Gwaith Elusen

Ym mis Ebrill bob blwyddyn mae Tai Gogledd Cymru yn dewis elusen ac mae staff yn dod at ei gilydd i godi arian. Eleni rydym yn codi arian ar gyfer Mind Cymru, cangen Cymru o’r elusen iechyd meddwl. Dechreuon ni ein gwaith codi arian gyda Bingo amser cinio ar wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. Ymunwch â ni ar ein taith i godi arian eleni!

Cyfanswm codi arian ar gyfer Awyr Las

Yn 2020-21 wnaetho ni godi arian ar gyfer Awyr Las, elusen GIG Gogledd Cymru. Yn dilyn y pandemig Coronafeirws, a’r pwysau mawr oedd ar y gwasanaeth iechyd, roeddem yn credu fod cefnogi’r elusen hon yn bwysicach nag erioed.

Gan ein bod wedi bod yn gweithio gartref, roedd codi arian dipyn mwy o her, ond nid yw hynny wedi ein rhwystro, wnaethom ni godi £3,010, £10 dros ein targed!

Rhan mawr o’r codi arian yma oedd ein her ‘O Amgylch y Byd Mewn 80 Diwrnod‘, her lles/ffitrwydd i staff TGC a’n teuluoedd sy’n anelu at gerdded/beicio/rhedeg cyn belled ag y gallwn o gwmpas y byd mewn 80 diwrnod, targed o 24,901 milltir erbyn yr 16eg o Ionawr. Y newyddion da ydi ein bod wedi llwyddo! Darllenwch mwy yma.

Codi arian mewn blynyddoedd blaenorol

 Ymhlith yr elusennau eraill yr ydym wedi codi arian ar eu cyfer mae:

Os hoffech chi gymryd rhan yn ein gweithgareddau codi arian, cysylltwch â’r Panel Elusennau ar [email protected].