Cwrdd â'r Tîm Rheoli

Rhowch wyneb i enw a darganfyddwch fwy am aelodau ein Tîm Rheoli

Helena Kirk - Prif Weithredwr
Ymunodd Helena Kirk gyda Tai Gogledd Cymru fel Prif Weithredwr yn Hydref 2016. Mae Helena wedi gweithio yn y sector tai ers 1982, gan ennill profiad helaeth yn gweithio i awdurdodau lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig traddodiadol a rhai trosglwyddo stoc fel ei gilydd. Dechreuodd ei gyrfa mewn gwasanaeth cwsmeriaid rheng flaen ac mae wedi cynnwys tair swydd flaenorol fel Cyfarwyddwr yn Birmingham, Coventry a Henffordd. Cyn ymuno â Tai Gogledd Cymru roedd yn aelod o'r tîm Gweithredol ym Mhartneriaeth Tai Shoreline yn Swydd Lincoln am 6 blynedd. Ymunodd â Phartneriaeth Tai Shoreline yn 2010 gan ddychwelyd i swydd â chyfrifoldeb uniongyrchol am wasanaeth cwsmeriaid ar ôl 7 mlynedd yn gweithio mewn ymgynghoriaeth tai. Mae'n aelod o'r Sefydliad Tai Siartredig ac mae ganddi radd Meistr mewn Gweinyddu Busnes.
Helena Kirk
Prif Weithredwr
Darllen mwy
Jayne Owen - Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau
Mae Jayne yn gyfrifydd cymwysedig (CIPFA) gyda 30 mlynedd o brofiad yn y sector cyhoeddus, 5 mlynedd fel Trysorydd/Cyfarwyddwr Cyllid a chyn ymgymryd â’r swydd hon, bu Jayne yn cyflawni swydd Cyfarwyddwr Cyllid (Heddlu a Throsedd) ar gyfer Awdurdod Cyfun Manceinion Fwyaf. Roedd y swyddi blaenorol hyn yn cynnwys cymhlethdod sylweddol, gydag atebolrwydd dros gyllidebau gwerth miliynau o bunnoedd ynghyd â chynghori ar y defnydd o'r adnoddau hynny. Mae ei meysydd arbenigedd yn cynnwys rheoli trysorlys, cynllunio ariannol, archwilio, caffael, comisiynu, gwerth am arian, trawsnewid sefydliadol a llywodraethu effeithiol. Cyn ymgymryd â’r swydd hon, bu Jayne yn gweithio fel Trysorydd i Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Manceinion Fwyaf a chyn hynny swyddi amrywiol ar gyfer Cyngor Trafford. Mae hi'n cynnig ehangder o brofiad sy'n mynd y tu hwnt i'w harbenigedd ariannol yn enwedig, diwygio gwasanaethau cyhoeddus, gweithio mewn partneriaeth, strategaeth ystadau a rheoli perfformiad. Mae gyrfa Jayne wedi'i gwreiddio yn y sector cyhoeddus, gan ymboeni'n ddirfawr am rôl y sector cyhoeddus, gwirfoddol a mentrau cymdeithasol mewn cymdeithas.
Jayne Owen
Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau
Darllen mwy
Ruth Lanham-Wright - Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cartrefi
Mae Ruth Lanham-Wright wedi gweithio ym maes tai ers 19 mlynedd, ac mae 18½ ohonynt wedi bod gyda Chymdeithas Tai Gogledd Cymru. Mae hi wedi gweithio mewn amrywiaeth eang o rolau mewn amrywiol adrannau, ond yn bennaf yn rheoli'r timau Cyllid ac Incwm. Mae Ruth bellach yn gweithio fel y Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cartrefi, yn rheoli swyddogaethau gwaith atgyweirio, asedau a chydymffurfiad. Mae hi'n aelod o Gymdeithas y Cyfrifwyr Siartredig Ardystiedig ac mae hi yng nghamau olaf cymhwyso fel cyfrifydd. Mae ganddi radd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn cyfrifeg gymhwysol a'i maes arbenigol yw effaith ariannol a gweithredol diwygiadau lles. Yn fwy diweddar, cwblhaodd gymhwyster gyda Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig ac mae ganddi gymhwyster ILM lefel 5 mewn arweinyddiaeth a rheolaeth. Mae gan Ruth ddiddordeb arbennig mewn gwella gwasanaethau.
Ruth Lanham-Wright
Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cartrefi
Darllen mwy
Allan Eveleigh - Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cymunedau
Ymunodd Allan â CTGC ym mis Awst 2020 fel ein Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cymunedau, ac mae'n dod â 15 mlynedd o brofiad rheoli tai i'r rôl. Mae Allan wedi gweithio mewn sefydliadau bach, canolig a mawr ac wedi arwain timau yn llwyddiannus trwy gyfnodau o newid sylweddol yn dilyn uno ac ailstrwythuro. Mae gan Allan ystod eang o brofiad ar draws yr holl swyddogaethau rheoli tai, gydag arbenigeddau penodol mewn Dyraniadau a Rheoli Cymdogaeth. Gyda hanes o gyflawni perfformiad cadarnhaol trwy ganolbwyntio ar ddiwylliant ac arweinyddiaeth ar sail gwerthoedd, mae arddull arweinyddiaeth Allan yn cyd-fynd yn dda ag ethos CTGC. Gan roi cwsmeriaid wrth galon ei feddylfryd, mae Allan yn cydnabod pwysigrwydd y gwaith a wneir gan CTGC a bydd yn arwain ac yn cefnogi cydweithwyr i ddarparu gwasanaethau cydgysylltiedig a fydd yn cael effeithiau cadarnhaol yn ein cymunedau.
Allan Eveleigh
Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cymunedau
Darllen mwy
Emma Williams - Cyfarwyddwr Cyllid Cynorthwyol
Ymunodd Emma â Tai Gogledd Cymru yn 2010 fel Pennaeth Cyllid, a esblygodd wedyn yn rôl Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyllid. Mae Emma yn gymrawd Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr ar ôl ennill ei chymhwyster ym mis Tachwedd 2003. Cyn TGC, bu Emma yn gweithio mewn sawl practis cyfrifyddu yng ngogledd Cymru a Chaer. Mae hi'n bennaeth yr adran gyllid sy'n cynnwys y timau rhenti a chyllid. Ar ôl cael ei magu a byw ei bywyd cyfan yng ngogledd Cymru, mae hi'n angerddol am ein cymunedau a'r Gymraeg. Mae Emma yn siaradwr Cymraeg rhugl ac yn Gadeirydd ein panel Elusennau sydd wedi codi tua £30,000 i amrywiol elusennau lleol dros y 7 mlynedd diwethaf.
Emma Williams
Cyfarwyddwr Cyllid Cynorthwyol
Darllen mwy
Claire Shiland - Cyfarwyddwr Gweithrediadau
Ymunodd Claire â Tai Gogledd Cymru fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau ym mis Medi 2022. Mae Claire wedi gweithio yn y sector tai yng ngogledd Cymru am y rhan fwyaf o’i gyrfa, gan ddechrau mewn gwasanaethau tai â chymorth rheng flaen a dal amrywiaeth o swyddi gan roi profiad strategol iddi ar draws meysydd allweddol gan gynnwys Tai â Chymorth, Tai Pobl Hŷn, Rheoli Tai, Gwasanaethau Atgyweirio a Chynnal a Chadw a Gwasanaethau Cwsmeriaid. Yn ogystal â’i phrofiad o fewn y sector tai, penodwyd Claire trwy’r rhaglen Arolygydd Mynediad Uniongyrchol Cenedlaethol fel Arolygydd yn Heddlu Gogledd Cymru, swydd a ddaliodd am bron i dair blynedd gan ennill cymwysterau amrywiol gan ei galluogi i weithredu fel Arolygydd cymwys. Mae gan Claire radd mewn Polisi Cymdeithasol a Diploma Ôl-radd mewn Tai a Rheoli Cymdogaeth. Mae Claire yn Aelod Siartredig o’r Sefydliad Tai Siartredig, ac mae’n Aelod Bwrdd y Sefydliad Tai Siartredig yng Nghymru a’r Asiantaeth Gofal a Thrwsio yng Nghonwy a Sir Ddinbych. Mae Claire yn siarad Cymraeg, gan ddysgu’r Gymraeg fel ail iaith trwy ei haddysg a'i chyflogaeth.
Claire Shiland
Cyfarwyddwr Gweithrediadau
Darllen mwy
Lauren Eaton-Jones - Cyfarwyddwr Cynorthwyol Masnachol
Ymunodd Lauren â Chymdeithas Tai Gogledd Cymru ym mis Mehefin 2021 fel ein Cyfarwyddwr Cynorthwyol Masnachol. Mae Lauren wedi gweithio ym maes Datblygu ers 20 mlynedd gyda'r 17 mlynedd gyntaf yn y sector cyhoeddus, yn gweithio i Gyngor Sir y Fflint. Mae cefndir Lauren ym maes Cynllunio Tref ac mae hi wedi gweithio mewn sawl rôl yng Nghyngor Sir y Fflint, gan ennill profiad gwerthfawr ar draws ystod eang o ddatblygiadau. Mae'r profiad datblygu hwn yn cynnwys asedau preswyl, manwerthu, diwydiannol, ynni adnewyddadwy ac asedau treftadaeth. Yn fwy diweddar mae Lauren wedi gweithio yn y sector preifat fel Ymgynghorydd Cynllunio i gwmni ymgynghori amlddisgyblaethol. Mae cyfran fawr o'i chleientiaid wedi bod yn Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig sy'n adeiladu cynlluniau fforddiadwy ledled gogledd Cymru a'r profiad hwn sydd wedi ei hannog i symud i'r sector tai a chanolbwyntio ar yr hyn y mae'n ei fwynhau fwyaf. Mae gan Lauren radd Meistr mewn Cynllunio Amgylcheddol.
Lauren Eaton-Jones
Cyfarwyddwr Cynorthwyol Masnachol
Darllen mwy