Safonau Gwasanaeth Trwsio

Mae’r Tîm Trwsio ar gael i gymryd eich ceisiadau am waith trwsio, o 9yb tan 5yp, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Tu allan i’r oriau hynny mae gennym ni wasanaeth arall ar gyfer gwaith argyfwng.

Mae’r safonau gwasanaeth hyn yn dangos beth wnawn ni ei wneud, a pha mor gyflym y gwnawn hynny. Y safonau hyn yw ein haddewid i chi, ac maen nhw’n egluro’r lefel o wasanaeth y gallwch ei ddisgwyl gennym ni o ran gwaith trwsio.

Cliciwch ar bob pennawd i ddangos mwy.

Gwaith trwsio mewn argyfwng – 24 awr

Bydd gwaith trwsio mewn argyfwng yn digwydd o fewn 24 awr.

Y diffiniad o argyfwng yw rhywbeth nad oedd modd ei ragweld ac a allai achosi perygl i iechyd, i ddiogelwch preswylwyr, neu ddifrod difrifol a dinistr i eiddo.

Fel arfer, bydd y contractwyr gwaith argyfwng yn gwneud pethau’n ddiogel eto, wedyn bydd gwaith llawn i orffen yn digwydd ymhellach ymlaen, yn ystod oriau gwaith arferol. Dyma rai o’r mathau o waith y byddant yn mynd allan atynt:

  • To yn gollwng yn ddifrifol
  • Peipen wedi byrstio
  • Eich unig doiled wedi blocio (Gall hwn fod yn waith trwsio y codir tâl amdano, gweler yma)
  • Colled mewn trydan neu golau difrifol
  • Gwres ddim yn gweithio, mewn tywydd oer, a dim math arall o wres ar gael
  • Y twymwr tanddwr ddim yn gweithio os mai hynny yw eich unig ffordd o gael dŵr poeth
  • Ffenestr neu drws allanol anniogel

Rydym ni’n sylweddoli y bydd angen rhoi ystyriaeth arbennig dan rai amgylchiadau i bensiynwyr a thenantiaid sy’n agored i niwed.

Os bydd contractiwr wedi cael ei alw i wneud gwaith argyfwng ond nad oes cyfiawnhad i’w alw’n waith argyfwng, yna chi fydd yn gyfrifol am dalu hanner yr holl gostau.

Gwaith atgyweirio arferol – 28 diwrnod

Gwaith sydd ar lai o frys ac sy’n gallu aros am rywfaint (hyd at fis) cyn ei wneud. Mae’n cynnwys mân drafferthion efo’r toiled, bath, sinc, drws neu ffenestr yn sticio, atgyweirio plastr, gwaith brics, ac unrhyw waith trwsio arall, tu mewn neu du allan, nad yw yn waith brys.

Atgyweiriadau arferol – 90 diwrnod

Mae’r rhain yn atgyweiriadau llai brys a all gynnwys atgyweirio’r ffensys, gwteri a drysau blwch mesurydd.