Yr Iaith Gymraeg

cymraegMae Tai Gogledd Cymru yn gweithredu ar draws Gogledd Cymru ac yn cydnabod pwysigrwydd yr iaith a’r diwylliant Cymraeg.

Rydym yn cynnig ein gwasanaethau yn Saesneg ac yn Gymraeg, ac yn rhoi cyfle i chi ddewis eich iaith pan fyddwch chi’n ein ffonio ni, yn ogystal â darparu cylchlythyrau a thaflenni ac ati yn ddwyieithog.

Anogir staff i siarad Cymraeg ar bob cyfle, ac mae’r grŵp Cymraeg yn helpu i annog hyn trwy weithgareddau amrywiol. Cefnogir y rhai nad ydynt yn gallu siarad Cymraeg i ddysgu trwy fynychu cyrsiau ynghyd â chyfleoedd i ymarfer yn ystod sesiynau mewnol ‘Siop siarad’.

Rydym weid datblygu ein Cynllun Iaith Gymraeg i egluro sut rydym yn trin y Gymraeg a’r Saesneg ar sail gyfartal. Rydym yn darparu Adroddiad Monitro bob blwyddyn i Gomisiynydd y Gymraeg ar ba mor dda rydym yn cyflenwi ein Cynllun Iaith Gymraeg.

Lawrlwythiadau

Cynllun Iaith Gymraeg

Adroddiad Monitro 2022-23

Adroddiad Monitro 2020-21

Adroddiad Monitro 2019-20

Adroddiad Monitro 2018-19