Dod i adnabod eich landlord

Rydym yn awyddus i ddod i adnabod ein trigolion ychydig yn well. Felly Ebrill rydym yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ‘Dod i adnabod eich landlord’.

Dewch i ddweud helo a chystadlu mewn raffl i ennill tocyn anrheg TESCO gwerth £25 ac wy Pasg!

Byddwn yn darparu gwybodaeth am:

  • Ein porth tenantiaid a beth sydd gan Tai Gogledd Cymru i’w gynnig yn ddigidol
  • Y cyfleoedd sydd ar gael yn Tai Gogledd Cymru
  • Sut i gymryd rhan a dweud eich dweud

Byddwn hefyd yn gofyn eich barn am yr hyn sydd bwysicaf i chi fel tenant a beth ddylai fod ein blaenoriaethau fel landlord.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Iwan ar [email protected] neu 01492 563232.

Hwyl Dydd Gŵyl Dewi yn Tai Gogledd Cymru

Ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni ni wnaeth staff a phreswylwyr ymdrech i ddathlu popeth Cymreig unwaith eto, gan gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau.

Dathlodd swyddfeydd Dydd Gŵyl Dewi, dydd gŵyl nawddsant Cymru, trwy ddod at ei gilydd dros amser cinio. Mi wnaeth staff yn y swyddfeydd Bangor a Chyffordd Llandudno fwynhau cawl tatws a chennin traddodiadol a theisennau cri, a chymryd rhan mewn gemau ar thema Dydd Gŵyl Dewi.

Roedd yr holl elw o’r diwrnod yn mynd i Hosbis Dewi Sant, elusen Tai Gogledd Cymru ar gyfer y flwyddyn.

Ymunodd preswylwyr hefyd yn yr hwyl, wrth i breswylwyr Cae Garnedd, Bangor gael eu difyrru gan y telynor Michael Richards. Ar y llaw arall mi wnaeth preswylwyr Uxbridge Court ym Mangor ddewis dathlu mewn dull mymryn llai traddodiadol drwy gael cinio pysgod a sglodion! Ac mi gafodd Taverners Court brynhawn cyfan wedi ei neilltuo i Ddydd Gŵyl Dewi, gan fwynhau ychydig o ganeuon gan aelod o Gôr Meibion ​​Maelgwn ac amrywiaeth o ddanteithion traddodiadol.

Amser i orffwys rŵan – nes dathliadau’r flwyddyn nesaf!

Sesiwn blasu dringo am ddim i denantiaid

A fyddech chi’n hoffi i 2017 fod yn flwyddyn o brofiadau newydd? Gallwn eich helpu i ddechrau arni!

Rydym yn cynnig cyfres o sesiynau blasu am ddim i’n tenantiaid ar gyfer gweithgareddau awyr agored. Y sesiwn gyntaf yw dringo ar y 3ydd o Chwefror 2017.

Bydd hyfforddwyr cymwys a phrofiadol wrth law i’ch helpu chi a byddwn yn darparu’r holl offer sydd ei angen arnoch a chludiant i gyrraedd yno. Mae’r sesiwn blasu yn agored i bob gallu, nid oes angen unrhyw brofiad. Bydd gweithgareddau yn cael eu teilwra i’ch gallu. Eich mwynhad fydd ein blaenoriaeth!

Profi rhywbeth newydd | Cael hwyl | Cyfarfod â phobl newydd | Sgiliau newydd | Ennill cymhwyster (dewisol)

Sut ydych chi’n cofrestru?

Ebostiwch [email protected] neu ffoniwch 01492 563232 a chofrestrwch rŵan! Ddim at eich dant? Peidiwch ag ofni, mae gennym sesiynau blasu eraill y gallwch gymryd rhan ynddynt, o gerdded bryniau i ganŵio. Anfonwch eich manylion atom ac mi wnawn ni gysylltu pan fyddwn wedi trefnu’r dyddiadau.

Hwyl yr ŵyl yn Ffair Nadolig cyntaf

Roedd Ffair Nadolig cyntaf Tai Gogledd Cymru yn llwyddiant mawr; codwyd dros £740 i elusen leol Hosbis Dewi Sant.

Daeth oedolion a phlant draw i’r diwrnod Nadoligaidd yn Ganolfan Cymunedol Tŷ Hapus yn Llandudno. Wnaethant fwynhau’r nifer o stondinau crefft brydferth a chwarae’r nifer o gemau ar gael.

Wnaeth Sïon Corn a Elsa o Frozen hefyd ddod draw, gan fwynhau siarad gyda’r plant am eu rhestr hir i Sïon Corn! 

Dywedodd Emma Williams, Cadeirydd panel elusen TGC:

“Diolch i bawb wnaeth helpu gwneud y digwyddiad ddigwydd; roedd yna lot o waith caled yn ymglymedig gyda’r digwyddiad. Diolch hefyd i bawb wnaeth ddod draw a gwario eu pres! Bydd yr holl elw yn mynd at Hosbis Dewi Sant, ein helusen o ddewis ar gyfer y flwyddyn hon.”

 Dywedodd Kathryn Morgan-Jones, Hosbis Dewi Sant:

“Rwyf yn hynod o falch roedd Ffair Nadolig cyntaf Tai Gogledd Cymru yn llwyddiant. Wnaeth y nifer o stondinau crefft, gemau ac anrhegion Nadolig ddenu gymaint o gefnogwyr a hel sŵn nodedig i Hosbis Dewi Sant.

“Mae cymorth Tai Gogledd Cymru yn gwneud gwahaniaeth mawr, mae’n ein galluogi i helpu llawer mwy o gleifion a theuluoedd o Gonwy, Gwynedd ac Ynys Môn sydd wedi eu heffeithio gan salwch datblygedig.”

“Rwy’n edrych ymlaen at barhau i gefnogi staff Tai Gogledd Cymru gyda’u hymdrech hel pres ac ar ran ein holl gleifion, teuluoedd, gorfoleddir a staff byswn yn hoffi ymestyn diolch enfawr.”

Hwyl Fferm Stryd i breswylwyr Llandudno

Cynhaliwyd ein Gweithdy Fferm Stryd cyntaf yn Clos McInroy, Llandudno ar ddydd Sadwrn 19 Tachwedd.

Mi wnaeth oedolion a phlant fwynhau prynhawn llawn hwyl yn dysgu a derbyn cyngor ar blannu perlysiau.

Cafodd y rhai ddaeth draw flasu ychydig o gŵn poeth am ddim cyn mynd adref â rhai o’r perlysiau roeddent wedi eu plannu, yn amrywio o Falm Lemwn, Mintys, Rhosmari a hyd yn oed Mintys Siocled!

Mae’r prosiect mewn partneriaeth â ‘Cymunedau’n Gyntaf’ a ‘Grow it Love it’.

Dywedodd Iwan Evans, Cydlynydd Cyfranogiad Tenantiaid yn Tai Gogledd Cymru:

“Roedd yn ddiwrnod pleserus a daeth nifer dda o denantiaid heibio. Roedd yn dda cael cyfarfod â’r tenantiaid a hefyd gweld y plant yn mwynhau eu hunain. Rydym yn gobeithio trefnu digwyddiadau tebyg eto yn y dyfodol agos.”

Cadwch lygaid am unrhyw ddigwyddiadau yn y dyfodol ar ein Calendr Digwyddiadau.

Dewch gwrdd â Siôn Corn yn Ffair Nadolig TGC

Am y tro cyntaf erioed mae TGC yn cynnal Ffair Nadolig. Bydd y digwyddiad Nadoligaidd yn cymryd lle yng Nghanolfan Gymunedol Tŷ Hapus, Llandudno ar Ddydd Sadwrn 3ydd o Ragfyr 1yp – 3yp.

Bydd yna ddigon i gynnig oedolion a phlant, gan gynnwys:

Groto Siôn Corn | Cystadleuaeth Gwisg Ffansi | Stondinau crefft ac addurniadau | Bric a Brac | Tombola | Gemau | Paentio Wynebau a thatŵs | Castell Neidio | Bwyd a Diod a llawer mwy

Bydd yr holl elw yn mynd at Hosbis Dewi Sant, ein helusen o ddewis ar gyfer y flwyddyn hon.

Tâl Mynediad Oedolion £1 | Plant am ddim

Oes gennych chi ddiddordeb mewn cael stondin? Cysylltwch â [email protected] i archebu. £5 y stondin.

Bws ar gael o ardal Bangor (Tenantiaid TGC yn unig) – cysylltwch ag Iwan Evans ar [email protected] 01492 563,232 am fwy o wybodaeth.

Maes parcio yn gwneud lle i 12 o gartrefi fforddiadwy newydd

Agorwyd datblygiad tai fforddiadwy newydd Clos Owen yn Wrecsam yn swyddogol mewn digwyddiad ar ddydd Gwener 4 Tachwedd 2016.

Mae’r datblygiad tai cymdeithasol £1.5 miliwn yn nodi’r cyntaf ar gyfer Tai Gogledd Cymru yn Wrecsam, gan wneud yn siŵr bod y gymdeithas yn byw yn ôl ei enw ‘Tai Gogledd Cymru’.

Gan weithio’n agos gyda Chyngor Sir Wrecsam mae cymdeithas tai Gogledd Cymru wedi creu 12 o dai rhent fforddiadwy newydd yn ardal Whitegate y dref ar safle hen faes parcio.

Plannwyd coeden addurnol i nodi’r achlysur cyn cyfarfod trigolion dros de prynhawn.

Meddai Phil Danson, Cyfarwyddwr Llefydd yn Tai Gogledd Cymru:

“Mae hon yn enghraifft ardderchog o sut mae Tai Gogledd Cymru yn gweithio gyda’u partneriaid i ddatblygu tai fforddiadwy newydd yng Ngogledd Cymru. Drwy weithio’n agos mewn partneriaeth gyda Chyngor Wrecsam rydym wedi gwella rhagolygon tai i deuluoedd ifanc lleol a mynd i’r afael â’r mater ehangach o brinder tai.”

“Rydym yn gobeithio y bydd y tenantiaid yn mwynhau byw ar eu stad newydd am flynyddoedd i ddod, ac y byddant yn cymryd pob cyfle i gyfrannu at eu cymuned.”

Symudodd trigolion i’w cartrefi newydd ym mis Gorffennaf 2016 ac maent wedi ymgartrefu’n dda.

Dyweddod un o’r preswylwyr Julie Jones:

“Rwy’n hapus iawn gyda fy nghartref newydd. Symudais yma o Llai a dwi’n hapus iawn gydag ansawdd y tŷ newydd. Mae yna ddigon o le ynddo, mae yna baneli solar sydd eisoes wedi arbed arian i mi ar filiau gwresogi, mae popeth yn lân ac yn fodern ac yn hawdd i’w defnyddio ac mae digon o le storio. Gallaf gyrraedd canol y dref o fewn ychydig funudau ar droed rŵan felly mae’n ddelfrydol i mi.”

Dywedodd yr Aelod Lleol ar gyfer Whitegate, y Cyng Brian Cameron:

“Mae hwn yn ddatblygiad cadarnhaol iawn ar gyfer tai yn yr ardal.  Rwy’n falch iawn hefyd fod dau o’r fflatiau llawr gwaelod un ystafell wely wedi cael eu hadeiladu gydag addasiadau ar gyfer preswylwyr sydd ag anghenion penodol. Mae partneriaeth y cyngor gyda Tai Gogledd Cymru wedi gweithio’n dda iawn yma ac, o ganlyniad, rydym wedi gallu creu eiddo dymunol iawn ac rwy’n siŵr y bydd y preswylwyr newydd yn hapus iawn gyda nhw.”

Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Dai, y Cynghorydd Ian Roberts:

“Rydym wedi gwneud cynnydd gwych gyda datblygu tai fforddiadwy yn Wrecsam yn ddiweddar, diolch i nifer o gynlluniau sydd ar y gweill ar draws y Fwrdeistref Sirol. Rwyf wrth fy modd bod y cartrefi modern, atyniadol hyn wedi eu cwblhau yn Clos Owen ac mae’n wych gweld bod y bartneriaeth rhwng y Cyngor a Tai Gogledd Cymru wedi cael canlyniadau mor gadarnhaol yma.”

Agor datblygiad tai fforddiadwy newydd yn swyddogol

Daeth preswylwyr, staff a gwesteion ynghyd i ddathlu agoriad swyddogol datblygiad tai fforddiadwy newydd Stad yr Ysgol yn Bryn Paun, Llangoed ar ddydd Gwener 21 Hydref, 2016.

Gan weithio’n agos gyda Chyngor Sir Ynys Môn, mae datblygiad tai newydd Stad yr Ysgol wedi’i adeiladu yn ardal Bryn Paun pentref Llangoed, yn agos at yr ysgol gynradd leol.

Mae’r safle wedi cael ei weddnewid gan Tai Gogledd Cymru a’r contractwyr dynodedig Williams Homes Bala, gan ddarparu 10 o dai fforddiadwy sydd eu dirfawr angen, sef cymysgedd o 8 tŷ pum person x tair ystafell wely a 2 dŷ pedwar person x dwy ystafell wely.

Mi wnaeth Lynne Parry, Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Landlord Tai Gogledd Cymru, a’r cynghorydd lleol Lewis Davies helpu i blannu coeden addurnol i nodi’r achlysur cyn mwynhau te prynhawn gyda pherfformiadau gan blant yr ysgol leol, Ysgol Llangoed.

Eglurodd Phil Danson, Cyfarwyddwr Lleoedd gyda Tai Gogledd Cymru:

“Rydym yn hynod falch ein bod wedi creu 10 o dai rhent fforddiadwy newydd i bobl leol Llangoed. Mae hyn yn ganlyniad partneriaeth wych gyda Chyngor Sir Ynys Môn. Trwy weithio gyda’n gilydd rydym wedi gwella’r rhagolygon tai i deuluoedd ifanc lleol a helpu i fynd i’r afael â mater ehangach prinder tai.”

Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Tai Ynys Môn, Shan Lloyd Williams:

“Mae’r Cyngor wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a Tai Gogledd Cymru i gyflenwi’r cynllun tai fforddiadwy arloesol yma, mewn ardal lle canfyddwyd angen am dai fforddiadwy. Ein gobaith yw y bydd y tenantiaid yn mwynhau byw ar eu stad newydd am flynyddoedd i ddod, ac y byddant yn cymryd pob cyfle i gyfrannu at weithgareddau’r gymuned.

Dywedodd deilydd y portffolio Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Cynghorydd Aled Morris Jones:

“Dyma enghraifft wych arall o sut y mae Cyngor Sir Ynys Môn yn gweithio gyda’i bartneriaid i ddatblygu tai fforddiadwy newydd ar yr Ynys. Rydym yn gweithio’n rhagweithiol i ddatblygu tai fforddiadwy ychwanegol ar draws Ynys Môn, sy’n cynnwys adeiladu’r cartrefi Cyngor newydd cyntaf ers 30 mlynedd, dod ag eiddo gwag hir dymor yn ôl i ddefnydd ac yn ddiweddar diddymu’r Hawl i Brynu ar Ynys Môn.”

Ychwanegodd Phil Danson, Cyfarwyddwr Lleoedd gyda Tai Gogledd Cymru:

“Rydym yn gobeithio y bydd preswylwyr Stad yr Ysgol yn mwynhau byw yn eu cartrefi newydd ac y bydd y gymuned yn ffynnu ac yn tyfu ochr yn ochr â’r goeden newydd a blannwyd heddiw.”

Gweithdai celf am ddim yng Nghonwy i Tenantiaid

Gwahoddir Tenantiaid Tai Gogledd Cymru i gymryd rhan mewn gweithdai celf am ddim sydd i’w cynnal yng Nghonwy.

Bydd y gweithdai dan ofal yr artist Nerys Jones yn seiliedig ar y syniad o greu dyluniad unigryw ar gyfer Darn Arian i Gonwy. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn dewis storïau sydd yn ddiddorol ac o bwys iddynt o archifau Conwy ac yn creu darn arian collage. Bydd hyn yn weithgaredd creadigol llawn hwyl lle bydd hen ffotograffau yn cael eu cymysgu gyda’i gilydd ynghyd â blociau argraffu, darluniau, hen doriadau papur newydd a blociau llythyr.

Yn dibynnu ar faint y diddordeb, bydd y gweithdai yn cael eu cynnal yn ystod mis Mai. I gofrestru eich diddordeb neu am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Iwan Evans ar [email protected] neu 01492 572727.

Pwy yw eich Dewi Sant chi? Enwebwch nhw yn ein cystadleuaeth Dydd Gwyl Dewi

I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi rydym yn lansio cystadleuaeth i ddod o hyd i Sant Tai Gogledd Cymru!

Ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi…

• Eich helpu chi neu bobl eraill drwy gydol y flwyddyn

• Helpu neu wedi gwneud gwahaniaeth yn eu cymuned

• Wedi gwneud rhywbeth arbennig sydd wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl

• Lansio menter gymunedol

• Helpu codi arian ar gyfer elusen

Enwebwch nhw a chael cyfle i ENNILL hamper anhygoel llawn o nwyddau Cymreig!

Gall y ‘Sant’ fod o unrhyw oedran yn ddyn neu’n ddynes! Y dyddiad cau yw dydd Iau 25 Ionawr. Rhaid i’r person a enwebir fod yn Denant gyda Tai Gogledd Cymru.

Mae enwebu yn hawdd…

Ar-lein https://www.surveymonkey.co.uk/r/SantTGC

Mewn neges destun

Gallwch anfon eich enwebiad mewn neges destun drwy decstio SANTTGC at 07538254254 gydag enw a chyfeiriad y person a’r rheswm dros enwebu.

Drwy’r Post neu unrhyw un o’n swyddfeydd

Cwblhewch a dychwelwch slip enwebu (ar gael yn fuan) i Tai Gogledd Cymru, Plas Blodwel, Broad Street, Cyffordd Llandudno. LL31 9HL neu galwch heibio unrhyw un o’n swyddfeydd.

Lawr lwythwch y poster yma!