Ffôn

Yn awr gallwch dalu eich rhent dros y ffôn 24/7 gan ddefnyddio’r system Taliadau Ffôn Awtomataidd gan Allpay. Mae’r system hon yn defnyddio technoleg Ymateb Llais Rhyngweithiol (IVR) a bydd yn caniatáu i chi i alw a gwneud taliadau tuag at eich rhent 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Sut i wneud taliad:

  1. Ffoniwch 0330 041 6497
  2. Byddwch yn mynd trwadd i llinell ffôn taliad awtomataidd Allpay. Mae’r cyfarwyddiadau’n glir a hawdd eu dilyn. Yn ystod yr alwad ffôn byddwn yn gofyn i chi am eich cyfeirnod talu Allpay sef y rhif 19 digid ar flaen eich Cerdyn Talu Allpay.

I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, bydd angen cerdyn talu Allpay a cherdyn debyd neu gredyd arnoch. Cysylltwch â Rhenti ar 01492 572727 os nad oes gennych Gerdyn Talu Allpay ac os hoffech i ni  archebu un i chi.