Taith i lawr lôn atgofion i cyn-breswylydd cartref plant 90 oed
Mae dynes 90 oed o Ogledd Cymru wedi ailedrych ar y safle lle treuliodd y rhan fwyaf o’i phlentyndod yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a thu hwnt.
Ymwelodd Mair Owen â Plas Blodwel yng Nghyffordd Llandudno, a oedd ar un adeg yn gartref i blant lle’r oedd hi’n byw gyda 70 o blant eraill. Mae bellach yn gartref i Tai Gogledd Cymru.
Agorodd Tai Gogledd Cymru ei ddrysau ddydd Mercher i’r fenyw leol er mwyn iddi allu cymryd cam yn ôl mewn amser a rhannu ei hatgofion gyda’i theulu a’r staff.
Symudodd Mair i Plas Blodwel yn y 1940au yn 6 oed ar ôl cychwyn bywyd yng nghartref plant yng Nghriccieth cyn cael ei symud i Ynys Môn. Yna cafodd ei symud oddi yno yn ystod blynyddoedd y rhyfel i Gyffordd Llandudno, gan fod ofnau y byddai’r pontydd ar draws Culfor Menai yn cael ei bomio.
Roedd Mair yng nghwmni ei gŵr o 68 mlynedd, Idris Owen a’u merch, Mandy ar ei thaith i lawr lôn atgofion ar ddydd Mercher y 30ain o Hydref.
Meddai Mair:
“Fe ddaeth ymweld ag atgofion hapus yn ôl, rwy’n dal i weld un o fy ffrindiau o’n hamser yma, bob wythnos.
“Roedd yn amserhapus, a chefais fy nhrin yn garedig.
“Gadewais yma, fel y gwnaethom i gyd yn 15 oed ac es i mewn i wasanaeth yn gweithio i deulu gerllaw. Ar fy niwrnod i ffwrdd, ar ddydd Mercher byddwn yn dod yma gyda fy ffrind gorau Maggie ac yn ymweld â’r plant eraill. ”
Dywedodd merch Mair, Mandy Owen:
“Nid oes dianc oddi wrtho fod gan Mam fagwraeth galed heb gael ei huned deuluol ei hun, ond mae hi wedi coleddu atgofion o fod yn un o 70 o blant a oedd i gyd yn sownd gyda’i gilydd. Daeth ei ffrindiau yn chwiorydd iddi yn y cartref.
“Nid oes gennym unrhyw amheuaeth bod Mam wedi ffeindio’r ymweliad yn emosiynol, ond roedd hi wir wedi mwynhau ymweld â chartref ei phlentyndod.”
Daeth y syniad ar gyfer yr ymweliad allan o sgwrs gyda dau aelod o staff Tai Gogledd Cymru sy’n gymdogion i Mair.
Croesawyd Mair gan Claire Shiland, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Tai Gogledd Cymru:
“Roedd yn anrhydedd inni groesawu teulu Owen yma.
“Roedd yn hynod ddiddorol dangos Mair o amgylch Plas Blodwel, nododd Mair ble roedd ei gwely yn ystafell gysgu’r merched, sydd bellach yn un o’n swyddfeydd i fyny’r grisiau.
“Ein hystafell fwrdd, lle roedden ni i gyd yn eistedd am baned, oedd ystafell chwarae’r plant. Roedd Mair yn cofio canu caneuon o amgylch y piano a cheffyl siglo mawr.
“Rydyn ni’n gobeithio ei bod hi’n falch o glywed am ein gwaith fel darparwr tai cymdeithasol yr holl flynyddoedd yn ddiweddarach ac yn awr yn ein 50 fed flwyddyn.”
Prynwyd y safle yn Broad Street yn wreiddiol ym 1914 ar gyfer cartref plant newydd ond gohiriwyd y prosiect tan ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.
Agorodd cartref y plant ar 1 Mawrth 1926, gyda Mr a Mrs Christmas Evans yn uwch -arolygydd a metron tan 1947. Deallir eu bod wedi diddymu gwisg wreiddiol y Workhouse ac yn benderfynol o wneud i Plas Blodwel deimlo’n debycach i gartref na sefydliad.
Yn ddiweddarach daeth Plas Blodwel yn gartref nyrsio, a gaeodd ym 1992. Darparodd lety dros dro am sawl mis i bobl leol y cafodd eu cartrefi eu difrodi gan lifogydd ar ôl glaw cenllif ym mis Mehefin 1993.
Daeth Plas Blodwel yn bencadlys Cymdeithas Tai Gogledd Cymru ym 1994.