Hygyrchedd

Rydym wedi ceisio gwneud ein gwefan mor hygyrch a hawdd i’w defnyddio â phosibl. Rydym wedi cadw canllawiau WCAG2 mewn cof trwy gydol y gwaith o ddatblygu ein gwefan, gan gydymffurfio â chanllawiau unigol lle mae wedi bod yn bosibl, ymarferol a buddiol i wneud hynny.

Mae eich adborth yn bwysig i ni. Os byddwch yn darganfod bod rhan o’n gwefan yn anodd i’w defnyddio, rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost atom yn [email protected].

Darllenydd sgrin hygyrch:

  • Mae testun sy’n weladwy i ddefnyddwyr darllenydd sgrin yn unig wedi cael ei gymhwyso i eiconau er mwyn cynorthwyo i chi bori drwy’r wefan
  • Gall defnyddwyr darllenydd sgrin neidio i’r prif gynnwys yn hwylus

Maint y ffont:

Gellir cynyddu maint y ffont hyd at 20% yn fwy na maint y ffont rhagosodedig drwy glicio ar y botymau AAA yn y gornel dde uchaf, sydd i’w gweld ar bob tudalen. Mae’r A gyntaf yn cynrychioli maint y ffont rhagosodedig; bydd yr ail A yn ei gynyddu 10% a’r trydydd A yn ei gynyddu 20%. Fodd bynnag, er mwyn cynnal gosodiad y rhaglen ar y we, bydd y cynnydd ym maint y ffont ond yn cael ei gymhwyso i brif gynnwys y dudalen. Ni fydd botymau, dewislenni a mwyafrif y penawdau yn cael eu heffeithio gan y newid hwn.

Bydd maint y ffont yn cael ei gadw mewn cwci a bydd defnyddwyr sy’n dychwelyd i’r wefan yn gweld yr un maint wrth ddychwelyd a’r tro diwethaf y gwnaethon nhw ymweld â’r wefan (oni bai eu bod yn clirio’r cwcis yn eu porwr).

Lliwddall:

Nid yw’r gosodiad/prif gynllun lliw yn cyflwyno unrhyw faterion a allai amharu ar allu defnyddwyr lliwddall i ddefnyddio’r wefan.

Dewis Iaith:

Mae gwefan Tai Gogledd Cymru ar gael yn Saesneg ac yn Gymraeg. Gall defnyddwyr ddewis iaith drwy glicio ar y botwm ar ochr dde uchaf pob tudalen o fewn y wefan.

Os byddwch yn darganfod bod rhan o’n gwefan yn anodd i’w defnyddio, rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost atom yn [email protected].