Nain yn nodi 35 mlynedd gyda’r Gorlan wrth i’r cynllun llety gwarchod ddathlu pen-blwydd arbennig

Mae Nain o Fangor wedi canmol y cynllun llety gwarchod lle mae hi wedi magu ei theulu, wrth i’r Gorlan ddathlu pen-blwydd arbennig.

Glenys Rowlands oedd y person cyntaf i symud i mewn i ddatblygiad Y Gorlan ym Mangor ar ôl cymryd swydd fel warden byw i mewn, gan symud i’w chartref yn 1987 gyda’i gŵr a’i thri o blant, a oedd yn saith, tair a dwy oed ar y pryd.

Erbyn hyn mae Glenys yn mwynhau croesawu ei hwyrion i’r Gorlan ac yn dweud bod y datblygiad wedi cael effaith aruthrol ar fywydau cannoedd o breswylwyr dros ei chyfnod yno.

Mae Y Gorlan wedi ei leoli yng nghanol Bangor ac yn cael ei redeg gan Tai Gogledd Cymru.

Mae’n gweld preswylwyr yn cynnal bywyd cymdeithasol gweithgar tra’n mwynhau holl fanteision byw mewn cynllun llety gwarchod sy’n galluogi pobl i gadw eu hannibyniaeth.

Meddai Glenys:

“Ein nod yw creu naws gymunedol ac annibyniaeth i breswylwyr am gymaint o amser â phosibl tra’n cynnig cefnogaeth lle bo angen.

“Gall preswylwyr deimlo’n ddiogel gan wybod bod cymorth bob amser wrth law mewn argyfwng.

“Dros y blynyddoedd, mae’r bobl sy’n byw yma wedi dod yn debyg i deulu estynedig i mi, maen nhw wedi gwylio fy mhlant yn tyfu i fyny ac mae hyn yn rhywbeth na fyddwn i wedi ei newid am y byd.”

Mae tenantiaid yn mwynhau tripiau dydd gyda’i gilydd yn rheolaidd ac mae’r landlord wedi cynnal sesiynau gwirfoddoli i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor sy’n dod draw i wneud te a chynnal gweithgareddau i’r preswylwyr.

Mae’r cynllun yn cynnig 31 o fflatiau hunangynhwysol hawdd eu rheoli ar gyfer pobl dros 60 oed ac yn rhoi’r opsiwn i deuluoedd sy’n ymweld ddefnyddio ystafell westeion am dâl bychan.

Mae bywyd yn Y Gorlan wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd ac mae bellach yn gartref i gymysgedd o denantiaid ag anghenion gwahanol. Cyn ei swydd fel warden byw i mewn, hyfforddodd Glenys i fod yn nyrs, ac mae’r sgiliau hynny wedi bod o ddefnydd iddi pan fo preswylwyr wedi bod yn sâl.

Ychwanegodd Glenys:

“Mae pwyslais yn Y Gorlan ar dreulio amser gyda phobl wyneb yn wyneb fel ffordd o helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd, yn enwedig ar ôl y pandemig. Mae gan y llety ystafell gyffredin i breswylwyr gymysgu â’i gilydd ac mae boreau coffi yn cael ei gynnal yn rheolaidd bob pythefnos, gan gynnwys rhai ar gyfer elusen.”

Does dim cynlluniau gan Glenys i roi’r gorau i’w gwaith yn Y Gorlan. Mae hi wedi dod yn rhan ganolog o fywyd y llety gwarchod ac wedi cynnig wyneb cyfeillgar i breswylwyr sydd angen cefnogaeth.

Meddai Eirlys Parry, Pennaeth pobl hŷn:

“Dyma ddathliad gwych i’r Gorlan. Rydym yn hynod o lwcus i gael Glenys yn rheoli’r cynllun dros y blynyddoedd, mae hi’n gaffaeliad mawr i Tai Gogledd Cymru ac rydym mor ddiolchgar am ei holl waith caled. Diolch o waelod ein calonnau Glenys.

Pen-blwydd Hapus i’r Gorlan, gobeithio eich bod wedi mwynhau eich dathliad; pob dymuniad da ar gyfer y 35 mlynedd nesaf!”

Preswylydd Cwrt Taverners yn ymgymryd â her cerdded

Fe wnaeth preswylwyr Taverners Court fwynhau taith gerdded prynhawn yr wythnos diwethaf o Taverners Court hyd at ben draw Pier Llandudno.

Dathlodd preswyliwr Cwrt Taverners Val Conway, sydd yn y crys-t melyn yn y llun, ei phen-blwydd yn 78 oed ym mis Mehefin ac mae wedi ymrwymo i gerdded 78,000 o gamau mewn wythnos i godi arian i elusen SHINE. Mae SHINE yn darparu cyngor a chefnogaeth arbenigol ar gyfer Spina Bifida a Hydrocephalus.

Ymunodd y preswylwyr a Rheolwr y cynllun, Susan Gough, â Val ar ddiwrnod cyntaf ei hymdrech codi arian a chafodd pawb brynhawn hyfryd iawn.

Dyfarnwyd y BEM i Val am ei gwasanaethau i elusen yn rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd. Mae hi’n ddiflino yn codi arian ar gyfer amrywiaeth o elusennau ac mae’n gwirfoddoli bob wythnos ar gyfer Clwb PHAB Llandudno (i bobl anabl yn gorfforol a phobl nad ydynt yn anabl), er bod y pandemig wedi gorfodi’r clwb i ohirio’r cyfarfodydd wythnosol dros dro.

Pob lwc i Val ar eich her!

Gwobrwyo cymdogion da

Mae Tai Gogledd Cymru wedi dathlu ysbryd cymunedol gyda’u ‘Gwobr Cymdogion Da’ am y drydedd flwyddyn yn olynol. Mae’r gystadleuaeth boblogaidd yn talu teyrnged i denantiaid Tai Gogledd Cymru sydd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau eu cymdogion.

Eglurodd Iwan Evans, y Cydlynydd Cyfranogiad Tenantiaid:

“Roedd y nifer o enwebiadau yn uwch nag erioed wrth i gymdogion ddod at ei gilydd yn y frwydr yn erbyn Coronafeirws, gan helpu ei gilydd mewn cyfnod o angen. 

Roedd ein cynlluniau Pobl Hŷn yn ei chael hi’n arbennig o anodd yn dilyn y cyfyngiadau a orfodwyd arnom eleni, ac mi wnaethon nhw helpu ei gilydd yn fawr iawn yn ystod yr amser hwn. Felly nid yw’n syndod bod y ddau enillydd yn dod o’n cynlluniau Gofal Ychwanegol. 

Rydym yn falch o ddatgelu mai enillwyr eleni yw Geoff Uttley o Lys y Coed a Jean Hayward o Hafod y Parc.”

Mae Geoff yn aelod gweithgar o gymdeithas preswylwyr y cynllun, sydd bob amser yn barod i gynnig help llaw i’w gyd-breswylwyr, o helpu i ailosod cetris inc i siopa am neges. Pan mae hynny’n cael ei ganiatáu, ef hefyd yw’r cyntaf i drefnu gweithgareddau yn y cynlluniau i godi calon. Pan gafodd y cyfyngiadau eu llacio, trefnodd Geoff ddangosiad ffilm gyda phellhau cymdeithasol a roddodd hwb fawr i breswylwyr.

Mae Jean wedi cael ei disgrifio fel ‘gem’, ac mae wedi helpu llawer o breswylwyr Hafod y Parc, gan gynorthwyo gyda’u siopa a’u tasgau cyffredinol, yn ogystal â bod yn brysur iawn gydag ardal yr ardd, gan helpu i’w wneud yn lle braf i’r preswylwyr ymlacio ynddo.

Llongyfarchiadau Geoff a Jean ar ennill y gystadleuaeth hon a diolch yn fawr i chi am fod yn gymdogion mor dda.

Newidiadau i drefniadau Cynlluniau Gofal Ychwanegol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi newidiadau o 1af Mehefin yn llacio rheolau cyfyngiadau symud, gan ganiatáu i aelodau dwy aelwyd ar wahân gwrdd yn yr awyr agored ar unrhyw un adeg cyn belled â’u bod yn aros yn lleol ac yn cynnal pellter cymdeithasol.

Rydym wedi ystyried yn ofalus sut mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar ein Cynlluniau Gofal Ychwanegol. Ein pryder cyntaf bob amser yw diogelwch ein preswylwyr a’n staff ac rydym wedi ystyried yn ofalus sut y gellir gweithredu’r newidiadau hyn yn ymarferol.

  • Bydd ymwelwyr nawr yn cael cyfarfod yn yr awyr agored ar y cynllun; byddant wedi cael canllawiau ychwanegol.
  • Byddwn yn dynodi ardaloedd cymdeithasol ar y cynllun ar gyfer lletya ymwelwyr.
  • Rydym yn gofyn i ymwelwyr gwneud apwyntiadau ymwelwyr gyda’r Rheolwr ymlaen llaw i sicrhau bod gennym ddigon o seddi a mesurau pellter cymdeithasol ar waith bob amser.
  • Rhaid i bobl hefyd barhau i olchi eu dwylo yn drylwyr ac yn aml.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech wneud apwyntiad, cysylltwch â Rheolwr y cynllun.

Pleidleisiwch dros Y Gorlan a gwnewch i’r ardd dyfu!

Mae Y Gorlan, Llety Lloches ym Mangor, wedi cael ei ddewis gan Tesco ar gyfer eu Cynllun Grant ‘Bags of Help’ drwy gydol misoedd Mawrth ac Ebrill 2019.

Bydd y prosiect gyda’r nifer uchaf o bleidleisiau ar draws eich rhanbarth yn derbyn £4,000, gyda’r prosiect yn yr ail safle yn derbyn £2,000, a’r prosiect yn y trydydd safle yn cael £1,000.

Os yn llwyddiannus, bydd yr arian yn helpu Y Gorlan i gwblhau Cam 2 eu gweddnewidiad o’r ardd! Cwblhawyd Cam 1 ym mis Tachwedd 2018, gyda gwaith fel plannu bylbiau ar gyfer y Gwanwyn, adeiladu sedd gariad i’r ardd a nifer o welyau wedi’u llenwi â phlanhigion ffrwythau a pherlysiau.

Cynhaliwyd y gwaith ailwampio mewn partneriaeth â Elfennau Gwyllt, menter gymdeithasol ddielw sy’n ymrwymedig i gael pobl yng ngogledd Cymru allan i’r awyr agored a chysylltu pobl â natur, gwella bywydau, cyfleoedd a dyheadau.

Eglurodd Rowena Maxwell, y Swyddog Tai Pobl Hŷn:

“Mae’r ardd yn edrych yn wych yn dilyn Cam 1, gyda’r cennin pedr, eirlysiau a blodau saffrwm eisoes yn  dechrau ymddangos. Ond rydym am wella’r gwaith caled a wnaed eisoes gan Wild Elements. Byddai’r arian yn ein helpu i wella hygyrchedd yr ardd a darparu man cysgodol i eistedd ac annog cyfleoedd ar gyfer cymdeithasu a gweithgareddau. Rydym hefyd yn gobeithio datblygu sawl ardal synhwyraidd o’r ardd wedi’u llenwi â phlanhigion persawrus a gweadog.”

Dywedodd Tom Cockbill, Cyfarwyddwr Elfennau Gwyllt,

“Mae’r tîm Elfennau Gwyllt yn edrych ymlaen at gam 2 gerddi Y Gorlan. Mi wnaeth y bobl a oedd yn dilyn cymwysterau yn ystod cam 1 fwynhau’r prosiect yn fawr, ac ar ddiwedd cam 1 mi ddywedodd un gŵr a oedd yn byw yn Y Gorlan bod y prosiect wedi rhoi ‘rhywbeth iddo fyw drosto’. Rydym wrth ein boddau efo ymateb fel hyn gan ei fod yn dweud wrthym ein bod wedi gwneud gwahaniaeth.”

“Bydd ymestyn y gerddi ymhellach yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau preswylwyr Y Gorlan, gan roi llecyn gwyrdd, hyfryd yng nghanol y dref iddynt dreulio eu hamser, yn garddio a chymdeithasu efo’i gilydd.”

“Mae gwirfoddolwyr Elfennau Gwyllt hefyd ar eu hennill o’r prosiect, gan ei fod yn eu galluogi i ennill sgiliau newydd, cynyddu hyder a hunan-barch a gwella eu cyflogadwyedd.”

Felly a fyddech cystal â helpu Y Gorlan a bwrw ei’ch pleidlais drwy gydol misoedd Mawrth ac Ebrill! I bleidleisio, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cymryd y tocyn a gewch gyda phob trafodyn a’i blannu yn y blychau arbennig ger y fynedfa.

Lansio Protocol Herbert yng Ngogledd Cymru

Mae Protocol Herbert wedi ei lansio yng Gnogledd Cymru fel menter newydd ar y cyd rhwng cymdeithas Alzheimer, Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru.

Mae’r protocol wedi ei enwi ar ôl George HERBERT, cyn filwr glaniadau Normandi oedd yn ddioddef o gyflwr dementia. Bu farw George tra “ar goll” ar ei ffordd yn ôl i gartref ei blentyndod.

Nôd y protocol Herbert yw i leihau amser ymateb yr Heddlu pan maen nhw yn derbyn adroddiad am berson bregus gyda chyflwr meddygol fel dementia wedi mynd goll, a methu dychwelyd adref yn annibynnol a diogel. Ffurflen wybodaeth yw’r protocol sy’n cael ei chwblhau gyda’r unigolyn a’i chadw gan y sefydliad sydd weid cblhau’r ffurflewn er mwyn sicrhau ei bod yn cael ei diweddaru.

Mae’r ffurflen yn gofyn am wybodaeth bersonol fel, manylion personol, perthynas agosaf, gwybodaeth feddygol, gallu teithio, swyddi, diddordebau (gorffennol a’r presennol), mannau allent ymweld â nhw, srferion wythnosol, llefydd mae’r unigolyn wedi cael ei ddarganfod yn flaenorol, a llun diweddar.

Mae’r protocol yn sicrhau bod yr holl wybodaeth yma wedi’i gasglu o flaen llaw, fel ei fod o help i’r Heddlu i ymateb yn gyflymach ac i ddod o hyd i berson sydd ar goll. Mae ystadegau’n profi y cynharaf mae adroddiad o berson ar goll yn cael ei wneud i’r heddlu, a’r cynharaf mae’r chwiliad yn cychwyn yr uwch yw’r siawns o’u canfod yn fyw ac iach.

Galwch lenwi ffurflen protocol Herbert ar-lein neu’n ysgrifenedig, a bydd gofyn i chi ei chadw a’i diweddaru. Bydd yr heddlu ddim ond yn gofyn am y ffurflen os yw’r person yn mynd ar goll. Bydd modd ebostio copi electronig i ystafell reoli yr Heddlu neu rhoi copi ysgrifenedig i’r swyddog cyntaf i ymateb.

Gallwch lawrlwytho gwybodaeth bellach a chopi o’r ffurflen wybodaeth trwy ddilyn y ddolen isod:

https://www.north-wales.police.uk/advice-and-support/stay-safe/herbert-protocol?lang=cy-gb

Llwyddiant Boreau Coffi Macmillan

Roedd cacennau’n hedfan oddi ar y silffoedd fis Medi yma mewn Boreau Coffi Macmillan ar draws ein cynlluniau preswylwyr.

Mae ein cynlluniau Pobl Hŷn yn cymryd rhan yn yr her bob blwyddyn, gan fwynhau cacennau blasus dros baned o goffi. Eleni mi wnaethon nhw lwyddo i godi cyfanswm anhygoel o £1,497.50!

Cododd y Metropole ym Mae Colwyn hefyd £125.00 gwych trwy gynnal bore coffi yn eu fflatiau.

Bore Coffi Mwyaf y Byd yw digwyddiad codi arian mwyaf Macmillan i bobl sy’n wynebu canser. Mae Macmillan yn gofyn i bobl ledled y Deyrnas Unedig gynnal eu Boreau Coffi eu hunain ac mae’r rhoddion ar y diwrnod yn mynd i Macmillan.

Da iawn i bawb a gymerodd ran a chodi’r holl arian.

Dyfarnu gwobr lles i Tai Gogledd Cymru

Ar ddydd Iau, Mehefin 15fed fe ddyfarnwyd ‘Gwobr Llysgennad Sefydliad Lles Conwy’ i Tai Gogledd Cymru mewn seremoni Wobrwyo CGGC.

Esboniodd Gemma Struthers, Swyddog Lles Cymunedol gyda Thîm Lles Cymunedol Conwy y rhesymau dros ddewis Tai Gogledd Cymru i dderbyn y wobr:

“Roeddem am ddiolch i TGC am fod mor gefnogol i raglen Lles Conwy. Drwy helpu i ledaenu’r gair am y rhaglen Lles a chynnal amrywiaeth o weithgareddau fel rhan o gynlluniau Pobl Hŷn TGC; rydym wedi gallu casglu rhai astudiaethau achos gwych am effaith gadarnhaol y rhaglen lles.”

“Diolch yn fawr i chi am eich cefnogaeth barhaus ac am hyrwyddo gweithgareddau Lles Cymunedol a’r 5 Llwybr at Les, mae eich help wedi bod yn amhrisiadwy i lwyddiant ein rhaglen.”

Caiff gweithgareddau Lles Cymunedol eu cynnal yng Nghynlluniau Gofal Ychwanegol Hafod y Parc a Llys y Coed, gyda digwyddiadau fel gweithdai Ukulele, cyflwyniadau hanesyddol a chrefft a sgyrsiau tymhorol.

Mi wnaeth Shelley Hughes, y Rheolwr  Cynllun yng nghynllun Gofal Ychwanegol Hafod y Parc, Abergele, gasglu’r wobr ar ran Tai Gogledd Cymru yn y seremoni wobrwyo.

Glenys yn dathlu 30 mlynedd yn Y Gorlan

Ar ddydd Mawrth 28 Mawrth, 2017, dathlodd Glenys Rowlands 30 mlynedd fel Warden yn Y Gorlan, Bangor.

Yn ystod ei hamser yn Y Gorlan, cynllun tai gwarchod ym Mangor, mae Glenys wedi helpu a chefnogi nifer sylweddol o breswylwyr yn ystod ei chyfnod fel Warden.

Mae Glenys hefyd wedi galw’r Gorlan yn gartref am y 30 mlynedd diwethaf, a hefyd wedi magu ei phlant yno. Eglurodd Glenys Rowlands:

“Mae byw yn Y Gorlan fel cael un teulu mawr estynedig. Roedd y plant yn fach wrth i ni symud i mewn i’r Gorlan, erbyn hyn maen nhw i gyd wedi tyfu i fyny a chael plant eu hunain!”

“Wn i ddim i ble mae’r amser wedi mynd. Diolch i’r holl breswylwyr a staff Tai Gogledd Cymru am eich holl help, cefnogaeth a charedigrwydd dros y blynyddoedd.”

Dywedodd Jude Horsnell, Cyfarwyddwr Cymunedau yn Tai Gogledd Cymru:

“Rydym yn ffodus iawn i gael Glenys sy’n gwneud gwaith mor wych. Nid dim ond y preswylwyr y mae hi wedi eu cefnogi, ond mae teuluoedd hefyd wedi elwa o’i holl waith caled a’i gofal, gan dawelu eu pryderon am aelodau o’u teuluoedd.”

“Diolch Glenys am eich holl waith caled a phopeth rydych wedi ei wneud i bawb ac am barhau i wneud gwaith mor wych.”

Cynllun Tai Gwarchod wedi ei leoli ym Mangor yw Y Gorlan. Mae mewn lleoliad canolog ar y Stryd Fawr ac yn cynnig 31 o fflatiau hunangynhwysol un ystafell wely hawdd i’w rheoli, ar gael i’w rhentu ar gyfer rhai dros 60 oed Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am Y Gorlan yma.

Pen-blwydd Hapus Mr Jones yn 104

Dathlodd Mr Jones, preswyliwr yn Llys y Coed, ei ben-blwydd yn 104 ar Ddydd Mercher 22 o Fawrth.

Wnaeth Rheolwr y Cynllun Cheryl Haggas a’i gyd-breswylwyr ei helpu i ddathlu mewn steil mewn te parti pen-blwydd arbennig yn y cynllun Gofal Ychwanegol yn Llanfairfechan.

Canodd Ysgol Babanod Llanfairfechan pen-blwydd hapus i Mr Jones cyn mwynhau te prynhawn a chacen pen-blwydd arbennig.

Pen-blwydd Hapus Mr Jones – dyma i lawer mwy i ddod!

Am fwy o wybodaeth am Llys y Coed a Gofal Ychwanegol ewch i’r tudalen yma.