Logiwch i mewn i Fy TGC a chael cyfle i ennill taleb gwerth £50!
Mae Porth Tenantiaid Tai Gogledd Cymru wedi cael enw newydd a bwyd newydd! Bellach mae Fy TGC, enw newydd TGC Rhyngweithiol yn ymatebol, sy’n golygu y gallwch gael mynediad a rheoli eich cyfrif o’ch ffôn, tabled, gliniadur neu PC 24/7.
Nid dyna ddiwedd y newidiadau! Mae bellach yn caniatáu i chi…
- Edrych ar fanylion eich tenantiaeth 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos
- Adrodd a thracio gwaith Trwsio
- Talu eich rhent drwy ddefnyddio Allpay
- Cysylltu â ni
- Gweld ac argraffu copi o’ch datganiad cyfrif rhent
- Diweddaru eich manylion cyswllt a’ch dewisiadau cyfathrebu
Os rydych eisoes wedi cofrestru gyda TGC Rhyngweithiol bydd eich manylion logio i mewn yn aros yr un fath. Gallwch logio i mewn yma, neu gan glicio ar y botwm Fy TGC ar bob tudalen y wefan.
Os nad ydych wedi cofrestru eisoes bydd y prif denant yn cael llythyr gydag eich manylion yn fuan. Eisiau defnyddio’r gwasanaeth rŵan? Gallwch gofrestru eich hunain yma.
Ticiwch y blwch ar y ffenestr naid (pop-up screen) pan fyddwch wedi logio mewn a chael cyfle i ennill taleb gwerth £50 o amrywiaeth o siopau Stryd Fawr a siopau ar-lein. Datgelir yr enillydd ar ddydd Gwener 29 Ebrill 2016, cadwch lygad ar eich negeseuon i weld os ydych wedi ennill.
Cysylltu â Ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddefnyddio Fy TGC neu os ydych eisiau help cysylltwch â ni ar 01492 572727 neu[email protected]