Grant Datblygiad Personol

Mae ein Grant Datblygiad Personol wedi cael ei ddatblygu er mwyn mynd i’r afael â rhwystrau ariannol a allai fod yn eich atal rhag cael mynediad i addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth.

Uchafswm y grant sydd ar gael yw £250

Mae enghreifftiau o’r hyn y gellir ei ariannu yn cynnwys:

  • Offer neu gyfarpar ar gyfer swydd neu gymhwyster e.e. pecyn trin gwallt neu lyfrau ar gyfer coleg
  • Ffioedd cwrs
  • Dillad ar gyfer cyfweliad

Ni all y canlynol gael eu hariannu:

  • Costau byw bob dydd fel biliau neu dâl rhent
  • Costau dros £250
  • Costau ôl-weithredol

Bod yn Gymwys

  • Rhaid i ymgeiswyr fod yn 16 oed neu’n hŷn ac yn byw mewn eiddo Tai Gogledd Cymru
  • Ni ddylai ymgeiswyr fod â hanes o ôl-ddyledion rhent sylweddol neu faterion rheoli tenantiaeth (fel ymddygiad gwrthgymdeithasol)
  • Dylai ymgeiswyr fod yn derbyn naill ai budd-dal prawf modd neu gredydau treth oherwydd incwm isel
  • Bydd ymgeiswyr sy’n derbyn Lwfans Byw i’r Anabl hefyd yn gymwys i wneud cais
  • Ni ddylai ymgeiswyr fod yn un o weithwyr Tai Gogledd Cymru

Bydd angen i chi ddangos ar y ffurflen gais sut y gallai’r grant eich helpu i gyflawni eich amcanion, a hefyd pa rwystrau/heriau y bydd yn eich helpu i’w goresgyn.

Os yn llwyddiannus bydd gofyn i chi ddarparu prawf o wariant ar gyfer pob pryniant a wneir gyda’r grant, e.e. derbynebau.

Nodwch fod ein Grant Datblygiad Personol yn gronfa gyfyngedig ac nid fydd pob cais sy’n cyflawni’r meini prawf yn llwyddo.

Beth yw barn ymgeiswyr llwyddiannus

“Mi wnes i ddod ar draws y Grant Datblygiad Personol ar wefan Tai Gogledd Cymru. Roeddwn wedi gweld rhai cyrsiau celf a oedd i gael eu cynnal ar-lein oherwydd y pandemig, ond nid oedd gennyf yr offer yr oeddwn eu hangen i gymryd rhan. Roeddwn i eisiau cymryd rhan yn y cyrsiau hyn i ddatblygu fy sgiliau ymhellach. Roedd y broses o gael y grant yn hawdd, cefais gefnogaeth gan aelod o staff i lenwi’r ffurflen. Byddai gwneud cwrs yn datblygu fy sgiliau ond hefyd yn fy helpu yn feddyliol trwy roi strwythur a phwrpas i’m dyddiau yn ystod yr amser anodd hwn. Rwy’n cysgodi oherwydd y pandemig ac roedd y cwrs celf hefyd yn golygu fy mod yn gallu gweld pobl ar-lein ar Teams a rhannu gwaith. Rwy’n teimlo’n rhan o rywbeth er fy mod i’n aros adref yn ddiogel. Mae’r offer celf wedi dod â llawenydd yn yr amseroedd anodd hyn, sy’n golygu y gallaf fynd â fy ngwaith celf i’r lefel nesaf.”

Bethan

Mwy o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Iwan Evans ar 01492 562727 neu [email protected]