Trydanwr (Contract dros dro am 9 mis)

Dyddiad Cau: Dyddiad Cyfweld:
Cyflog: Cyflog o £36,615 y flwyddyn
Lleoliad: Ystwyth – gweithio yn Eiddo Tai Gogledd Cymru ar draws y Gogledd
Teip: Dros Dro, Llawn Amser, Tîm Cartrefi
Oriau: yn gweithio 40 awr yr wythnos, dydd Llun i ddydd Gwener 8am i 4:45pm

Proffil Rôl
Ffurflen Cais

Trydanwr

Os oes gennych gymhwyster trydanol cydnabyddedig ynghyd â phrofiad o gwblhau profion, canfod namau, trwsio a gosodiadau trydanol, mae hwn yn gyfle gwych i chi ymuno â’n sefydliad blaengar gyda diwylliant cynhwysol, lle byddwch yn elwa o’n cefnogaeth lawn i gyflawni eich datblygiad personol.

  • Cyflog o £36,615 y flwyddyn
  • Contract dros dro am 9 mis, yn gweithio 40 awr yr wythnos, dydd Llun i ddydd Gwener 8am i 4:45pm
  • Ystwyth – gweithio yn Eiddo Tai Gogledd Cymru ar draws y Gogledd
  • Fan cwmni at ddibenion gwaith, ac offer wedi ei ddarparu
  • O leiaf 25 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc
  • Nifer o fuddion gydag arbedion ar fwyd, siopa ar y stryd fawr, technoleg newydd, gwyliau ac ati.
  • Cefnogaeth gydag astudiaethau pellach a chyfleoedd datblygu gyrfa
  • Cynllun Prynu Gwyliau Blynyddol a Beicio i’r Gwaith
  • Cymorth iechyd gweithwyr a chynllun arian parod
  • Tâl mamolaeth a thadolaeth ychwanegol
  • Cynllun pensiwn cyfrannol hael

 

Ein Sefydliad

Yma yn Tai Gogledd Cymru, rydym yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl bob dydd. Os ydych wedi ymrwymo i’n helpu i gyflawni hyn, byddwn yn sicrhau ein bod yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’ch bywyd hefyd. Gadewch i ni weithio gyda’n gilydd i adeiladu ar 50 mlynedd o ddarparu cartrefi o safon ar draws Gogledd Cymru, buddsoddi mewn cymunedau a chefnogi’r rhai sy’n wynebu digartrefedd.

Fel cyflogwr Buddsoddwyr Safon Aur mewn Pobl, rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd lle gall ein pobl ffynnu a bod yn falch o’u gwaith, mewn diwylliant sy’n eu galluogi i gyflawni eu potensial a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad. Yn 2021, daethom yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd ac yn 2023 cawsom ein rhestru fel cyflogwr ‘rhagorol i weithio iddo’ gan achrediad Best Companies.

 

Y Swydd – Trydanwr

Mae hon yn swydd sy’n seiliedig ar fod allan yn y maes yn gweithio mewn eiddo preswyl ac eiddo gwag ar draws gogledd Cymru, lle byddwch yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth cynnal ac adnewyddu trydanol o safon, ymfalchïo yn eich gwaith a dangos parch mawr at ofal cwsmeriaid bob amser. Bydd hyn yn cynnwys:

  • Profi gosodiadau trydanol
  • Cwblhau ail-wifrau llawn a rhannol (fel uwchraddio cegin ac ystafell ymolchi)
  • Gosod Systemau Ynni Deallus
  • Ymgymryd â hyfforddiant ac uwchsgilio ar gyfer technoleg sy’n ymwneud â’n nodau datgarboneiddio yn y dyfodol
  • Sicrhau bod yr holl waith papur a thystysgrifau yn cael eu cwblhau yn unol â deddfwriaeth/rheoliadau perthnasol a chanllawiau NICEIC
  • Cymryd cyfrifoldeb am gynnal a chadw cerbyd, ynghyd ag offer, cyfarpar a deunyddiau
  • Cynorthwyo gyda goruchwylio prentisiaid a hyfforddeion
  • Cymryd rhan mewn rota galwadau y tu allan i oriau, lle mae’n bosibl y bydd gofyn i chi fynychu sefyllfaoedd brys

 

Ein Gofynion – Trydanwr

  • Cymhwyster masnach cydnabyddedig ar 18fed Argraffiad Rheoliadau IEE, ynghyd â chymhwyster C&G 2391-52 neu gyfwerth
  • Profiad ôl-gymhwyso amlwg, gan gynnwys profi / canfod namau / gwaith trwsio a gosodiadau
  • Y gallu i gynnal sgyrsiau sylfaenol yn Gymraeg (er y gallech gael trafferth cadw i fyny yn llawn)
  • Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig cadarn
  • Trwydded yrru ddilys yn y DU

 

Mae gwaith yn gofyn am godi a chario a gweithredu offer llaw a phŵer. Dylid defnyddio’r holl offer yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch

Yn Tai Gogledd Cymru rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles defnyddwyr gwasanaeth. Rhaid i chi fod yn barod i’n sefydliad gynnal gwiriad datgeliad DBS sylfaenol.

Mae Tai Gogledd Cymru yn sefydliad cyfle cyfartal sy’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol yn arbennig. Bydd pob ymgeisydd Du, Asiaidd ac o leiafrif ethnig, yn ogystal ag ymgeiswyr anabl sy’n bodloni ein meini prawf hanfodol yn sicr o gael cyfweliad.

Bydd llunio rhestr fer o geisiadau a chyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn digwydd tra bo’r hysbyseb yn fyw; bydd yr hysbyseb yn cau unwaith y bydd ymgeiswyr llwyddiannus wedi cael eu canfod. Felly anogir ymgeiswyr i gyflwyno ceisiadau cyn gynted â phosibl.

Datganiad Preifatrwydd 
Fel rhan o’n proses recriwtio, mae Tai Gogledd Cymru (TGC) yn casglu ac yn prosesu data personol sy’n ymwneud ag ymgeiswyr am swyddi. Data personol yw unrhyw ddata neu wybodaeth y gellir ei defnyddio i adnabod unigolyn neu ddata a fyddai, o’i gymysgu â gwybodaeth arall a gedwir am yr un unigolyn, yn ei gwneud yn amlwg pwy yw gwrthrych y data. Mae TGC wedi ymrwymo i fod yn dryloyw ynghylch sut y mae’n casglu ac yn defnyddio’r data hwnnw ac i gyflawni ei rwymedigaethau diogelu data. I weld ein Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd Swydd, CLICIWCH YMA