Materion Ariannol

Mae’r adran hon yn cynnig cyngor ar sut y gallwch arbed arian, cael gafael ar fenthyciadau fforddiadwy a gwella eich sefyllfa ariannol.

Bydd ein Tîm Cynhwysiant Ariannol, sydd wedi’u hyfforddi i roi cyngor a chymorth ar faterion ariannol i bob un o’n tenantiaid, yn gallu rhoi cymorth pellach i chi ar y materion hyn.  Os na allant hwy wneud hynny byddant yn gwybod am rywun a fydd yn gallu eich helpu!

Os hoffech drafod unrhyw agwedd o’r wybodaeth isod, cysylltwch â’r Tîm Rhenti ar 01492 572727 neu [email protected].

Fy Nghartref – Yswiriant Cynnwys Cartref  Dangos mwy o wybodaeth

My Home insurance

Os ydych chi’n denant sy’n rhentu, yna ni chaiff eich landlord gynnwys eich eiddo fel rhan o’r cytundeb tenantiaeth. Mae’n syniad da ystyried beth fyddai polisi yswiriant cynnwys cartref yn eich gwarchod chi rhagddo er mwyn eich helpu i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch a oes angen un arnoch chi.

Mae yswiriant cynnwys cartref wedi’i gynllunio er mwyn helpu i amddiffyn eich eiddo. Waeth pa mor ofalus ydych chi, mae risg bob amser y gallai eich eiddo gael ei dorri, ei ddifrodi neu ei ddwyn felly gall yswiriant cynnwys cartref helpu i roi tawelwch meddwl i chi.

Er mwyn eich helpu i benderfynu a yw yswiriant cynnwys cartref yn iawn i chi, mae Tai Gogledd Cymru wedi ymuno â Thistle Tenant Risks, ac Ageas Insurance Limited sy’n darparu Cynllun Yswiriant Fy Nghartref, polisi Yswiriant Cynnwys Tenantiaid arbenigol.

Gall y Cynllun Yswiriant Fy Nghartref gynnig yswiriant i chi ar gyfer eiddo eich cartref gan gynnwys yswirio eitemau fel dodrefn, carpedi, llenni, dillad, dillad gwely, eitemau trydanol, gemwaith, lluniau ac addurniadau.

Sut mae cael gwybodaeth bellach?

  • Gofynnwch i’ch swyddog tai lleol am becyn cais.
  • Ffoniwch Tenant Thistle Risks ar 0345 450 7288

Fel arall, ewch i www.thistlemyhome.co.uk  i gael mwy o wybodaeth neu i ofyn iddyn nhw eich ffonio chi nôl.

Mae’r Ffederasiwn Tai Cenedlaethol yn Gynrychiolydd Penodedig i Thistle Insurance Services Ltd. Mae Thistle Insurance Services Limited wedi’i awdurdodi a’i reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol FRN 310419. Cofrestrwyd yn Lloegr o dan Rif 00338645. Swyddfa gofrestredig: Parc Busnes Rossington, West Carr Road, Retford, Swydd Nottingham, DN22 7SW. Mae Thistle Insurance Services Ltd yn rhan o’r Grŵp PIB.

Mae ein Polisi Preifatrwydd Diogelu Data ar-lein yn https://www.thistleinsurance.co.uk/Privacy-Policy

Help gyda phroblemau dyled Dangos mwy o wybodaeth

Gellir cael gwahanol fathau o ddyled, megis ôl-ddyledion rhent, biliau cyfleustodau heb eu talu neu anhawster i ad-dalu benthyciadau. Gall nifer o ffactorau gwahanol achosi dyled megis salwch, colli swydd, gostyngiad mewn budd-daliadau neu berthynas yn chwalu.

Gallwch gynnig cyngor a help i chi ddod o hyd i ateb synhwyrol i’ch problem ariannol. Gallwn eich rhoi mewn cysylltiad ag asiantaethau eraill megis y Ganolfan Cyngor ar Bopeth, Shelter Cymru, Undeb Credyd Cambrian, National Debt Line, Step Change, a fydd yn gallu rhoi cyngor am ddim i chi ar hawliau lles, budd-daliadau neu ddyledion eraill. Mae yna rywun i’ch helpu bob amser.

Benthycwyr arian didrwydded Dangos mwy o wybodaeth

Mae benthyciwr arian didrwydded yn codi cyfraddau llog uchel iawn ac weithiau yn defnyddio bygythiadau a thrais i ddychryn pobl nad ydynt yn gallu ad-dalu eu benthyciad. Gallwch roi gwybod am fenthyciwr arian didrwydded yn gyfrinachol i’r Tîm Benthyca Arian drwy ffonio 0300 123 3311 / Anfon e-bost at [email protected]

Gwasanaethau Ariannol gan yr Undeb Credyd Cambrian Dangos mwy o wybodaeth

Mae Undeb Credyd Cambrian yn fudiad ariannol cydweithredol cymunedol, ac sy’n eiddo i’w haelodau. Mae’r Undeb Credyd yn darparu ystod eang o wasanaethau ariannol i unrhyw un sy’n byw neu’n gweithio yng Ngogledd Cymru.

Mae eu gwasanaethau yn cynnwys cyfrifon cynilo (cyfrifon cynilo Nadolig i helpu i gyllidebu ar gyfer adeg fwyaf drud y flwyddyn!), benthyca darbodus ac ad-daliadau fforddiadwy ar fenthyciadau. Cliciwch ar www.northwalescu.co.uk/cy/index am fanylion pellach.

Trefnu cyfrif banc sylfaenol Dangos mwy o wybodaeth

Mae cyfrifon banc sylfaenol yn cynnig lle cyfleus i gadw’r arian sydd ei angen arnoch bob dydd. Gallwch drefnu i’ch cyflog, Pensiwn y Wladwriaeth a budd-daliadau neu gredydau treth gael eu talu i mewn i gyfrif banc sylfaenol. Gallwch hefyd dalu sieciau neu arian parod i mewn i’r cyfrif am ddim, a threfnu ‘debydau uniongyrchol’ ar gyfer talu biliau rheolaidd yn awtomatig o’ch cyfrif.

Ni allwch godi mwy o arian na’r swm o arian sydd yn eich cyfrif (‘mynd i orddrafft’). Am y rheswm hwn, mae cyfrifon banc sylfaenol yn ddefnyddiol i unrhyw un sy’n poeni am orwario.

Bydd angen cyfrif banc sylfaenol i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Mae nifer o fanciau’r stryd fawr, cymdeithasau adeiladu ac Undebau Credyd yn cynnig cyfrifon banc sylfaenol. Os hoffech gael cymorth i agor cyfrif banc, cysylltwch Mae nifer o fanciau’r stryd fawr, cymdeithasau adeiladu ac Undebau Credyd yn cynnig cyfrifon banc sylfaenol. Os hoffech gael cymorth i agor cyfrif banc, cysylltwch â’r Tîm Rhenti ar 01492 572727 neu [email protected].

Rhentu Llinell Ffôn Dangos mwy o wybodaeth

Efallai y byddwch yn gymwys i rentu llinell ffôn yn rhad gyda BT os ydych yn hawlio rhai budd-daliadau. Ffoniwch BT ar 0800 800 864 (8am-6pm dydd Llun – dydd Gwener) i ofyn am ffurflen gais BT Basic. Mae’n rhaid mai chi yw deiliad y cyfrif a enwir i wneud cais.

Ymchwilio i gyfleustodau Dangos mwy o wybodaeth

Mae costau ynni yn newid yn gyson, ac nid ydym yn gwybod o un flwyddyn i’r llall beth y byddwn yn ei dalu am nwy a thrydan. Dyna pam ei bod yn bwysig eich bod yn ymchwilio a gwneud yn siŵr eich bod yn cael y cytundeb gorau. Os ydych yn hawlio rhai budd-daliadau penodol, mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i gael disgownt ar eich biliau ynni.

Biliau Dŵr Rhatach Dangos mwy o wybodaeth

Mae gan Dŵr Cymru gynlluniau i helpu pobl na allant fforddio i dalu eu biliau neu bobl sy’n derbyn rhai budd-daliadau penodol. Cysylltwch â Dŵr Cymru ar 0800 052 0145 neu ewch i http://www.dwrcymru.com/?sc_lang=cy-GB.

Os hoffech drafod unrhyw agwedd o’r wybodaeth isod, cysylltwch â’r Tîm Rhenti ar 01492 572727 neu [email protected].