Cynllun tai £1.5m newydd Bae Colwyn yn cael ei agor yn swyddogol

Agorwyd datblygiad tai fforddiadwy newydd Nant Eirias ym Mae Colwyn yn swyddogol gan Hannah Blythyn AC, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn digwyddiad ffurfiol ar ddydd Iau, y 3ydd o Hydref 2019.

Mae cyfanswm o 12 fflat un a dwy ystafell wely wedi’u hadeiladu gan Tai Gogledd Cymru fel rhan o’r prosiect £1.5 miliwn.

Dywedodd Helena Kirk, Prif Weithredwr, Tai Gogledd Cymru:

“Rydym yn hynod falch ein bod wedi creu 12 cartref rhent fforddiadwy newydd ym Mae Colwyn. Mae hyn yn ganlyniad i weithio mewn partneriaeth ardderchog gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Trwy weithio gyda’n gilydd, rydym wedi gwella rhagolygon tai teuluoedd lleol ifanc ac wedi helpu i fynd i’r afael â’r mater ehangach o brinder tai.

Y cartrefi newydd oedd datblygiad rhent canolraddol cyntaf Tai Gogledd Cymru; mae hyn yn golygu eu bod wedi’u hanelu at bobl mewn gwaith, neu sy’n gallu talu’r rhent heb gymorth ariannol ond yn cael eu gosod ar rent is na’r rhent a godir am gartrefi tebyg yn yr ardal gan landlordiaid preifat. Roedd y gosodiadau’n cael eu rheoli gan Tai Teg, Cofrestr Cartrefi Fforddiadwy Conwy.

Mae’r datblygiad newydd yn rhan o Raglen Adfywio Bywyd y Bae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy; a ddatblygwyd gyda chefnogaeth grant Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol:

“Rydym eisiau cefnogi ein trefi i sicrhau eu bod yn lleoedd deniadol, bywiog i bobl fyw, gweithio ac ymweld â nhw – ac roeddwn i’n falch o weld y datblygiad gorffenedig a gobeithio y bydd y preswylwyr yn hapus yn eu cartrefi newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Charlie McCoubrey, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Dai i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy:

“Roedd y safle hwn wedi bod yn ddolur llygad ers blynyddoedd ac, o ystyried ei leoliad, roedd yn lle delfrydol ar gyfer eiddo preswyl. Felly, rwy’n falch iawn o weld y datblygiad hwn o dai fforddiadwy o ansawdd da yn dwyn ffrwyth. Mae tai fforddiadwy i bobl leol yn flaenoriaeth allweddol i’r Cyngor ac mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd. Rwy’n gobeithio bod y tenantiaid yn ymgartrefu’n dda a hoffwn ddymuno’r gorau iddynt yn eu cartrefi newydd.”

Nid y preswylwyr yn unig sydd wedi elwa o’r datblygiad newydd hwn, bu llawer o fuddion cymunedol hefyd, gan gynnwys hyfforddiant lleol a chyfleoedd cyflogaeth.

Mae’r cartrefi newydd yn effeithlon o ran costau rhedeg ynni – ystyriaeth allweddol o ariannu’r cynllun trwy Grant Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid a Grant Tai Cymdeithasol Cyngor Conwy a Llywodraeth Cymru.

TGC yn chwifio’r faner yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Cawsom wythnos brysur yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni.

Diolch i’r rhai ohonoch a ddaeth draw i’n stondin a chymryd rhan yn ein nifer o weithgareddau! Fe wnaethon ni gyflawni ein nod o feicio’r 186 milltir o Langollen i Abersoch ac yna Caergybi. Cawsom dros 200 o gynigion ar gyfer y gystadleuaeth arlunio plant hefyd, a oedd yn gwneud beirniadu yn anodd iawn!

Fe wnaethon ni gynnal cystadleuaeth tenantiaid i ennill tocynnau; llongyfarchiadau i’r rhai a enillodd, a diolch i Ace am bicio draw i ddweud helo!

 

Priosect celf newydd yn Tre Cwm, Llandudno

Fe’ch gwahoddir i ymuno â phrosiect celf ‘Mae’r wal yn’ am wal yn Nhre Cwm gyda llawer o weithdai a digwyddiadau am ddim:

  • Dydd Llun 24 Mehefin 4–6.30pm
  • Dydd Mercher 3 Gorffennaf 4–6.30pm
  • Dydd Sadwrn 6 Gorffennaf 10am – 4pm
  • Dydd Llun 15 Gorffennaf 4–6.30pm
  • Dydd Sadwrn 20 Gorffennaf 10am – 4pm
  • Dydd Iau 25 Gorffennaf 10am – 4pm

Croeso i bawb – Dilynwch yr arwyddion o amgylch Tre Cwm i ddod o hyd i ni!

Darperir byrbrydau a lluniaeth yn y digwyddiadau.

Nod y prosiect yw i ni greu gwaith celf ar gyfer y wal ger y cylchfan ac yr A456. Sut y gall gynrychioli elfennau unigryw Tre Cwm? Beth yw’r straeon fydd yn dod â’r wal yn fyw ac yn gwahodd pobl i ddysgu am ei gilydd? Sut ydym ni’n dogfennu’r prosiect yn ddigidol? Dyma rai o gwestiynau i ddechrau.

Kristin Luke yw’r artist preswyl ar gyfer Tre Cwm. Yn wreiddiol o Los Angeles, symudodd i Ogledd Cymru yn 2017. Mae hi’n gwneud gwaith cerflunio, dylunio digidol a ffilm, am addysg, pensaernïaeth, ac iwtopias. Mae’n debyg y byddwch yn ei gweld yn eithaf aml o amgylch yr ystâd!

Mae hwn yn brosiect cyffrous newydd, sydd yn bendant angen grwˆp cyffrous o bobl i wneud iddo ddigwydd!

Dilynwch y priosect ar Facebook, Twitter a Instagram @TreCwm

#maerwalyn ac ychwanegwch #ansoddair

Digwyddiad Arbennig i Nodi Canmlwyddiant yr RAF ym Mangor dydd Sadwrn, 8 Medi 2018

Digwyddiad Arbennig i Nodi Canmlwyddiant yr RAF ym Mangor dydd Sadwrn, 8 Medi 2018

Fel rhan o raglen o ddigwyddiadau yng Nghymru i gofio a dathlu Canmlwyddiant yr Awyrlu Brenhinol, bydd dinas Bangor yn cynnal gorymdaith fawr a hedfan drosodd i’r Llu Awyr ddydd Sadwrn 8 Medi. Bydd hwn yn un o ddigwyddiadau olaf y Canmlwyddiant a’i fwriad yw cydnabod y cysylltiadau cryf sydd wedi bod rhwng Gogledd Cymru a’r RAF dros y can mlynedd yna.

I Fangor, mae’r cysylltiadau hyn yn mynd yn ôl reit i ddechrau’r RAF, pan ddaeth “RAF Bangor” yn weithredol yn 1918, gyda Sgwadron rhif 244 yn hedfan awyrennau Airco DH6 o Abergwyngregyn, yn cynnal patrolau gwrth longau tanfor ym Môr Iwerddon. Er i RAF Bangor gau yn fuan wedi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, mae hwn yn dal i fod yn gysylltiad unigryw ac arbennig i ddinas Bangor ei gofio wrth i’r RAF ddathlu ei ganmlwyddiant yn 2018. A heddiw, mae’r cysylltiadau cryf rhwng Bangor a’r RAF yn parhau, gyda RAF Fali wedi cael Rhyddid y Ddinas ers 23 Mawrth 1974.

Ddydd Sadwrn 8 Medi, bydd dathliadau Canmlwyddiant yr RAF yn dod i Fangor, gyda staff RAF Fali, fel Rhyddfreinwyr Dinas Bangor, yn gorymdeithio drwy strydoedd y ddinas. Yn ymuno â nhw bydd Band Canolog yr Awyrlu, ynghyd â nifer o Gadetiaid Awyr o sgwadronau ar draws Gogledd Cymru.

Bydd y bore’n dechrau gyda Gwasanaeth Arbennig i ddathlu’r Canmlwyddiant yn y Gadeirlan, am 0945 am, ac mae croeso i aelodau’r cyhoedd fod yn bresennol. Am 11.15am, bydd yr orymdaith yn dangos arfau wrth y Gofeb Ryfel, pryd bydd awyrennau Hawk o RAF Fali yn hedfan drosodd. Yna byddant yn cael eu croesawu gan Ei Deilyngdod Maer Bangor, Arglwyddi Rhaglaw Gwynedd a Chlwyd ynghyd â gwesteion anrhydeddus o bob cwr o Ogledd Cymru. Prif swyddog yr RAf yn yr orymdaith fydd Marsial yr Awyrlu Michael Wigston, a gafodd ei fagu ym Mangor ac a fu’n ddisgybl yn Ysgol Friars.

Am tua 11.40am bydd yr Orymdaith yn camu oddi ar y Gofeb Ryfel i arfer y Rhyddid, gan orymdeithio heibio’r Gadeirlan a throi i’r chwith i lawr Stryd Fawr y Ddinas. Wrth y Cloc bydd y Maer, yr Arglwyddi Rhaglaw a Marsial Wigston yn cydnabod y saliwt. Yna bydd yr Orymdaith yn mynd ymlaen i lawr y Stryd Fawr i Stryd y Deon, ac yna’n camu allan tua 12.00pm.

Dywedodd Maer Bangor, y Cynghorydd John Wynn Jones “Mae gan Fangor a sawl ardal arall dros Ogledd Cymru gysylltiadau cryf â’r Awyrlu dros nifer o flynyddoedd ac mae’n fraint i Fangor gael croesawu’r digwyddiad pwysig hwn i nodi Canmlwyddiant yr RAF. Gyda’r Awyrlu’n gorymdeithio drwy strydoedd Bangor mae’n rhoi cyfle i’r cyhoedd ddangos eu gwerthfawrogiad o’r teyrnarwch, yr ymroddiad a’r gwasanaeth ardderchog a roddodd yr RAF dros y can mlynedd diwethaf, ar nifer o lu’r RAf a gollodd eu bywydau yn ystod y cyfnod hwn. Bydd cael awyrennau Hawk o RAF Fali yn hedfan a’r Orymdaith drawiadol a lliwgar, yn achlysur cofiadwy ac yn werth eu gweld. Dylai pawb o Fangor a’r cyffiniau wneud ymdrech i ddod i fod yn rhan o’r dathliad.”

Beicio mynydd AM DDIM

Eisiau trio beicio mynydd? Dyma eich cyfle… Ar 15 Medi rydym yn cynnig preswylwyr Sir Conwy sesiwn beicio mynydd am ddim.

  • Beic a holl offer wedi ei gynnwys
  • Yn agored i bob gallu, nid oes angen unrhyw brofiad
  • Cludiant wedi ei gynnwys
  • Cyfle i ennill cymhwyster
  • Mae lleoedd yn gyfyngedig

Lawr lwytho poster

Am fwy o wybodaeth neu i archebu lle cysylltwch â [email protected] neu ffoniwch 01492 563232.

Agor Drysau i’r Awyr Agored

Mae prosiect Agor Drysau i’r Awyr Agored wedi mynd o nerth i nerth a bellach mae 29 o breswylwyr wedi mynychu ac ennill cymwysterau o’r sesiynau am ddim mewn dringo, cerdded bryniau neu ganŵio.

Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng Tai Gogledd Cymru, y Bartneriaeth Awyr Agored a Chanolfannau Conway ar Ynys Môn. Cafodd ei ddatblygu gyda’r nod o roi profiadau gweithgareddau awyr agored o safon uchel i denantiaid, gyda’r opsiwn o ennill cymhwyster a gwella cyfleoedd cyflogaeth yn y gweithlu sector awyr agored.

Dywedodd Iwan Evans, Cydlynydd Cyfranogiad Tenantiaid:

“Mae’r prosiect wedi cael effaith gadarnhaol ar y rhai sydd wedi cymryd rhan. Mae’r rhai sy’n cymryd rhan wedi nodi sut y maen nhw wedi gwella eu ffitrwydd, iechyd, a cholli pwysau. Mae eraill hefyd wedi sylwi gymaint y maen nhw wedi mwynhau cyfarfod â phobl eraill a chreu cyfeillgarwch newydd.”

Y gweithgaredd nesaf yw Beicio Mynydd ym mis Medi. Os hoffech chi gymryd rhan yn y gweithgaredd hwn sydd AM DDIM, cysylltwch ag Iwan 01492 563232 [email protected]. Mae lleoedd yn gyfyngedig, felly cofrestrwch eich diddordeb rŵan!

Lawr lwythwch y poster beicio mynydd yma

Sesiwn blasu canŵio AM DDIM i denantiaid

Erioed eisiau trio canŵio ond y gost yn eich atal? Mae Tai Gogledd Cymru yn cynnig sesiynau blasu AM DDIM i denantiaid o Gonwy yn dechrau Dydd Gwener 26ain Mai.

Mae llefydd yn gyfyngedig felly cysylltwch yn fuan! E-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 01492 563232 i gofrestru nawr!