Rhodd Nadoligaidd Independence Solutions i TGC

Mae Independence Solutions, contractwr gwerthfawr gyda Tai Gogledd Cymru, wedi rhoi tatws, moron ac ysgewyll yn hael. Cyflwynodd tîm TGC y rhodd maethlon i fanciau bwyd lleol ym Mangor a Chaernarfon. Diolch yn fawr iawn i Independence Solutions am eu haelioni a’u heffaith gadarnhaol ar ein cymuned.

Edrychwn ymlaen at weithio’n agos gydag Independence Solutions yn 2024.

 

Preswylydd Cwrt Taverners yn ymgymryd â her cerdded

Fe wnaeth preswylwyr Taverners Court fwynhau taith gerdded prynhawn yr wythnos diwethaf o Taverners Court hyd at ben draw Pier Llandudno.

Dathlodd preswyliwr Cwrt Taverners Val Conway, sydd yn y crys-t melyn yn y llun, ei phen-blwydd yn 78 oed ym mis Mehefin ac mae wedi ymrwymo i gerdded 78,000 o gamau mewn wythnos i godi arian i elusen SHINE. Mae SHINE yn darparu cyngor a chefnogaeth arbenigol ar gyfer Spina Bifida a Hydrocephalus.

Ymunodd y preswylwyr a Rheolwr y cynllun, Susan Gough, â Val ar ddiwrnod cyntaf ei hymdrech codi arian a chafodd pawb brynhawn hyfryd iawn.

Dyfarnwyd y BEM i Val am ei gwasanaethau i elusen yn rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd. Mae hi’n ddiflino yn codi arian ar gyfer amrywiaeth o elusennau ac mae’n gwirfoddoli bob wythnos ar gyfer Clwb PHAB Llandudno (i bobl anabl yn gorfforol a phobl nad ydynt yn anabl), er bod y pandemig wedi gorfodi’r clwb i ohirio’r cyfarfodydd wythnosol dros dro.

Pob lwc i Val ar eich her!

Datgelu elusen newydd

Eleni mi wnaethon ni adael i staff TGC benderfynu pa elusen rydyn ni’n codi arian ar ei chyfer y flwyddyn nesaf. Mi wnaethon ni roi rhestr fer o awgrymiadau i bleidleisio arnynt, a’r elusen fuddugol yw… Mind Cymru!

Mind Cymru yw cangen Cymru o’r elusen iechyd meddwl sy’n cynnig gwybodaeth a chyngor i bobl â phroblemau iechyd meddwl ac yn lobïo’r llywodraeth ac awdurdodau lleol ar eu rhan.

Gyda blwyddyn sydd wedi bod yn her i iechyd meddwl llawer o bobl, ni allwn aros i ddechrau codi arian a helpu i gefnogi’r elusen anhygoel hon.

Cyfanswm codi arian ar gyfer Awyr Las

Ein elusen ar gyfer 2020 – 21 oedd Awyr Las. Mae Awyr Las yn elusen leol yng ngogledd Cymru sy’n gweithio ochr yn ochr â’r GIG i sicrhau bod cleifion yn elwa ar wasanaethau GIG gwell pan fydd eu hangen arnynt fwyaf.

Ar adeg pan fo cymaint o edmygedd a diolchgarwch yn cael ei ddangos i staff y GIG, credwn fod hon yn elusen addas iawn i ni ei chefnogi.

Mi wnaethon ni godi cyfanswm o £3,010 ar gyfer Awyr Las.

Oherwydd gweithio o gartref, nid ydym wedi gallu cynnal cymaint o weithgareddau codi arian ag y byddem wedi dymuno. Diolch i pawb am eich cymorth.

Llwyddiant her O Gwmpas y Byd mewn 80 diwrnod

Mae Tai Gogledd Cymru wedi cwblhau eu her ‘O Gwmpas y Byd mewn 80 diwrnod’ yn llwyddiannus gyda 3 diwrnod a hanner i’w sbario ym mis Ionawr.

Ddiwedd mis Hydref lansiodd TGC yr her lles a ffitrwydd ar gyfer staff, ffrindiau a theulu, gyda’r nod o gerdded, beicio neu redeg 24,901 milltir mewn 80 diwrnod. Mi wnaeth y gymdeithas dai nid yn unig lwyddo i gyrraedd yn ôl i Gyffordd Llandudno yn ddiogel ar ôl teithio’r byd, mi wnaethon nhw deithio 2,150 milltir arall, gan orffen ym Marrakesh ym Moroco.

Dywedodd Emma Williams, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyllid a phennaeth y Panel Elusennau:

“Wrth ddewis yr her roeddem am gyflawni dau beth. Roeddem am helpu iechyd a lles staff, a oedd fel pawb arall yn ei chael hi’n anodd yn ystod y pandemig. Yn ail, roeddem am godi arian at elusen. Roeddem o’r farn fod hwn yn syniad perffaith. Yn ogystal â chymryd rhan mae staff hefyd wedi casglu arian nawdd a fydd yn mynd at elusen eleni, Awyr Las.”

“Mae’r her wedi mynd yn rhyfeddol o dda, yn well nag y gallem erioed fod wedi’i freuddwydio ac rwyf mor falch o bawb sydd wedi cymryd rhan. Mae wedi dod â phobl ynghyd mewn ffordd arbennig ac wedi dangos faint o deulu ydi TGC mewn gwirionedd. Rydyn ni wir yn byw mewn rhan hyfryd o’r byd ac rydw i wedi cael pleser aruthrol wrth weld gwahanol rannau o ogledd Cymru.” 

Mae preswylwyr yn rhai o’n cynlluniau hefyd wedi dangos diddordeb brwd yn yr her, ac yn Hafod y Parc, ein cynllun Gofal Ychwanegol yn Abergele, yn benodol.

Eglurodd Shelley Hughes, Rheolwr Cynllun Hafod y Parc:

“Trwy gydol yr her mi fyddai’r preswylwyr yn gofyn i mi bob dydd pa wlad roedden ni wedi’i chyrraedd, ac mi wnaeth hynny fy annog yn fawr i wneud fy siâr i o’r milltiroedd. Roedd yr her hefyd yn rhoi rhywbeth iddyn nhw ganolbwyntio arno bob dydd, sy’n gysur mawr iddyn nhw yn ystod y pandemig a’i gyfyngiadau.”

Bydd yr holl arian nawdd a gesglir yn cael ei roi i elusen eleni, Awyr Las, elusen GIG Gogledd Cymru.

Yn awyddus i beidio â cholli momentwm, mae gan TGC her arall ar y gweill a byddant yn dechrau arni ym mis Chwefror.

O Amgylch y Byd Mewn 80 Diwrnod ar gyfer Awyr Las

Wrth i ni gynefino â bywyd o weithio gartref, mae codi arian wedi profi’n dipyn mwy o her, ond nid yw hynny wedi rhwystro Tai Gogledd Cymru. Maen nhw bob amser yn barod am her … ac maen nhw wedi dewis tipyn o her!

Ar ddiwedd mis Hydref lansiwyd her ‘O Amgylch y Byd Mewn 80 Diwrnod’, her lles/ffitrwydd i staff TGC a’u teuluoedd sy’n anelu at gerdded/beicio/rhedeg cyn belled ag y gallant o gwmpas y byd mewn 80 diwrnod, targed o 24,901 milltir erbyn yr 16eg o Ionawr.

Eglurodd Emma Williams, Cyfarwyddwr Cyllid Cynorthwyol:

“Wrth ddewis yr her roeddem am gyflawni dau beth. Roeddem am helpu iechyd a lles staff ac yn ail, roeddem am godi arian i elusen. Roeddem o’r farn bod hwn yn syniad perffaith. Yn ogystal â chymryd rhan bydd staff hefyd yn casglu arian nawdd a fydd yn mynd at elusen eleni, Awyr Las. ”

Mae staff TGC, teulu a ffrindiau wedi teithio 7,500 milltir hyd yma, mynd allan ym mhob tywydd yn ogystal â thramwyo ar y felin draed. Gyda llwybr wedi’i gynllunio sy’n mynd â nhw ar daith ar draws y byd, ar hyn o bryd maen nhw wedi cyrraedd China.

Dywed Emma:

“Mae wedi mynd yn dda iawn hyd yma, mae cymaint o bobl wedi cymryd rhan. Rydyn ni’n gweld staff yn mynd ar deithiau cerdded a reidiau beic gyda’u teuluoedd a’u hanifeiliaid anwes. Rydyn ni’n gweld golygfeydd hyfryd o ogledd Cymru, ac mae rhai yn rhannu’r ystyr hanesyddol y tu ôl i’w teithiau cerdded sy’n braf.”

Gallwch ddilyn eu taith ar Facebook, Twitter neu ewch i’w gwefan lle byddant yn postio’r newyddion diweddaraf am yr her.

Awyr Las wedi ei ddatgelu fel elusen y flwyddyn TGC

Rydym yn hynod falch o ddatgelu mai’r elusen a ddewiswyd gennym i’w chefnogi eleni yw… Awyr Las!

Mae Awyr Las yn elusen leol yng ngogledd Cymru sy’n gweithio ochr yn ochr â’r GIG i sicrhau bod cleifion yn elwa ar wasanaethau GIG gwell pan fydd eu hangen arnynt fwyaf.

Mae’r elusen yn darparu offer a gwasanaethau sy’n newid bywydau cleifion mewn ysbytai ac mewn cymunedau ledled gogledd Cymru o eitemau bach fel cadeiriau cyfforddus i gleifion damweiniau ac achosion brys a dialysis i dechnoleg flaengar ar gyfer unedau canser, strôc a gofal arbennig i fabanod.

Ar adeg pan fo cymaint o edmygedd a diolchgarwch yn cael ei ddangos i staff y GIG, credwn fod hon yn elusen addas iawn i ni ei chefnogi.

Datgelu cyfanswm blynyddol codi arian i elusennau

Mae Tai Gogledd Cymru (TGC) yn falch o ddatgelu ein bod wedi codi cyfanswm o £3,752 ar gyfer elusennau yn 2017 – 2019.

Yn wahanol i flynyddoedd blaenorol, bydd y cyfanswm hwn yn cael ei rannu rhwng dwy elusen, Createasmile ac i brynu CuddleCot ar gyfer Ysbyty Gwynedd, Bangor.

Esboniodd Emma Williams, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyllid, sydd hefyd yn arwain y Panel Elusennau:

“Mae wedi bod yn bleser i ni godi arian ar gyfer dau achos gwerth chweil; nid oedd y Panel Elusennau yn gallu penderfynu rhwng y ddau ac roeddem yn meddwl pam ddim rhannu’r arian!”

Codwyd y cyfanswm gan lif cyson o weithgareddau, gan gynnwys arwerthiant Facebook, bingo, rafflau, siop fwyd a gwisgo dillad anffurfiol ar ddiwrnod cyflog.

Mae Creatasmile yn elusen gofrestredig ar gyfer plant ag awtistiaeth/asperger ADHD, pob anabledd, anghenion addysgol arbennig a’u teuluoedd. Maent yn cynnig sesiynau hwyl i’r teulu ac yn cefnogi misol ar draws gogledd Cymru.

Derbyniodd Sharon L. Bateman, Prif Weithredwr/Sylfaenydd Creatasmile y siec gan Banel Elusennau TGC ym mis Mehefin eleni:

“Mae Creatasmile wrth ei fodd o dderbyn yr arian a godwyd diolch i bawb yn Tai Gogledd Cymru a’u tenantiaid.”

“Mae’r arian a godir yn rhoi cyfle i blant a theuluoedd fwynhau digwyddiadau hwyliog yn fisol lle gall plant ag awtistiaeth ac anghenion ychwanegol fod yn nhw eu hunain ymhell o ragfarn pobl nad ydynt yn deall anhwylderau sbectrwm a lle gall eu teulu ymlacio a chyfarfod ag eraill mewn sefyllfaoedd tebyg, yn ogystal â’n galluogi i ddarparu hyfforddiant a chymwysterau Agored Cymru ar gyfer plant hŷn sydd ag anghenion ychwanegol dros 13 oed.”

“Ethos Creatasmile yw y dylai pob plentyn a pherson ifanc allu cyrraedd eu llawn botensial a diolch i Tai Gogledd Cymru rydym yn gallu gweld hyn yn digwydd yn ein cymuned.”

Ail ddewis y Panel Elusennau yw Cuddle Cot ar gyfer Ysbyty Gwynedd. Pad oeri yw’r cot y gellir ei roi mewn unrhyw fath o wely baban – o fasgedi Moses i gotiau cario, pramiau neu gotiau – er mwyn caniatáu amser i alaru i deulu sydd wedi colli baban. Mae Tai Gogledd Cymru wedi codi digon o arian i Ysbyty Gwynedd brynu un Cuddle Cot.

Dywedodd Emma Williams, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyllid:

“Mae staff TGC yn hoffi cymryd rhan yn y gymuned; wrth weithio yn y maes tai gallwn weld y budd o fuddsoddi yn y gymuned a’r gwasanaethau y mae’n eu cynnig.”

“Diolch i bawb a gymerodd ran yn unrhyw un o’r gweithgareddau codi arian; gwnaed hyn i gyd y tu allan i amser gwaith, felly rydym yn ei werthfawrogi’n fawr. Diolch hefyd i bob busnes a roddodd wobrau i’n harwerthiant Facebook.”

Rydym yn falch o ddatgelu mai’r elusen ar gyfer 2019 – 2020 yw Cymdeithas Achub Mynydd Gogledd Cymru. Fe’i ffurfiwyd ym mis Mai 1973 ac mae’r gymdeithas yn darparu gwasanaethau achub ledled gogledd Cymru trwy ei sefydliadau sy’n aelodau. Mae’r timau’n cynnwys tîm Chwilio ac Achub Aberdyfi yn y de, Tîm Chwilio ac Achub De Eryri, Tîm Achub Mynydd Aberglasyn, Tîm Achub Mynydd Llanberis, Sefydliad Achub Mynydd Dyffryn Ogwen a Chwilio ac Achub Gogledd Ddwyrain Cymru.

Maent yn darparu ystod o weithgareddau achub gan gynnwys chwilio am bobl mewn tir mynyddig ac anhygyrch, achub rhag dyfroedd cyflym a llifogydd a chwilio am bobl fregus sydd ar goll o’u cartref. Mae ei holl aelodau yn wirfoddolwyr di-dâl, sy’n barod i ddod allan ym mhob tywydd ar unrhyw adeg o’r dydd i helpu rhai mewn angen.

Mae ein hocsiwn elusenol Facebook yn ol!

Mae Tai Gogledd Cymru yn trefnu ocsiwn ar-lein Facebook yn ystod Mawrth 2019 er mwyn codi arian i’r elusennau canlynol: Create a smile a Cuddle cots ar gyfer Ysbyty Gwynedd.

Mae’r ocsiwn yn dilyn llwyddiant ocsiwn yn 2016 wnaeth hel cyfanswm anhygoel o £1,095.10 i Hosbis Dewi Sant.

Mae’r ocsiwn YN FYW rŵan! Gallwch ddilyn yr ocsiwn ar ein tudalen Facebook yma https://www.facebook.com/events/243148986624730/. Ticiwch ‘Going’ er mwyn cael eich hysbysu o bob post. Blas o beth fydd ar gael yn yr ocsiwn: Tocyn teulu i Fferm Foel, Tocyn teulu ar drên Llyn Padarn, Tocyn teulu i gastell Penrhyn, Tocyn petrol £20, Tocyn £20 i Tops Chinese restaurant yn Llandudno, Tocyn anrheg £25 yn Argos, sawl potel alcohol a llawer iawn mwy.

Gyda diddordeb mewn bidio ond ddim ar Facebook? Cysylltwch â ni.

Dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn Tai Gogledd Cymru

Dathlodd staff a thrigolion Tai Gogledd Cymru Ddydd Gŵyl Dewi ddydd Gwener y 1af o Fawrth.

Dewi Sant yw nawdd sant Cymru ac fe’i dathlir ar y 1af bob blwyddyn.

Daeth staff swyddfa Cyffordd Llandudno a Bangor gyda’i gilydd dros amser cinio i ddathlu. Fe wnaethon nhw fwynhau bwyd traddodiadol megis lobsgóws, cawl cennyn a chacennau gri dros gwis Cymraeg. Aeth yr holl elw i’r elusennau am y flwyddyn, sef Creasmile a Cuddle-cot ar gyfer Ysbyty Gwynedd.

Wnaeth trigolion rhai o’n cynlluniau hefyd farcio’r achlysur, gan fwynhau cinio hyfryd a cherddoriaeth Cymraeg. Fe wnaeth trigolion Llys y Coed fwynhau perfformiad gan ddeuawd Cymreig Dylan a Neil.