TGC yn rhagori ar ein cyfanswm codi arian am y 3edd flwyddyn yn olynol

Mae staff Tai Gogledd Cymru (TGC) wedi codi bron i £7,000 i’r elusen leol, Hosbis Dewi Sant, fel rhan o’u hymgyrch i godi arian i elusennau.

Codwyd y cyfanswm drwy gynnal llif cyson o weithgareddau ers mis Ebrill 2016. Mae’r rhain wedi cynnwys cymryd rhan mewn ras gychod Dreigiau, ffair haf, ffair Nadolig, Bake Off eu hunain yn ogystal ag arwerthiant ar-lein ar Facebook.

Esboniodd Emma Williams, Cadeirydd y grŵp elusen:

“Mae ein hymgyrch codi arian yn TGC yn mynd o nerth i nerth bob blwyddyn. Rydym wedi curo ein targed codi arian eto eleni, gan godi llawer mwy na’r targed o £4,000 a osodwyd.”

“Rydyn ni’n gwneud hyn yn ein hamser ein hunain, felly mae ymroddiad y staff, a’r Grŵp Elusen yn benodol, wir yn cael ei werthfawrogi. Rydyn ni’n cael llawer o hwyl wrth wneud hyn, ac mae wedi bod yn ffordd wych i bawb i ddod i’w hadnabod ei gilydd.”

Canmolodd Kathryn Morgan-Jones, Swyddog Datblygu Busnes yn Hosbis Dewi Sant, y grŵp tai am godi cymaint o arian i’r elusen leol. Dywedodd:

“Rydyn ni’n hynod o ddiolchgar i staff Tai Gogledd Cymru a’u preswylwyr am eu cefnogaeth hael; mae wir yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl leol sy’n cael eu heffeithio gan salwch difrifol. Mae eu hawydd i wneud gwahaniaeth wedi ein helpu ni i wneud bob dydd yn werthfawr i’n cleifion a’u teuluoedd.”

“Y llynedd fe wnaethon ni ofalu am dros 1,000 o bobl o fewn ein cymuned leol ac rydyn ni’n disgwyl i’r nifer gynyddu’n sylweddol yn y dyfodol, a fydd yn anorfod yn cynyddu costau. Mae arnom angen dros £3 miliwn bob blwyddyn i ddarparu gwasanaeth clinigol. Gan mai 14% yn unig sy’n dod oddi wrth y GIG rydym ni, a byddwn yn parhau i, ddibynnu ar ewyllys da ac ymdrechion i godi arian gan y cyhoedd.”

Mae Tai Gogledd Cymru yn dewis elusen newydd bob blwyddyn ariannol. Bydd enw’r elusen am 2017/18 yn cael ei gyhoeddi yn fuan.