Cronfa Gymunedol Tai Gogledd Cymru

Datblygwyd ein rhaglen Cronfa Gymunedol i ddarparu cymorth ariannol i gynorthwyo grwpiau gwirfoddol, cymunedol, hamdden neu breswylwyr sydd wedi’u lleoli yn siroedd Conwy, Gwynedd, Ynys Môn, Sir Dinbych a Wrecsam.

Dylai’r sefydliadau/grwpiau hyn fod yn datblygu prosiectau a mentrau sydd o fudd i’r gymuned leol. Mae dyfarniadau ariannol fel arfer yn amrywio o £25 i £250.

Mae’n rhaid i’r sefydliadau sy’n ymgeisio am arian adlewyrchu gwerthoedd Tai Gogledd Cymru: Agor, Ymddiriedaeth, Ymatebol, Tegwch a Dysgu.

Rhaid i sefydliadau sy’n gwneud cais am arian fod yn:

  • Sefydliad/grŵp cyfansoddol a chael cyfrif banc sydd ag o leiaf dau lofnodwr.
  • Dilyn polisi mynediad agored o ran aelodaeth, defnydd o’u cyfleusterau a chymryd rhan mewn gweithgareddau.
  • Anwleidyddol

Ni ellir defnyddio ein Cronfa Gymunedol i gefnogi gweithgareddau gwleidyddol, gweithgareddau crefyddol, hybu amcanion personol neu unrhyw beth nad yw’n gyson ag amcanion corfforaethol Tai Gogledd Cymru.

Rhaid i geisiadau ddangos sut y gallai’r arian fod o fudd i breswylwyr Tai Gogledd Cymru. Fel arfer dylai grwpiau/sefydliadau ddisgwyl un grant yn unig ym mhob blwyddyn ariannol. Nodwch fod ein Cronfa Gymunedol yn gronfa gyfyngedig ac na fydd yr holl geisiadau sy’n bodloni’r meini prawf yn llwyddiannus.

Barn ymgeiswyr llwyddiannus

“Fel un o sylfaenwyr Maes-G Showzone, clwb celfyddydau perfformio ar gyfer plant a phobl ifanc Maesgeirchen a’r gymuned ehangach, mi wnes i gysylltu efo CTGC am grant cymunedol i’n helpu i brynu esgidiau dawns er mwyn i’n haelodau gael eu defnyddio ar gyfer perfformiadau ac yn enwedig ein sioe flynyddol. O ganlyniad i haelioni CTGC roeddem yn gallu rhoi’r grant tuag at brynu ein stoc gynyddol o esgidiau dawns.

Mae sicrhau cydraddoldeb i’n haelodau yn rhan fawr o’n hethos allweddol gan ei fod yn amlwg yn hyrwyddo hunan-barch a hunanwerth yn ogystal ag atgyfnerthu’r teimlad o berthyn yn ein haelodau. Diolch Tai Gogledd Cymru am ein helpu i wneud gwahaniaeth yn y gymuned.”

Eirian, Maes G Showzone

 

“Cafodd Côr Bro Cernyw grant o Gronfa Gymunedol Tai Gogledd Cymru.  Mae’r Côr cymunedol yn rhoi cyfle i tua 100 o bobl gael pleser o ganu gyda’i gilydd ac mae’n cyfrannu at les iechyd yr aelodau mewn ardal wledig yn Sir Conwy.”

Elwen, Côr Bro Cernyw

Mwy o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Iwan Evans ar 01492 562727 neu [email protected].