Awyr Las wedi ei ddatgelu fel elusen y flwyddyn TGC

Rydym yn hynod falch o ddatgelu mai’r elusen a ddewiswyd gennym i’w chefnogi eleni yw… Awyr Las!

Mae Awyr Las yn elusen leol yng ngogledd Cymru sy’n gweithio ochr yn ochr â’r GIG i sicrhau bod cleifion yn elwa ar wasanaethau GIG gwell pan fydd eu hangen arnynt fwyaf.

Mae’r elusen yn darparu offer a gwasanaethau sy’n newid bywydau cleifion mewn ysbytai ac mewn cymunedau ledled gogledd Cymru o eitemau bach fel cadeiriau cyfforddus i gleifion damweiniau ac achosion brys a dialysis i dechnoleg flaengar ar gyfer unedau canser, strôc a gofal arbennig i fabanod.

Ar adeg pan fo cymaint o edmygedd a diolchgarwch yn cael ei ddangos i staff y GIG, credwn fod hon yn elusen addas iawn i ni ei chefnogi.