Arolwg Cyfranogiad Preswylwyr – Cyfle i ennill taleb siopio werth £20!

Rydym yn datblygu Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr newydd a byddem yn gwerthfawrogi eich mewnbwn.

Cwblhewch yr arolwg hwn a chael eich cynnwys mewn cystadleuaeth gyda chyfle i ennill gwerth £20 o dalebau’r stryd fawr!

 

Cwblhewch yr arolwg

 

Beth yw Cyfranogiad Preswylwyr?

Mae cyfranogiad preswylwyr yn digwydd pan fydd landlordiaid cymdeithasol yn rhannu gwybodaeth, syniadau a gwneud penderfyniadau gyda phreswylwyr gan weithio gyda nhw i gytuno ar y canlynol:

  • Sut y dylid rheoli eu cartrefi a’u hamgylchedd lleol
  • Pa wasanaethau a gwelliannau gwasanaeth sydd eu hangen
  • Blaenoriaethau
  • Sut y gallwn ni weithio gyda’n gilydd i gyflawni’r rhain

Oes gennych chi Gymydog Da rydych chi am ei wobrwyo?

Ydych chi’n adnabod rhywun sydd wir yn gwneud gwahaniaeth i ble rydych chi’n byw? Ydyn nhw bob amser yn cadw golwg ar eu cymdogion ac yn barod i roi help llaw pan fydd angen?

Fel ein tenant, gallwch enwebu tenant arall Tai Gogledd Cymru yng Ngwobrau Cymydog Da am gyfle i ENNILL hamper Nadolig!

Os hoffech enwebu cymydog, cysylltwch ag Iwan:

[email protected]
01492 563 232

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 8 Rhagfyr 2023.

Cronfa Gymunedol yn helpu cricedwyr ifanc i gael dechrau da

Yn ddiweddar, mi wnaethon ni gyfrannu arian i Criced Cymru trwy ein Cronfa Gymunedol i gefnogi sesiynau criced i 30 o blant yng Nghonwy dros wyliau hanner tymor.

Defnyddiwyd yr arian a roddwyd i ddarparu medalau i blant cynradd ifanc o ardaloedd difreintiedig yng Nghonwy wnaeth gymryd rhan mewn gweithgareddau criced hanner tymor yn y cymunedau o amgylch tai TGC.

Mae gweithgareddau o’r fath yn helpu i gysylltu cymunedau a gwella lles plant trwy eu hysbrydoli i ddarganfod angerdd am griced.

Oes gennych chi brosiect cymunedol yr hoffech chi wneud cais i gael arian ar ei gyfer? Gallwch ddarganfod sut i wneud hynny yma https://www.nwha.org.uk/cy/cyfleoedd/cronfa-gymunedol-tai-gogledd-cymru/

Strategaeth Cyfranogi Tenantiaid newydd ar gael nawr

Mae’n bwysig i ni fod tenantiaid wrth galon TGC, a’ch bod chi’n rhan o’r penderfyniadau sy’n effeithio arnoch chi.

Rydym wedi llunio’r Strategaeth Cyfranogi Tenantiaid newydd hon, sy’n dweud wrthych beth yr ydym yn bwriadu ei wneud i gael tenantiaid i chwarae mwy o ran.

Darllenwch y Strategaeth yma www.nwha.org.uk/cy/strategaeth-cyfranogiad-tenantiaid

Diolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad a helpodd i lunio’r Strategaeth hon.

Rydym eich angen i fod yn bencampwr llais y tenantiaid

Mae gennym gyfle cyffrous i ymuno â’n Panel Tenantiaid a Chymunedau!  Gallech fod yn denant presennol i Tai Gogledd Cymru, neu’n aelod o’n Cymuned.

Budd

  • Cael dylanwad go iawn ar y gwasanaethau rydym yn eu darparu i denantiaid
  • Symud newid positif ymlaen
  • Dysgu sgiliau trosglwyddadwy newydd
  • Cyfarfod pobl newydd

“Mae wedi bod yn llawer o hwyl, ac yn ddiddorol iawn, i mi fod yn rhan o wneud penderfyniadau, a chael dylanwad dros lawer o bethau sy’n effeithio arnaf i’n uniongyrchol, yn y cartref lle rwy’n byw.

Peidiwch oedi i gymryd rhan, mae o werth chweil go iawn!”

Aelod sy’n denant – Carol 

Byddwn yn eich cefnogi

Ddim yn siŵr a oes gennych chi’r sgiliau iawn? Peidiwch â phoeni, byddwn yn eich cefnogi! Byddwch yn derbyn hyfforddiant a mentora i’ch helpu i dyfu eich set sgiliau.

Ddim yn siŵr a yw hyn ar eich cyfer chi?

Os nad ydych yn siŵr bod hyn ar eich cyfer chi, ond yn dal i fod eisiau dweud eich dweud, mae gennym gyfleoedd eraill i chi leisio eich barn.

I wybod mwy

Os hoffech wybod mwy am y rôl, neu am arwyddo i ymuno, cysylltwch ag Iwan ar [email protected] neu 01492 563232.

Ymunwch â’n Fforwm Tenantiaid newydd a dweud eich dweud

Ymunwch â’n Fforwm Tenantiaid newydd a dweud eich dweud ar sut mae Tai Gogledd Cymru yn cael ei redeg!

Bydd y Fforwm yn cyfarfod yn rheolaidd efo staff Tai Gogledd Cymru, ac yn rhoi cyfle i chi gael gwybodaeth, dylanwadu ar ein penderfyniadau, a chryfhau ein gwasanaethau.

Ein bwriad yw neilltuo pob cyfarfod i bwnc penodol, gan ganiatáu i aelodau ddysgu mwy am Tai Gogledd Cymru, a rhoi mewnbwn ac adborth i wella’r gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu. Bydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal mewn awyrgylch cyfeillgar a hamddenol.

Oherwydd y cyfryngiadau Covid 19 rydym yn edrych i gynnal y cyfarfodydd hyn trwy sgwrs fideo. Rhoddir cefnogaeth lawn i denantiaid sydd â diddordeb mewn ymuno â’r cyfarfodydd hyn.

I ymuno, cofrestru diddordeb neu ddysgu mwy am y Fforwm Tenantiaid, cysylltwch ag Iwan Evans ar 01492 563232 neu [email protected]

Priosect celf newydd yn Tre Cwm, Llandudno

Fe’ch gwahoddir i ymuno â phrosiect celf ‘Mae’r wal yn’ am wal yn Nhre Cwm gyda llawer o weithdai a digwyddiadau am ddim:

  • Dydd Llun 24 Mehefin 4–6.30pm
  • Dydd Mercher 3 Gorffennaf 4–6.30pm
  • Dydd Sadwrn 6 Gorffennaf 10am – 4pm
  • Dydd Llun 15 Gorffennaf 4–6.30pm
  • Dydd Sadwrn 20 Gorffennaf 10am – 4pm
  • Dydd Iau 25 Gorffennaf 10am – 4pm

Croeso i bawb – Dilynwch yr arwyddion o amgylch Tre Cwm i ddod o hyd i ni!

Darperir byrbrydau a lluniaeth yn y digwyddiadau.

Nod y prosiect yw i ni greu gwaith celf ar gyfer y wal ger y cylchfan ac yr A456. Sut y gall gynrychioli elfennau unigryw Tre Cwm? Beth yw’r straeon fydd yn dod â’r wal yn fyw ac yn gwahodd pobl i ddysgu am ei gilydd? Sut ydym ni’n dogfennu’r prosiect yn ddigidol? Dyma rai o gwestiynau i ddechrau.

Kristin Luke yw’r artist preswyl ar gyfer Tre Cwm. Yn wreiddiol o Los Angeles, symudodd i Ogledd Cymru yn 2017. Mae hi’n gwneud gwaith cerflunio, dylunio digidol a ffilm, am addysg, pensaernïaeth, ac iwtopias. Mae’n debyg y byddwch yn ei gweld yn eithaf aml o amgylch yr ystâd!

Mae hwn yn brosiect cyffrous newydd, sydd yn bendant angen grwˆp cyffrous o bobl i wneud iddo ddigwydd!

Dilynwch y priosect ar Facebook, Twitter a Instagram @TreCwm

#maerwalyn ac ychwanegwch #ansoddair

Enillwyr Gwobrau Cymydog Da wedi cael eu datgelu

Gall cael cymydog da wneud byd o wahaniaeth i’r gymuned ac mae hyn yn rhywbeth rydym yn hoff o’i wobrwyo. Mae ein gwobrau yn talu teyrnged i denantiaid Tai Gogledd Cymru sydd wedi gwneud gwahaniaeth arwyddocaol i fywydau eu cymdogion neu i’r gymuned leol.

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi enillwyr Gwobrau Cymdogion Da eleni:

  • Anne Parry, Plas y Berth, Llanfairfechan
  • Valarie Conway, Taverners Court, Llandudno
  • Patricia Cooke, Llys y Coed, Llanfairfechan
  • Gayle Craven, Cilfan, Conwy
  • Ian Ravenscroft, Metropole, Bae Colwyn
  • Rosalind Jones, Cae Garnedd, Bangor

Mae’r enillwyr wedi cael £50 o dalebau siopa fel arwydd o ddiolch am fod yn gymdogion mor dda a mynd yr ail filltir.

Dywedodd Iwan Evans, Cydlynydd Cyfranogiad Tenantiaid

“Mae’r gwobrau yma’n rhoi cyfle i ni gydnabod a thalu teyrnged i’n tenantiaid sydd yn mynd yr ail filltir ar gyfer eu cymdogion. Hoffem longyfarch pawb gafodd eu henwebu am eu gweithredoedd o garedigrwydd.”

Diolch i bawb wnaeth gymryd yr amser i enwebu eu cymdogion.

 

Datgelu enwau enillwyr cystadleuaeth ffotograffiaeth

Cynhaliwyd cystadleuaeth Ffotograffiaeth Tai Gogledd Cymru am yr ail flynedd yn olynol ym mis Tachwedd eleni.  Y thema eleni oedd ‘Dal sylw’ ac ysbrydoliaeth a wnaeth ddal eich llygad unrhyw le – o lan y môr, anifeiliaid a gerddi ar draws gogledd Cymru.

Mae’r beirniaid wedi dod at ei gilydd ac wedi trafod, a gallwn ddatgelu enwau’r enillwyr yn awr.

1. Mitzi, Bae Colwyn

2. Anne Clegg, Hafod y Parc, Abergele

Ac yn gydradd 3ydd roedd:

3. Rachael Roberts, Rhiw Bank Terrace, Bae Colwy

3. Debbie Scotson, Maes Derw, Cyffordd Llandudno

Llongyfarchiadau mawr i’r enillwyr!  A diolch i bawb a gystadlodd; cawsom ffotograffau gwych a chafodd y beirniaid waith caled yn dewis yr enillwyr!

Eleni fe wnaethom gynnal cystadleuaeth garddio a ffotograffiaeth.  Os oes gennych chi unrhyw syniadau ar unrhyw gystadlaethau neu fentrau yr hoffech weld TGC yn eu cynnal, cysylltwch ag Iwan ar 01492 563232 neu [email protected]