Ffôn Symudol

Oeddech chi’n gwybod y gallwch dalu eich Rhent drwy ddefnyddio eich ffôn symudol? Gan fod y rhan fwyaf o bobl yn cadw eu ffonau symudol wrth eu hochr 24/7, efallai mai hyn yw’r ffordd gyflymaf a mwyaf cyfleus o dalu eich Rhent. Y cyfan sydd ei angen yw ffôn symudol, Cerdyn Credyd/Debyd a Cherdyn Talu Allpay.

I dalu eich Rhent drwy ddefnyddio eich ffôn symudol, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw lawrlwytho App Allpay o’r App Store, Google Play Store neu Windows Phone Store.

Lawrlwythwch y App yn awr yma:

app-store google-playWindowsPhone_125x40_blk

 

 

Yna, bydd angen i chi gofrestru eich manylion, a dilyn y cyfarwyddiadau clir a syml. Os oes angen unrhyw gymorth arnoch, cysylltwch â’r Tîm Rhenti 01492 572727 neu anfonwch e-bost at [email protected].

Cysylltwch â Rhenti ar 01492 572727 os nad oes gennych Gerdyn Talu Allpay ac os hoffech i ni archebu un i chi.