Rydym yn hoffi meddwl am ein hunain fel cymdeithas dai sy’n rhoi help llaw. Rydym am eich helpu chi. Dyna pam rydym wedi rhoi’r dudalen hon at ei gilydd, a chael un lle hwylus sy’n llawn o bethau rydym yn meddwl fydd yn ddefnyddiol i chi. O gyngor ariannol a chyfleustodau, adnoddau cyllidebu, y diweddaraf am fudd-daliadau a gwybodaeth am grantiau a chyllid sydd ar gael, bydd y cyfan ar gael i chi yma.
Cael trafferth i dalu eich rhent?
Os ydych yn cael trafferth i dalu eich rhent, mae’n bwysig iawn eich bod yn cysylltu â ni cyn gynted â phosibl ar 01492 572727 neu [email protected]. Rydym yma i helpu a byddwn yn asesu’r sefyllfa ac yn rhoi cymorth a chyngor i chi.
Astudiaeth achos
Isod mae Astudiaeth Achos sy’n dangos y gefnogaeth a gynigir i un o’n tenantiaid gan ein tîm ymroddedig o swyddogion incwm. Gydag agwedd bersonol ac empathig, mae ein swyddogion incwm yn ymgorffori ysbryd Tai Gogledd Cymru, gan bwysleisio ein hymrwymiad i greu amgylchedd cefnogol a meithringar i’n holl drigolion.
