydd bob amser yn dod â diwylliant a chyfleoedd newydd. Mae’n debyg mai’r newid diweddar i weithio mewn ffordd ystwyth a diwylliant o ymddiriedaeth a gofal i’n tenantiaid yw’r newid mwyaf i mi ei weld yn ystod fy amser ac, yn fy marn i, mae’n newid cadarnhaol iawn.

Beth yw’r uchafbwynt yn eich cyfnod yn gweithio yn TGC?

Roedd ennill fy ngradd yn uchafbwynt mawr i mi. Roeddwn i ychydig yn bengaled yn fy arddegau hwyr ac mi wnes i adael yr ysgol fwy neu lai yn ystod fy Lefel A felly roedd ennill Gradd 1af yn gyfle gwych, ac rwy’n ddiolchgar i Tai Gogledd Cymru am hynny. Mae symud ymlaen yn fy ngyrfa o fod yn swyddog iau i fod yn aelod o’r Uwch Dîm Arwain hefyd wedi bod yn uchafbwynt i mi.

Beth ydych chi’n ei fwynhau am weithio yn TGC?

Rwyf wedi cael llawer o gyfleoedd gan Tai Gogledd Cymru dros y blynyddoedd ac rwyf mor ddiolchgar am hynny. Rwyf wedi gweithio mewn sawl adran ac ar wahanol lefelau. Ni allaf gredu fy mod wedi bod yma ers 20 mlynedd, ac rwyf wrth fy modd fy mod i’n dal i ddysgu bob dydd.

Rwyf wedi gweld llawer o newid personol dros y blynyddoedd hynny, ac mae’r sefydliad wedi fy nghefnogi ym mhob sefyllfa. O gael babi a magu plentyn mewn amgylchedd sy’n ystyriol o deuluoedd i’r gofal, i’r hyblygrwydd a’r gefnogaeth anhygoel a roddodd y sefydliad a chydweithwyr yn y tîm Pobl Hŷn i mi a’m rhieni pan ddirywiodd eu hiechyd. Roedd y gofal a roddodd y tîm i fy nhad yn ei ddyddiau olaf a’r dyddiau a dreuliwyd yn chwilio am fy mam a oedd yn crwydro wrth i’w dementia ddatblygu yn anhygoel ac roeddwn yn teimlo fy mod i hefyd yn cael gofal mawr.

Yr hyn rwy’n ei fwynhau fwyaf am fy ngwaith yn Tai Gogledd Cymru yw fy mod i’n gallu defnyddio fy sgiliau a’m doniau, sy’n tueddu i fod yn rhai “cefn swyddfa” er mwyn cael ymdeimlad o bwrpas gwerth chweil gan fy mod i’n cyfrannu at y gwaith rydym yn ei wneud i newid bywydau pobl er gwell.

Os yw stori Ruth wedi eich ysbrydoli ac yr hoffech weithio gyda TGC, cymerwch golwg ar ein swyddi gwag https://www.nwha.org.uk/cy/careers/current-vacancies/ #GwneudGwahaniaeth.

Enillwyr cystadleuaeth garddio yw…

Mae’r haf yma, mae gerddi’n wyrdd ac yn blodeuo, y rysáit perffaith ar gyfer Cystadleuaeth Gerddi TGC!

Diolch i bawb a gymerodd ran yn y gystadleuaeth eleni. Roedd y ceisiadau eleni eto o safon anhygoel o uchel, a chafodd y beirniaid amser caled yn penderfynu ar yr enillwyr.

Ar ôl llawer o drafod rydym yn falch o ddatgelu mai’r enillwyr yw:

Gardd Orau

1af Agnes Jones, Cwrt WM Hughes, Llandudno

2il Janet Hurd, Ty Llewelyn, Bae Colwyn

3ydd Edward Arundel, Lloyd Street, Llandudno

Y Gofod/Gardd Gymunedol Orau

Cydradd 1af Jean Hayward, Violet Mort, a James Mullins, Hafod y Parc, Abergele

Cydradd 1af Josh Williams, Pat Law, a Sam Thomas, Ty John Emrys, Bae Colwyn

2il Nerys Prosser, Llain Deri, Bae Colwyn

3ydd Preswylwyr Hostel y Santes Fair, Bangor

Gardd Gynhwysydd Orau

Cydradd 1af Val Conway, John Griffiths, a Shirley Thomas, Taverners Court, Llandudno

Cydradd 1af Reginald Atkinson a Joan Collins, Taverners Court, Llandudno

Cydradd 2il Laslo Keri, Leslie Evans, Geoff Uttley, a Donald Blackman, Llys y Coed, Llanfairfechan

Cydradd 3ydd Brian Edwards, Monte Bre, Llandudno

Cydradd 3ydd Rachel Turnbull, Noddfa, Bae Colwyn

Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr. Byddwn mewn cysylltiad â’r holl enillwyr a’r rhai a ddaeth yn ail yn fuan gyda gwobr.

Tîm Incwm yn bwrw iddi!

Dydd Llun y 28ain o Chwefror mae Tîm Incwm Tai Gogledd Cymru ar ei newydd wedd yn gweithio i ddarparu gwasanaethau casglu incwm ar draws ein hardal weithredu. Gan weithio mewn pedair ardal ddaearyddol, bydd pob swyddog yn gyfrifol am weithio gyda’n tenantiaid a rhoi cymorth. 

Bydd y trawsnewid i weithio mewn ardaloedd yn cael ei wneud mewn dau gam, a disgwylir i’r “cyfnod hyfforddi” cychwynnol barhau 6 mis cyn i ni symud i’r strwythur ardal barhaol ym mis Medi 2022. Rydym yn ei wneud fel hyn i wneud yn siŵr bod holl aelodau grŵp y tîm yn gallu derbyn yr hyfforddiant a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i ddarparu gwasanaethau rhagorol a chyson i’n holl denantiaid a chydweithwyr. Y rhain yn ôl eu hardaloedd yw: 

  • Swyddog Incwm y Gorllewin – Martin Williams 
  • Swyddog Incwm Canol – Karlene Jones 
  • Swyddog Incwm y Dwyrain – Joann Fisher 
  • Swyddog Cyngor Ariannol ac Incwm – Nicky Thomas 
  • Swyddog Incwm Cyfreithiol a Swyddog Incwm Ynys Môn – Rhian Hughes 
  • Swyddog Incwm Cynorthwyol – Hannah Williams 
  • Swyddog Incwm Allan o Oriau – Kieren Lewis 
  • Rheolwr Incwm – Darren Thomas. 

Mae croeso i chi gysylltu ag unrhyw un yn y Tîm Incwm os hoffech drafod ein strwythur newydd a gweld sut y gallwn gydweithio.  

Apwyntiadau wyneb yn wyneb nawr ar gael

Eisiau cyfarfod â’ch Swyddog Cymdogaeth? Eisiau cymorth a chyngor gan y tîm incwm? Gallwn nawr gynnig apwyntiadau o gysur eich cartref eich hun, neu o 14 Chwefror ‘22, yn ein Swyddfa Cyffordd Llandudno. 

Bydd y Tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid yn eich helpu i drefnu apwyntiad. Cysylltwch â nhw trwy e-bost Gwasanaethau Cwsmer neu ffoniwch 01492 572727 gyda’r wybodaeth ganlynol wrth law:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Rhif Ffôn
  • Rheswm dros y cyfarfod
  • Dyddiad ac amser addas
  • Lleoliad a ffafrir