Cynaliadwyedd

Ein nod ni, ym mhob agwedd o’n busnes, yw ateb anghenion y presennol heb gyfaddawdu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ateb eu hanghenion eu hunain.

Mae gennym ymrwymiad i wella perfformiad amgylcheddol ar draws ein holl weithgareddau busnes, a byddwn yn annog ein partneriaid busnes ac aelodau o’r gymuned ehangach i ymuno â ni yn yr ymdrech hon.

Rydym ni wedi datblygu gweledigaeth o ddyfodol cynaliadwy i Dai Gogledd Cymru:

“Ein gweledigaeth ni ar gyfer 2050 ydi y byddwn yn darparu cartrefi o ansawdd uchel sy’n effeithlon efo ynni, mewn cymunedau sy’n gwerthfawrogi eu hamgylchedd lleol ac yn cymryd rhan bendant mewn gwarchod a gwella llesiant tymor hir eu hardal. Byddwn yn gosod gwerth uchel ar amgylcheddau sy’n iach yn ecolegol, lle mae arweinyddiaeth gymunedol yn hyrwyddo cymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar yr ardal leol a’r gymuned ehangach. Trwy weithio efo’n gilydd byddwn yn parhau i ddatblygu dyfodol cynaliadwy i Dai Gogledd Cymru. Eich dyfodol chi, ein dyfodol ni.”

Mae Strategaeth Gynaliadwyedd newydd wedi cael ei datblygu, darllenwch yma:

Lawrlwythwch: Strategaeth Gynaliadwyedd

Lawrlwythwch: Datganiad Polisi Amgylcheddol

Roedd yn gam pwysig ar y ffordd i ddod yn sefydliad gwirioneddol gynaliadwy pan wnaethom ni ennill gwobr Arian SHIFT (‘Sustainable Homes Index for Tomorrow’) yn Nhachwedd 2014. Mae hwnnw’n gynllun gyda chefnogaeth y llywodraeth, sy’n dadansoddi perfformiad amgylcheddol cymdeithasau tai. Wnaethom ni ennill gwobr Arian eto yn 2016.