Pay Your Rent

Mae llawer o ffyrdd cyfleus o dalu eich rhent, os ydych yn dewis talu yn wythnosol neu’n fisol.

Y ffordd hawsaf i dalu eich rhent yw trwy Ddebyd Uniongyrchol, a gallwn helpu i drefnu hynny i chi. Mae gennym hefyd nifer o opsiynau ar-lein; gallwch hyd yn oed dalu gan ddefnyddio eich ffôn symudol.

Os rydych yn poeni am dalu eich rhent oherwydd Covid, ewch i’r dudalen yma, sydd gyda gwybodaeth am gymorth ariannol efallai byddech yn gymwys am.

Trafferth talu eich rhent

Os ydych yn cael trafferth i dalu eich rhent, mae’n bwysig iawn eich bod yn cysylltu â ni cyn gynted â phosibl ar 01492 572727. Rydym yma i helpu a byddwn yn asesu’r sefyllfa ac yn rhoi cymorth a chyngor i chi. Rydym eisiau gweithio gyda chi a’ch atal rhag mynd i ôl-ddyledion cyn iddynt fynd yn anodd i’w trafod.