Ymgyrchoedd

Mae tai yn bwnc sy’n berthnasol i bawb. Dyma cwpwl o ymgyrchoedd sy’n bodoli i amddiffyn hawliau pobl i gartref gweddus.

 

Cartrefi i Gymru GwefanLogo_ENG-Colour

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru (CCC) wedi dechrau ymgyrch o’r enw ‘Cartrefi i Gymru’, ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o faterion tai yng Nghymru a sicrhau bod tai yn fater gwleidyddol allweddol yn ystod eleni sy’n flwyddyn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cafwyd nifer o weithgareddau a drefnir yn y cyfnod hyd at rali yng Nghaerdydd ar 4 Mawrth i godi ymwybyddiaeth o’r achos.

 

Gadewch i ni barhau i Gefnogi Pobl

Sefydlwyd yr Ymgyrch Gadewch i ni barhau i Gefnogi Pobl yng Nghymru i godi ymwybyddiaeth am y rhaglen Cefnogi Pobl, y bobl sy’n cael budd, natur ataliol y rhaglen a sut y mae’r arian yn cael ei wario.

Lets_keep_on_SP

Nod yr ymgyrch a redir gan Cartrefi Cymunedol Cymru a Chymorth Cymru, oedd sicrhau buddsoddiad parhaus yn y Grant Rhaglen Cefnogi Pobl a sicrhau bod pobl sy’n cael eu gwthio i’r cyrion ac mewn perygl yn parhau i gael eu diogelu.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn ei chyllideb ddrafft ar ddydd Mawrth 8 Rhagfyr 2015 y bydd cyllid Cefnogi Pobl (CP) yn cael ei ddiogelu ar gyfer 2015/16, yn nhermau arian parod, ar yr un lefel ag a chyflwyno yn 2014/15. Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi llwyddiant i’r ymgyrch.