Sut i Arbed Ynni

Gwnewch Eich Cartref yn Gynhesach

Symudwch unrhyw ddodrefn o flaen eich rheiddiaduron fel y gall gwres gylchredeg yn haws

  • Caewch lenni a drysau yn ystod tywydd oer igadw’r gwres i mewn
  • Gwnewch bethau atal drafftiau, neu prynwch rai o’r siop, i leihau drafftiau o amgylch ffenestri, drysau, fflapiau cath / cŵn, drysau atig
  • Dylech osgoi sychu dillad yn uniongyrchol ar y rheiddiadur gan fod hynny’n gallu gwneud iddynt weithio’n galetach i ddarparu’r un lefel o wres, yn hytrach defnyddiwch hors ddillad
  • Dylech ‘waedu’ eich rheiddiaduron, mae hyn yn cael gwared ar bocedi aer i wneud iddynt weithio’n fwy effeithlon
  • Gwnewch yn siŵr bod eich bwyler yn cael ei wasanaethu bob blwyddyn er mwyn iddo weithio mor effeithlon â phosibl.

Arbedwch Arian ar Eich Biliau Ynni

  • Gosodwch fesurydd clyfar (cewch un am ddim gan eich cyflenwr ynni). Bydd yn anfon darlleniadau mesurydd at eich cyflenwr fel bod eich biliau’n gywir, a bydd y sgrin yn dangos i chi faint yn union o ynni rydych yn ei ddefnyddio
  • Os nad oes gennych chi fesurydd clyfar, rhowch ddarlleniadau rheolaidd i’ch cyflenwr er mwyn osgoi biliau ar sail amcangyfrif gan eu bod yn gallu bod yn anghywir
  • Diffoddwch neu tynnwch blygiau unrhyw offer pan nad ydynt yn cael eu defnyddio – os oes ganddynt olau ‘stand-by’, sgrin wedi’i oleuo neu os ydynt yn teimlo’n boeth, byddant yn defnyddio ynni gan eu bod wedi’u plygio i mewn
  • Golchwch lwythi llawn o ddillad pan fo’n bosibl; golchwch ar 30 gradd yn Ile 40 gradd
  • Ar gyfartaledd, mae aelwyd yn y DU yn berwi’rtegell 1,500 o weithiau’r flwyddyn – defnyddiwch faint o ddŵr sydd ei angen arnoch yn unig
  • Mae cadw offer yn lân a’i gynnal yn briodol yn eu helpu i fod yn effeithlon – gwagiwch eich hwfer, glanhewch eich tegell, peiriannau golchi a pheiriannau golchi Ilestri, gwagiwch ddroriau gwlaniach ar beiriannau sychu dillad, ceisiwch ddadmer eich rhewgell yn rheolaidd a thrwsiwch unrhyw sêl ar oergelloedd a rhewgelloedd os byddant yn torri
  • Trowch eich thermostatau i lawr 1 gradd, neu fwy mae’r rhan fwyaf o bobl yn ystyried bod rhwng 18°C and 21°c yn gyfforddus
  • Defnyddiwch yr amsewdcl ar eich system wresogi fel eich bod yn gwresogi dim ond pan fydd angen.