Prosiect awyr agored

Rydym wedi cynnal nifer o brosiectau awyr agored, gan gynnig profiadau gweithgareddau awyr agored o ansawdd uchel i denantiaid, weithiau gyda’r opsiwn o ennill cymhwyster.

Mae gweithgareddau’r gorffennol wedi cynnwys dringo dan do ac yn yr awyr agored, cerdded bryniau, canŵio a beicio mynydd.

Dyma farn rhai tenantiaid ynghylch sut brofiad oedd y gweithgareddau iddyn nhw:

“Rydw i wedi mwynhau’r gweithgareddau awyr agored hyn oherwydd maen nhw wedi rhoi cyfle i mi roi cynnig ar bethau newydd a helpu gyda fy ofn o reidio beic a fy ofn o uchder ac rwyf wedi dysgu llawer am yr awyr agored hefyd ac ar ben hynny maen nhw wedi fy helpu gyda fy ffitrwydd a fy helpu i roi hwb i fy hyder ac rwy’n edrych ymlaen at wneud mwy y flwyddyn nesaf.”

Ann

“Mae’r prosiect hwn wedi rhoi cyfle i mi gymryd rhan mewn gweithgareddau na fyddwn wedi gallu eu gwneud o’r blaen. Rwyf wedi cyfarfod efo pobl newydd ac wedi dysgu llawer o sgiliau newydd.”

Jason

“Rwy’n falch iawn fy mod wedi cymryd rhan yn y gweithgareddau awyr agored, mae wedi bod yn dda iawn rhoi cynnig ar bethau na fyddwn fel arfer yn eu gwneud, hefyd roedd yr hyfforddwyr yn ddefnyddiol iawn. Diolch i TGC ac Iwan am drefnu’r cyfan.”

Paul

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn rhywbeth fel hyn, cysylltwch ag Iwan ar [email protected] neu 01492 563232.