Polisi Cwcis

Bydd y rhan fwyaf o wefannau y byddwch yn ymweld â nhw yn defnyddio cwcis er mwyn gwella eich profiad fel defnyddiwr drwy alluogi’r wefan honno i’ch ‘cofio’. Os nad yw gwefan yn defnyddio cwcis, bydd yn tybio eich bod yn ymwelydd newydd bob tro y byddwch yn symud i dudalen newydd ar y wefan.

1. Beth yw cwcis?

Ffeil fechan o lythrennau a rhifau yw cwci sy’n cael ei lawrlwytho i’ch cyfrifiadur wrth i chi ymweld â gwefan. Bydd y cwcis hyn hefyd yn cael eu galw’n cwcis porwr neu cwcis tracio. Mae cwcis yn ffeiliau testun bychain sy’n aml wedi eu hamgryptio, ac wedi eu lleoli mewn cyfarwyddiaduron porwyr.  Bydd datblygwyr gwefannau’n defnyddio cwcis i gynorthwyo defnyddwyr eu gwefannau i symud o gwmpas eu gwefannau’n effeithlon ac i wneud rhai pethau. Gan mai gwaith craidd cwcis yw gwella/galluogi defnyddio’r wefan yn rhwydd neu brosesau’r wefan, os bydd cwcis yn cael eu troi i ffwrdd bydd hynny’n atal y defnyddwyr rhag defnyddio rhai gwefannau.

Bydd cwcis yn cael eu defnyddio ar nifer o wefannau ac maen nhw’n gallu gwneud nifer o bethau e.e. cofio beth oeddech wedi ei ddewis, cofnodi beth fyddwch wedi ei roi yn eich basged siopa, a chyfrif faint o bobl sy’n defnyddio’r wefan.

Mwy o wybodaeth am cwcis porwr

Bydd cwcis yn cael eu creu pan fydd porwr y defnyddiwr yn llwytho gwefan benodol. Wedyn bydd y wefan yn gyrru gwybodaeth yn ôl i’r porwr, sy’n creu ffeil testun. Bob tro bydd y defnyddiwr yn mynd yn ôl i’r wefan honno, bydd y porwr yn canfod y ffeil hon eto a’i gyrru i weinydd y wefan. Bydd cwcis cyfrifiadur yn cael eu creu, nid yn unig gan y wefan mae’r defnyddiwr yn pori ynddi, ond hefyd gan wefannau eraill sy’n rhedeg hysbysebion, widgets neu elfennau eraill o’r dudaleywn sy’n cael ei llwytho. Bydd y cwcis hyn yn rheoli sut mae’r hysbysebion yn ymddangos neu sut mae’r widgets ac elfennau eraill yn gweithredu ar y dudalen. I gael mwy o wybodaeth am cwcis ewch i: www.allaboutcookies.org

 Sut bydd cwcis yn cael eu rheoli

Mae’r rheolau ar cwcis yn y Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebiadau Electronig (PECR). Mae’r rheoliadau hefyd yn rheoli technolegau tebyg ar gyfer storio gwybodaeth, e.e.  cwcis Flash.

Cafodd Rheoliadau PECR eu hadolygu yn 2011, a Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth  (ICO) sy’n gyfrifol am sicrhau bod pawb yn cadw at y rheolau hyn.

2. Pa cwcis sy’n cael eu defnyddio ar ein gwefan ni, a pham

Ffynhonnell Google Analytics

Enw’r cwci _gid, _gat, _ga

Pwrpas Bydd y cwcis hyn yn cael eu defnyddio i gasglu gwybodaeth am sut mae ymwelwyr yn defnyddio ein gwefan ni. Byddwn ni’n defnyddio’r wybodaeth i lunio adroddiadau ac er mwyn ein cynorthwyo i wella ein gwefan. Bydd y cwcis yn casglu gwybodaeth mewn ffurf ddienw, yn cynnwys nifer yr ymwelwyr â’r wefan, o le mae ymwelwyr wedi dod i’r wefan a pha dudalennau maen nhw wedi ymweld â hwy.

Sylwadau: Cliciwch yma i gael trosolwg o breifatrwydd yn Google

 

Cwci System Rheoli Cwcis

Enw’r cwci exp_anon, exp_expiration, exp_last_activity, exp_last_visit, exp_sessionid, exp_tracker, exp_uniqueid, exp_userhash

Pwrpas Bydd y cwcis hyn yn cael eu gosod gan ein system rheoli cynnwys wrth i ddefnyddwyr gyrraedd ein gwefan.

Nid yw’r rhain yn cael eu defnyddio gan Tai Gogledd Cymru am unrhyw bwrpas penodol.

Bydd rhai o’r cwcis hyn yn cael eu dileu wrth i ddefnyddiwr gau eu porwr, ac mae gan rai cwcis eraill ddyddiadau penodol pan fyddant yn gorffen.

 

Ffynhonnell https://www.nwha.org.uk/- Panel Cydsyniad Cwcis/Cwcis Cydymffurfiaeth

Enw’r Cwci gdpr-cookie-law

Pwrpas Mae’r cwci hwn wedi ei drefnu fel, unwaith bydd wedi cael ei dderbyn, bod y panel hysbysu cwci wedi ei guddio hyd nes bydd y cwci’n gorffen.

 

Cwcis Sesiwn

Pwrpas Bydd y cwcis hyn yn storio gwybodaeth dros dro er mwyn i’r wefan fedru gweithredu.

 

Cwcis gyda Swyddogaeth

Enw’r Cwci gdpr-cookie-law

Pwrpas Bydd y cwcis hyn yn cael eu defnyddio ar gyfer swyddogaethau craidd y wefan.

Sylwadau

Ein system rheoli cynnwys yw Expression Engine, sef y feddalwedd y byddwn yn ei defnyddio i ddiweddaru ein gwefan. Mae’r un sy’n ei chyflenwi i ni’n gweithio i ganiatáu mwy o hyblygrwydd yn y ffordd y gall defnyddwyr reoli sut bydd cwcis yn cael eu gosod gan eu system nhw.

 

Enw’r Cwci cfduid – Cloudflare

Pwrpas Bydd hwn yn cael ei ddefnyddio i ganfod cleientiaid unigol tu cefn i gyfeiriad IP sy’n cael ei rannu.

 

Enw’r Cwci intercom-id-bhzad15z

Pwrpas Sgwrsio Intercom ar y we

 

Enw’r Cwcipll_language

Pwrpas Cadw dewis iaith y defnyddiwr

 

3. Rheoli eich cwcis

Sut y gallaf reoli fy nghwcis?

Rheoli gyda’r porwr

Gallwch ddefnyddio’r porwr fydd gennych ar y we er mwyn:

  • dileu pob cwci;
  • atal pob cwci;
  • caniatáu pob cwci;
  • atal pob cwci trydydd parti;
  • clirio pob cwci pan fyddwch yn cau’r porwr;
  • agor sesiwn ‘pori preifat’ / ‘incognito’, sy’n caniatáu i chi bori’r rhyngrwyd heb storio data lleol; a hefyd
  • gosod ychwanegion ac ategion i estyn swyddogaeth y porwr.

 

Lle i gael gwybodaeth am reoli cwcis

 

Gwybodaeth ddefnyddiol

  • Mae nifer o wefannau’n darparu gwybodaeth fanwl am cwcis, yn cynnwys AboutCwcis.org ac AllAboutCwcis.org.
  • Mae gwefan y Biwro Hysbysebu Rhyngrwyd Your Online Choices yn caniatáu  i chi osod cwcis yn eu lle, sy’n gweithredu ar draws gwahanol rwydweithiau hysbysebu, i adael i chi ddewis beth i beidio’i ddefnyddio.
  • Mae Google wedi datblygu ychwanegyn ar gyfer porwr, sy’n caniatáu i ddefnyddwyr ddewis peidio defnyddio Google Analytics   Mae’n gallu gweithredu ar draws pob gwefan sy’n defnyddio’r cynnyrch dadansoddi poblogaidd hwn.
  • Mae technolegau newydd fel Do Not Track gan Mozilla, sy’n caniatáu i chi ddweud wrth wefannau am beidio eich tracio.
  • Ar Internet Explorer, mae nodwedd o’r enw Tracking Protection Lists  sy’n eich caniatáu chi i fewnforio rhestr o wefannau rydych yn dymuno eu hatal.

 

4. Cwestiynau a ofynnir yn aml, eich hawliau chi a’r gyfraith

Mathau o ddefnyddwyr/Diffiniadau

Tanysgrifydd

Ystyr hyn yw person sy’n barti i gontract gyda darparydd gwasanaethau cyfathrebu electronig cyhoeddus i gyflenwi’r gwasanaethau hynny. Yn y cyswllt hwn, y tanysgrifydd yw’r person sy’n talu’r bil am y cysylltiad gyda’r rhyngrwyd (hynny yw, y person sy’n gyfrifol yn gyfreithiol am y taliadau).

Defnyddiwr

Ystyr hyn yw unrhyw unigolyn sy’n defnyddio gwasanaeth cyfathrebu electronig cyhoeddus. Yn y cyswllt hwn byddai defnyddiwr yn berson sy’n eistedd wrth gyfrifiadur neu’n defnyddio dyfais symudol i bori ar y rhyngrwyd.

Offer Terfynfa

Y ddyfais y bydd y cwci’n gael ei osod arni – fel arfer cyfrifiadur neu ddyfais symudol.

A oes angen i mi dderbyn cwcis?

Yn unol â’r ddeddfwriaeth isod, rhaid i ni gael eich cydsyniad chi er mwyn i ni fedru defnyddio cwcis ar ein gwefan i gasglu eich data. Nid oes rhaid i chi dderbyn cwcis.

Dyma beth sy’n ofynnol gan y gyfraith:

ni fydd person yn storio na chael mynediad at wybodaeth wedi ei storio, mewn offer terfynell tanysgrifydd neu ddefnyddiwr, heblaw am pan fydd gofynion paragraff (2) yn cael eu hateb.

(2) yr hyn sy’n ofynnol yw bod y tanysgrifydd neu ddefnyddiwr yr offer terfynfa hynny –

 (a) yn cael gwybodaeth eglur a chynhwysfawr am bwrpasau’r storio gwybodaeth neu fynediad at y wybodaeth honno; a hefyd

(b) wedi cydsynio i hynny. 

Rheoliad 6 Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebiadau Electronig 2003 (PECR).

Cydsyniad

Mae’n ofynnol o dan y Rheoliadau bod defnyddwyr neu danysgrifwyr yn rhoi cydsyniad. Mae Cyfarwyddeb 95/46/EC (sef y Gyfarwyddeb Diogelu Data mae Deddf Diogelu Data 2018 (DPA) y Deyrnas Unedig wedi ei seilio arni) yn diffinio cydsyniad yr un sy’n destun data fel:

unrhyw arwydd sy’n benodol ac ar sail gwybodaeth ac yn cael ei roi yn rhydd i ddangos eu dymuniad, lle mae’r un sy’n destun y data’n dangos eu bod yn cytuno i ddata personol sy’n ymwneud â hwy gael ei brosesu’.

Rhaid i gydsyniad fod yn ryw fath o gyfathrebu lle mae’r unigolyn yn fwriadol yn dangos eu bod yn derbyn. Gall hyn olygu clicio ar eicon, gyrru ebost neu danysgrifio i wasanaeth.         Y mater hollbwysig yw bod yr unigolyn yn deall yn llawn eu bod yn cydsynio trwy weithredu fel hyn.

Ein panel cydsynio cwcis yw eich ffordd chi o gydsynio i ddefnyddio neu atal defnyddio cwcis ar ein gwefan.

Trwy gydsynio, rydach chi’n cytuno i gymryd cwcis am 12 mis (heblaw am pan fydd newid sylweddol wedi digwydd cyn hynny, ac os felly byddwn yn gofyn i chi gydsynio eto).

A yw cwcis yn caniatáu i ddefnyddwyr eraill gael mynediad at yriant caled fy nghyfrifiadur?

Nid yw’r cwcis fyddwn ni’n eu defnyddio’n gallu edrych i mewn i’ch cyfrifiadur chi, na’ch ffôn clyfar neu ddyfais y gellir ei weithredu ar y we, a chael gwybodaeth amdanoch chi neu eich teulu neu ddarllen unrhyw ddeunydd gwreiddiol sy’n cael ei gadw ar eich gyriant caled.

Os byddaf yn defnyddio cyfrifiadur cyhoeddus, a fydd rhywun arall yn gallu cael fy manylion oddi wrth y cwcis?

Does dim modd i rywun arall sy’n cael mynediad at y cyfrifiadur ddefnyddio ein cwcis i ganfod unrhyw beth amdanoch chi, heblaw am y ffaith fod rhywun sy’n defnyddio’r cyfrifiadur  wedi ymweld â gwefan benodol.

A yw cwcis yn golygu y gallwn gael galwadau diwahoddiad neu bost sothach?

Ni fyddwn yn defnyddio’r data sydd wedi ei gasglu trwy cwcis i gysylltu gyda chi trwy’r post, ebost neu dros y ffôn.

Dolenni i wefannau eraill

Gall ein gwefan gynnwys dolenni i wefannau eraill fydd o ddiddordeb. Unwaith y byddwch wedi defnyddio’r dolenni hyn nid oes gennym unrhyw reolaeth dros unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei darparu. Nid yw’r polisi hwn yn rheoli’r gwefannau hynny, a dylech fod yn ofalus ac edrych ar yr hysbysiad neu ddatganiad preifatrwydd sy’n gweithredu ar gyfer y wefan unigol honno.

Adrodd ynghylch eich pryderon am cwcis

Cysylltwch os gwelwch yn dda gyda’n tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01492 572727 neu trwy ebost yn [email protected] neu’r Swyddog Diogelu Data ar 01492 573207 neu trwy anfon ebost at [email protected] yn gyntaf os bydd gennych unrhyw bryderon am y cwcis a’r defnydd ohonynt ar ein gwefan.

Neu gallwch ymweld â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yn:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

2il lawr

Tŷ Churchill

Ffordd Churchill

Caerdydd

CF10 2HH

Ffôn: 016 2554 5297

Ebost: [email protected] 

Gwefan:  https://ico.org.uk/

Mae ‘Live Chat’ ar gael ar wefan yr ICO: live chat

Mae hefyd safle lle gallwch godi pryderon yn benodol am cwcis, sef:

Tell us your concerns about cookies a gallwch gwblhau’r unig ffurflen sydd ganddynt, yn: https://wh.snapsurveys.com/s.asp?k=150296439091